Effeithio ar Iechyd a Lles:
Nod gwaith ymchwil NCPHWR yw archwilio a deall achosion a chanlyniadau salwch, afiechydon, anafiadau a lles, gan ganolbwyntio ar roi dechreuad iach i fywydau plant a phobl ifanc a lleihau anghydraddoldeb. Mae hefyd yn ceisio cefnogi heneiddio’n iach.
Mae modd defnyddio’r canfyddiadau yn y maes hwn er mwyn llywio ac effeithio ar benderfyniadau polisi ac ymarfer ar sail tystiolaeth trwy amlygu ffactorau risg ar gyfer afiechydon a thargedau ar gyfer gofal iechyd ataliol.
Llywio Polisi ac Ymarfer:
Mae gan NCPHWR fynediad at ystod eang o ddata, am feysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a thai. Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan yn defnyddio eu harbenigedd er mwyn cysylltu’r data hwn, a phrofi effaith bosibl polisïau’r llywodraeth ar wahanol agweddau ar lesiant pobl, yn ogystal â’u hiechyd – ac wrth wneud hynny, maent yn darparu tystiolaeth hanfodol i alluogi gwneuthurwyr polisi i ddatblygu polisïau gwell.
Rhan bwysig o waith NCPHWR yw datblygu cynigion ymchwil newydd sy’n unioni â pholisïau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, gan gynnwys Ffyniant i Bawb: Strategaeth Genedlaethol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a gan ystyried y rhaglen ar gyfer meysydd llywodraeth yn Symud Cymru Ymlaen.
Mae’r Ganolfan yn ceisio cynorthwyo ymarfer a pholisi ar lefel leol a chenedlaethol, ac mae’n ceisio cyflawni hyn trwy gryfhau’r cyfnewid rhwng maes polisi, ymarfer a’r byd academaidd er mwyn amlygu meysydd ymchwil cyffredin, a thrwy ddylanwadu ar alwadau cyllido er mwyn cynorthwyo’r agendâu hyn.
Hwyluso Gwaith Ymchwil:
Adeiladu gallu
Mae NCPHWR yn ymrwymo i gynyddu nifer yr ysgoloriaethau ymchwil a chymrodoriaethau sy’n cael eu sicrhau yng Nghymru. Bwriad hyn yw cynyddu’r gwaith ymchwil a’r effaith ar y gymdeithas yng Nghymru.
Cydweithredu ar waith ymchwil newydd
Mae’r Ganolfan yn ceisio cynyddu nifer ac ansawdd y gwaith ymchwil wedi’i gyd-gynhyrchu a wneir yng Nghymru trwy hwyluso ac annog cydweithio ar waith ymchwil newydd.
Cynhelir digwyddiadau a gweithdai â’r nod o hwyluso gwaith ymchwil a datblygu cydweithrediadau newydd trwy gydol y flwyddyn. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau am ddiweddariadau ar y gweithdai sydd ar y gweill.
Ymgysylltu:
Nod gwaith ymchwil NCPHWR yw gwneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant pobl. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn bosibl ar ein pen ein hunain. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, ysgolion ac awdurdodau lleol, sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, Plant yng Nghymru a gwneuthurwyr polisi yn hanfodol wrth sicrhau bod gwaith ymchwil NCPHWR o’r ansawdd uchaf ac yn cael ei ddefnyddio er mwyn goresgyn heriau gofal iechyd presennol a chyfrannu at welliannau i wasanaethau a pholisïau.
Mae gweithgareddau ymgysylltu’r Ganolfan yn darparu llwyfan ar gyfer trafod, dadlau, cynhwysiant a hyrwyddo materion yn ymwneud ag iechyd, a datblygu gwaith ymchwil arloesol newydd.
Mae’n bwysig fod y canfyddiadau ymchwil yn effeithio ar bobl ym mywyd go iawn cyn gynted â phosibl, felly mae tîm Trosglwyddo Gwybodaeth NCPHWR yn gweithio i gyflawni hyn trwy drosglwyddo canfyddiadau ymchwil a gwybodaeth i staff, sefydliadau a gwleidyddion trwy gyfathrebiadau, cyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau.
Ymgysylltu â’r cyhoedd a’u cynnwys
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned a’u cynnwys yn rhan allweddol o waith NCPHWR. Mae ymrwymiad i ymgysylltu yn sicrhau bod pobl yn cael cyfle i lywio gwaith ymchwil NCPHWR gan hyrwyddo diwylliant o ymgysylltu rhwng y cyhoedd a’r ymchwilwyr.
Mae’r ganolfan yn gweithio er mwyn gwella a hwyluso sgyrsiau rhwng ymchwilwyr a’r cyhoedd trwy:
- Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd penodedig sy’n gweithio ar ddatblygu strategaethau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd a sefydlu rhwydwaith ymgysylltu â’r cyhoedd – gan gynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yng ngwaith ymchwil y ganolfan yn ogystal â chynnal a chymryd rhan mewn gweithdai, seminarau, cyfarfodydd, digwyddiadau a thrafodaethau ar-lein sy’n canolbwyntio ar y cyhoedd.
- Panel defnyddwyr yn cynnwys 16 aelod o’r cyhoedd sy’n cynghori, cynorthwyo ac yn rhoi mewnbwn i waith ymchwil NCPHWR.
Ymgysylltu â’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol
Mae ymchwilwyr NCPHWR yn troi at weithio gyda’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn:
- Gwerthuso gwasanaethau, triniaethau a ffyrdd o weithio.
- Eu helpu i ddeall anghenion cleifion a’r ffordd y mae’r gwasanaeth iechyd yn cael ei ddefnyddio.
- Cyflwyno canlyniadau gwell i gleifion a helpu i gyflwyno iechyd cyhoeddus gwell.
- Deall salwch ac afiechyd.
Ymgysylltu ag elusennau
Mae NCPHWR yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector ac elusennau er mwyn:
- Amlygu blaenoriaethau ymchwil
- Cynorthwyo eu staff i gymryd rhan wrth ddatblygu cynigion ymchwil newydd
- Ehangu mynediad at waith ymchwil ac ymarferwyr trwy sesiynau briffio, seminarau, cynadleddau a digwyddiadau
- Sicrhau bod y canfyddiadau ymchwil a gynhyrchir gan y ganolfan yn cael eu rhannu â’r trydydd sector a’u rhwydweithiau
Hefyd, mae NCPHWR yn ymgysylltu ag elusennau er mwyn cael mynediad at grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau ac aelodau’r cyhoedd sy’n cael eu heffeithio gan afiechydon neu gyflyrau penodol. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad gwell i ba waith ymchwil byddant yn elwa ohono fwyaf.
Ymgysylltu ag ysgolion ac awdurdodau lleol
Mae NCPHWR yn cydweithio’n agos ag ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn rhoi tystiolaeth iddynt y gellir ei ddefnyddio er mwyn helpu i wella eu gwasanaethau a chael dealltwriaeth well o anghenion y cyhoedd.
Mae HAPPEN a SHRN yn enghreifftiau o brosiectau presennol NCPHWR sy’n gweithio’n agos ag ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae’r prosiectau hyn yn llunio adroddiadau yn rheolaidd y gall ysgolion eu defnyddio er mwyn gwneud newidiadau a hyrwyddo iechyd a lles. Mae’r adroddiadau’n cael eu defnyddio gan awdurdodau yn ogystal, er mwyn eu helpu i gynllunio a gwneud newidiadau wrth gyflwyno gwasanaethau.
Ymgysylltu â’r llywodraeth a gwneuthurwyr polisi
Mae NCPHWR yn ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi, ar lefel llywodraeth leol a chenedlaethol, er mwyn darparu ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n eu galluogi i wella eu polisïau, gwasanaethau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ganolfan a’i ymchwilwyr yn gweithio ar ddatblygu gwaith ymchwil newydd sy’n cyd-fynd â pholisïau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a gan ystyried y rhaglen ar gyfer meysydd llywodraeth yn Symud Cymru Ymlaen.
Ymgysylltu â diwydiant
Mae NCPHWR wedi sefydlu cysylltiadau â sawl partner masnachol er mwyn amlygu cyfleoedd cyllido a chreu atebion arloesol ar y cyd sy’n mynd i’r afael â materion iechyd.
Digwyddiadau a gweithdai
Cynhelir digwyddiadau a gweithdai â’r nod o ymgysylltu â’r cyhoedd, y GIG, Gofal Cymdeithasol, y trydydd sector, ysgolion a llywodraeth leol/cenedlaethol trwy gydol o flwyddyn. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau i weld diweddariadau ar weithdai sydd ar y gweill.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Cadw mewn cysylltiad â’r holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf gan NCPHWR
Oes gennych chi gwestiwn?
Os oes gennych gwestiwn ymchwil, neu os hoffech weithio a chydweithio ag ymchwilwyr yn y Ganolfan, neu os oes gennych unrhyw ymholiad arall, cysylltwch â ni!