Mae’r grŵp Gwyddor Data Poblogaeth, a elwid gynt yn grŵp Gwybodeg Iechyd, yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar flaen y gad ym maes cynyddol bwysig Gwyddor Data Poblogaeth – sef gwyddoniaeth data yn ymwneud â phobl.
Mae Gwyddor Data Poblogaeth yn faes amlddisgyblaethol sy’n tyfu, sy’n canolbwyntio ar gasgliadau o unigolion, a’r profiadau biolegol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n llywio eu bywydau, eu hiechyd a’u lles.
Rydym yn falch o fod ar flaen y gad yn y gwyddorau hyn ar draws amrywiaeth o fentrau yn ymwneud â data yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ein grŵp, dan arweiniad yr Athro David Ford a’r Athro Ronan Lyons, yn gweithio’n lleol, ar draws y DU ac yn rhyngwladol er mwyn darparu amrywiaeth o fentrau sy’n canolbwyntio ar seilwaith, dadansoddi ac ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn defnyddio data’r boblogaeth er lles y cyhoedd mewn ffordd effeithiol, ddiogel ac sy’n dderbyniol yn gymdeithasol.
Rydym Yn
Yn sgil cyllid cychwynnol o £8 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Llywodraeth Cymru, rydym wedi denu llawer o ddyfarniadau allanol gan amrywiaeth eang o gyllidwyr ymchwil uchel eu parch, gyda chyfanswm o dros £80 miliwn yn y blynyddoedd diwethaf.
Y Cyfarwyddwr a’r Arweinydd Athrawol

Athro David Ford
Arweinwyr Academaidd

Yr Athro Rod Middleton

Yr Athro Simon Thompson

Yr Arthro Lucy Griffiths

YR ATHRO Rhiannon Owen

Yr Athro Ashley Akbari

Yr Athro Richard Fry
Athrawon Emeritws

Yr Athro Ronan Lyons

























