

Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu pwysigrwydd mynediad at ddata amserol i ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddeall yn well sefyllfa a’i heffaith ar gymdeithas.
O ganlyniad i’r angen cynyddol am y data hwn, mae’r tîm caffael data yn ADR Cymru mewn partneriaeth â Banc Data SAIL, wedi sicrhau 28 o ffynonellau data hyd yn hyn er mwyn cynorthwyo gyda dadansoddiadau COVID-19.
Mae’r ddau sefydliad yn rhan o dîm traws-sefydliadol o’r enw Cymru’n Un a gafodd ei greu’n gyflym pan ddaeth achosion COVID-19 i’r amlwg er mwyn darparu’r arbenigedd a’r mewnwelediad angenrheidiol i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau polisi i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru (TAG) a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau’r DU (SAGE).
Bellach mae’r gymuned ymchwil ehangach yn gallu elwa o’r ffaith bod mwy o ddata ar gael. Mae ymchwilwyr cymeradwy y mae eu prosiectau’n cael eu cymeradwyo drwy broses cyflwyno cais arferol Banc Data SAIL a lle y bo’n briodol gyda chymeradwyaeth gan y Panel Achredu Ymchwil (RAP) hefyd, yn gallu cyrchu setiau data gweinyddol newydd, gan gynnwys data’r Cyfrifiad, yn ogystal â data perthynol i iechyd. Mae’n rhaid i ymchwilwyr sy’n cyrchu data o SAIL ddilyn y fframwaith ‘Five Safes’.
Mae rhai o’r setiau data dienw newydd sydd ar gael ym Manc Data SAIL yn cynnwys:
- Cyfrifiad Cymru ONS 2011 (CENW)
- Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion Blynyddol
- Set Ddata Presenoldeb Addysg
- Set Ddata Olrhain Symptomau COVID-19
- Set Ddata Brechiadau COVID (CVVD)
- Rhestr Warchod COVID-19
- Canlyniadau Profion COVID-19
- Prawf Llif Unffordd COVID (CVLF)
- Profi, Olrhain a Diogelu COVID-19 [CTTP]
- Data Dilyniannu COVID-19
Trwy ddefnyddio’r setiau data hyn a’u cysylltu â setiau data a gedwir yn ddiogel ym Manc Data SAIL, bu modd i dîm Cymru’n Un ddarparu dadansoddiadau cyflym i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru (TAG) a SAGE y DU ar nifer o feysydd gan gynnwys:
- Cyffredinrwydd agos at amser real heintiau ar lefel gymunedol gan ddefnyddio data profi COVID-19
- Profiadau’r bobl hynny a gafodd eu rhoi ar y rhestr warchod yng Nghymru a’r rhai a oedd yn byw gydag unigolyn ar y rhestr warchod
- Dadansoddiadau rhyddhau o’r ysbyty a chyffredinrwydd cymunedol ac achosion mewn cartrefi gofal
- Trosglwyddo COVID yn yr amgylchedd ysgol
- Gwerthusiad o frechiadau a cheulo yng Nghymru
Mae mynediad at ddata dienw at ddibenion ymchwil yn amodol ar broses lem Banc Data SAIL o ran llywodraethu a chyflwyno ceisiadau. Am restr o’r holl setiau data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer mynediad at ymchwil ddiogel ym Manc Data SAIL, cliciwch yma.