

Gwnaed yr ymchwil newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, PLOS Medicine, gan Arsyllfa Asthma Cymru Prifysgol Abertawe ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Gymhwysol Asthma UK, Cydweithrediad Ymchwil Gymhwysol Arfordir Gogledd-orllewin Lloegr (ARC NWC) ym Mhrifysgol Lerpwl a BREATHE – y Ganolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol.
Darganfu’r astudiaeth, a ariannwyd ar y cyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fod gan bobl ag asthma o ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru lai o reolaeth ar eu hasthma, eu bod yn dioddef o fwy o byliau o asthma a bod risg uwch iddynt farw.
Meddai Dr Mohammad Alsallakh, prif awdur yr astudiaeth,
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos nad yw baich asthma wedi’i ddosbarthu’n deg o fewn cymdeithas, ond bod man geni pobl a’r man lle y maent yn byw yn effeithio ar y baich hwn. Darganfuom fod incwm a lefelau addysg is yn ffactorau pwysig sy’n llywio anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn achos asthma.
Mae diffyg cyfleoedd addysgol yn debygol o effeithio ar ba mor dda mae pobl yn rheoli’u hasthma ac mae’n peri risg uwch iddynt gael pyliau o asthma a marw. Mae’n bwysig targedu’r cymunedau mwyaf amddifad â strategaethau iechyd addysg gwell i sicrhau bod cleifion yn defnyddio’u mewnanadlyddion ataliol yn rheolaidd ac yn gywir.”
Yn yr ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru, darganfuwyd bod pobl 50% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty ac o farw o asthma o gymharu â phobl yn yr ardaloedd lleiaf amddifad. Hefyd, darganfuwyd bod gan bobl o gefndiroedd mwy amddifad gydbwysedd gwael o feddyginiaethau asthma hanfodol sy’n helpu atal pyliau o asthma.
Mae’r astudiaeth hon yn llunio rhan o gorff pwysig a chynyddol o waith i ymchwil iechyd yn gysylltiedig ag asthma, dan arweiniad Canolfan Ymchwil Gymhwysol Asthma UK. Arsyllfa Asthma Cymru (WAO) yw’r Ganolfan Ragoriaeth ddiweddaraf i ymuno â’r grŵp Gwyddor Data Poblogaeth. Mae’r WAO yn blatfform ar gyfer ymchwil i asthma a gwyliadwriaeth ar asthma, gyda charfan gronnus o gleifion o bron pob rhan o Gymru ac mae wedi’i seilio ar gofnodion iechyd electronig yn mynd yn ôl i 1990.
Meddai Arweinydd WAO a’r Athro Meddygaeth Anadlol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe, Gwyneth Davies,
“Darganfuom fod y bobl fwyaf amddifad deirgwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio mewnanadlyddion lliniaru yn ormodol a bod cydbwysedd eu meddyginiaethau ataliol a lliniarol yn waeth, sy’n golygu bod risg uwch iddynt gael pyliau asthma ataliadwy a risg uwch iddynt farw. Mae’r astudiaeth hon yn amlygu angen brys am nodi ffyrdd o wella deilliannau asthma i bobl o gymunedau amddifad.”
Edrychodd yr astudiaeth hon ar fwy na 100,000 o bobl ag asthma wedi’i drin, ar draws Cymru, dros gyfnod o bum mlynedd. Archwiliodd yr awduron ddata gofal sylfaenol ac eilaidd o Fanc Data SAIL yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe, sy’n cynnwys 100% o ddata gofal eilaidd ac 80% o ddata gofal sylfaenol ar gyfer poblogaeth Cymru. Mae Banc Data SAIL hefyd yn gartref i ddata’r DU dan arweiniad BREATHE – y Ganolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol.
Meddai’r Athro Ronan Lyons, arweinydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd yn Ymchwil Data Iechyd,
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos y buddion sydd gan Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy, fel Banc Data SAIL, wrth alluogi gwneud ymchwil sy’n newid bywyd a diogelu preifatrwydd data cleifion ar yr un pryd.”
Defnyddiodd yr awduron Fanc Data SAIL i gysylltu data ar gyfer y cyfnod rhwng 2013 a 2017 er mwyn archwilio’r cysylltiad rhwng data gofal meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty mewn argyfwng, presgripsiynau a marwolaethau o asthma, ynghyd â mesurau daearyddol ac economaidd gymdeithasol ar gyfer ardaloedd o amddifadedd yn ôl dosbarthiad.
Meddai’r Athro Sarah Rodgers, arweinydd thema Gwybodaeth Gofal ac Iechyd ar gyfer ARC NWC,
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos pwysigrwydd rhoi’r grym i gleifion reoli’u cyflyrau iechyd yn weithgar. Mae angen i ni weithio gyda phobl mewn cymunedau difreintiedig i ddeall beth fyddai’n eu helpu nhw orau i gael gafael ar driniaethau asthma ataliol.”