

Mae ADR UK (Ymchwil Data Gweinyddol y DU) wedi cyhoeddi grant gwerth £177,053 i helpu i ddeall yn well anghenion a phrofiadau pobl yng Nghymru a chanddynt Statws Cyn-sefydlog a Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Nod prosiect Cysylltu Data EUSS (Statws Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd), a arweinir gan ADR Cymru, yw deall yn well brofiadau dinasyddion yr UE sydd â Statws Sefydlog yng Nghymru a pha un a ydynt yn wahanol i brofiadau dinasyddion Prydeinig sy’n byw yng Nghymru. Bydd y ddealltwriaeth newydd hon yn cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau a gwasanaethau mwy gwybodus sy’n mynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth hon a allai fod mewn sefyllfa fregus.
Fel rhan o drefniadau Ymadael ehangach yr UE, mae dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru cyn diwedd y cyfnod pontio’n gallu cyflwyno cais am statws ‘sefydlog’ neu statws ‘cyn-sefydlog’ yn y DU drwy Gynllun Anheddu’r UE a gynhelir gan y Swyddfa Gartref. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Mehefin 2021 fan hwyraf. Bydd y statws hwn yn caniatáu i ddinasyddion yr UE barhau i fyw a gweithio yn y DU. Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud popeth mae’n gallu ei wneud i ddarparu cymorth a chyngor i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae ystadegau swyddogol ar ddinasyddion yr UE a’u statws mewnfudo’n gyfyngedig iawn. Deilliodd prosiect Cysylltu Data EUSS o ymrwymiad Prif Weinidog Cymru a’r angen i wella’r sylfaen dystiolaeth ar ddinasyddion yr UE yng Nghymru sy’n rhan o Gynllun Anheddu’r UE.
Yn ganolog i’r prosiect fydd y broses o greu set ddata ddiogel, anhysbys sy’n barod at ddibenion ymchwil a fydd yn helpu i archwilio profiadau dinasyddion yr UE yng Nghymru. Drwy gysylltu’r set ddata newydd hon â data dienw arall sydd eisoes ym Manc Data SAIL (Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Diogel), bydd prosiect EUSS yn galluogi dealltwriaeth well o brofiadau a chanlyniadau dinasyddion yr UE a chanddynt Statws Cyn-sefydlog (ar gyfer dinasyddion nad ydynt wedi bod yn byw yn y DU yn barhaol cyn 31 Rhagfyr 2020) a Statws Sefydlog (i ddinasyddion sydd wedi byw yn y DU am gyfnod parhaus o bum mlynedd cyn 31 Rhagfyr 2020) yng Nghymru.
Mae ymchwilwyr yn bwriadu archwilio nifer helaeth o elfennau yn y prosiect hwn, gan gynnwys:
- Iechyd (gan gynnwys iechyd meddwl) dinasyddion EUSS yng Nghymru. Bydd y broses hon o gysylltu data yn darparu cyfle i gymharu profiadau iechyd dinasyddion EUSS â gweddill y boblogaeth yng Nghymru.
- Cyflwr tai dinasyddion EUSS yng Nghymru. Yn aml mae safon y tai sydd ar gael yn gysylltiedig â llawer o ganlyniadau eraill, megis iechyd a chyflogaeth, sy’n gallu cael effaith ar les. Byddai gallu cysylltu data dinasyddion EUSS â data am dai yn darparu cyfle i gymharu profiadau dinasyddion yr EUSS o ran tai â phrofiadau gweddill poblogaeth Cymru.
- Ymrwymiad dinasyddion EUSS yn y gweithlu. Mae deall tueddiadau yn y gweithlu yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella iechyd yr economi. Bydd yr ymchwil yn archwilio profiadau dinasyddion EUSS yn y gweithlu.
- Profiadau addysgol dinasyddion EUSS. Gan fod cyrhaeddiad addysgol mor bwysig wrth ragfynegi canlyniadau eraill, byddai deall profiadau addysg dinasyddion EUSS yn hollbwysig er mwyn gallu deall mesurau cymorth y bydd eu hangen yn y dyfodol.
Gobeithir y caiff yr ymchwil, wedi cyfnod archwilio cychwynnol yng Nghymru, ei hehangu i weddill y DU er mwyn helpu i hysbysu pob un o’r pedair gwlad am anghenion penodol dinasyddion yr UE ar ôl Brexit.
Bydd yr holl ddata a ddefnyddir ym mhrosiect Cysylltu Data EUSS yn anhysbys – sy’n golygu y bydd yr holl ddynodwyr personol wedi’u dileu. Caiff ei ddal mewn amgylchedd diogel a’r unig rai a gaiff fynediad ato fydd ymchwilwyr achrededig yn ADR Cymru sy’n gaeth i fesurau llywodraethu a datgelu llym.
Mae prosiect Cysylltu Data EUSS yn un o saith grant cyllido a gafodd ei greu gan ADR UK, buddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sydd â’r nod o drawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr yn cyrchu’r cyfoeth o ddata gweinyddol sydd eisoes wedi’i greu gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus ar draws y DU.
Meddai Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Trefniadau Pontio Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru:
“Mae dinasyddion sy’n byw yng Nghymru yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cymunedau ac yn ein gweithleoedd. Mae llawer wedi bod yn chwarae rôl hanfodol yn ein busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus ar adeg hollbwysig. Rydym eisiau iddyn nhw barhau i fwynhau’r croeso a’r gwerthfawrogiad y mae Cymru wastad wedi’u cynnig.
“Gobeithiaf y bydd y prosiect hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig newydd a fydd yn ein galluogi i ddeall yn well brofiadau dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru a llywio’n gwaith wrth inni sicrhau bod ein gwasanaethau’n gweddu orau i bob rhan o’n poblogaeth.”
Wrth gyhoeddi cyllid yr EUSS, dywedodd Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr ADR UK:
“Eleni bydd perthynas newydd y DU gyda’r UE yn dechrau. Wrth inni ddod allan o’r cyfnod pontio, byddwn yn dechrau gweld sut mae hyn yn gweithio pan gaiff y berthynas newydd ei rhoi ar waith. Yn ystod yr adeg hon o newid, mae’n rhaid i ni sicrhau na chaiff unrhyw ran o’r boblogaeth, gan gynnwys Dinasyddion yr UE sydd â Statws Sefydlog, eu heffeithio’n anghymesur ac nid ydynt dan anfantais. I wneud hyn, mae’n rhaid i ni ddeall sut mae eu profiad yn wahanol i brofiadau eraill, a gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio grym y data cysylltiedig. Edrychwn ymlaen at ganfyddiadau’r prosiect hwn, a gobeithiwn y bydd yn chwarae rôl wrth lunio polisïau ar sail tystiolaeth yng Nghymru a’r DU.