

Mae’r astudiaeth gyntaf i’w chynnal ar lefel boblogaeth o drosglwyddo COVID-19 ymhlith disgyblion a staff mewn amgylchedd ysgol wedi dangos nad oedd cysylltiad rhwng agor ysgolion yng Nghymru rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020 a chynnydd yn nifer y profion positif ymhlith staff. Canfu’r astudiaeth, a gynhaliwyd gan dîm ymateb Covid-19 Cymru’n Un y gwelwyd cynnydd mewn profion positif ymhlith disgyblion yn unig – nid staff – yn sgil achosion yng ngrŵp blwyddyn penodol y plant.
Mae canfyddiadau’r astudiaeth wedi llywio Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru (TAG) ar COVID-19 yn uniongyrchol a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau Llywodraeth y DU (SAGE). Yng Nghymru, mae hyn wedi dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch agor ysgolion yn dilyn cyfnod hir pan oedd yr ysgolion ar gau yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol a ddechreuodd tua diwedd 2020.
Cafodd yr astudiaeth hon ei harwain gan ymchwilwyr o dimau yn HDR UK, ADR Cymru, Banc Data SAIL a Llywodraeth Cymru a fu’n cydweithio â BREATHE, ADP, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i greu’r bartneriaeth draws-sefydliadol, Cymru’n Un. Mae tîm Cymru’n Un yn cydweithio i nodi bylchau mewn gwybodaeth ac i gydlynu ymdrechion i gyflwyno gwybodaeth hanfodol er mwyn helpu llunwyr polisi i ddeall COVID-19 yng Nghymru a ledled y DU a chynllunio ar sail hynny.
Defnyddiodd y tîm ymchwil ddata dienw cysylltiedig, ar lefel unigolion ac aelwydydd, ar gyfer poblogaeth Cymru a gedwir ym Manc Data SAIL. Wrth greu e-garfan o blant ysgol (rhwng 4 a 17 oed), ac aelodau aelwydydd cysylltiedig ar gyfer y plant a’r staff, roedd maint sampl y profion a astudiwyd a nifer yr heintiau’n sylweddol. Asesodd yr ymchwilwyr y tebygolrwydd o gael profion positif ymhlith disgyblion a staff, mewn perthynas ag achosion diweddar eraill ymhlith disgyblion a staff cysylltiedig neu eu haelwydydd yn ystod y cyfnod rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2020.
Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn awgrymu tebygolrwydd bod COVID-19 yn cael ei drosglwyddo o ddisgybl i ddisgybl, ond y gellir lleihau’r effeithiau absoliwt ar boblogaeth ehangach a staff yr ysgol drwy roi mesurau lliniaru caeth ar waith. Er y cynhaliwyd yr astudiaeth yng Nghymru, mae’n debygol iawn y gellir cyffredinoli’r canfyddiadau i’r DU ac i sawl rhan o’r byd â hinsawdd dymherus lle mae tua 30 o ddisgyblion ym mhob dosbarth mewn ysgolion a chânt eu haddysgu dan do i raddau helaeth.
Meddai Dr Daniel A Thompson, un o brif awduron yr astudiaeth:
“Mae cau ysgolion ar raddfa genedlaethol yn destun trafodaeth barhaus. Mae deall y llwybrau trosglwyddo posib mewn ysgolion yn hanfodol i’n dealltwriaeth o sut i gydbwyso hyn â phryderon am effeithiau negyddol ac anghydraddoldebau cynyddol o ran iechyd, lles a chyrhaeddiad addysgol plant, yn ogystal â’r effaith economaidd a chymdeithasol ehangach.
“Wrth i ysgolion ailagor ledled y DU yn dilyn cyfnodau hir o fod ar gau, mae angen tystiolaeth sy’n archwilio rôl yr ysgol mewn trosglwyddo rhwng disgyblion a staff yr ysgol.”
Mae manylion llawn yr astudiaeth ar gael yma – //://bmjpaedsopen.bmj.com/content/5/1/e001049.abstract
Crynodeb o ganfyddiadau’r astudiaeth:
- Mewn dadansoddiadau heb eu haddasu, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y risg o gael prawf positif ar draws yr holl ganlyniadau, yn dilyn achosion hysbys mewn ysgolion ac aelwydydd cysylltiedig. Fodd bynnag, ar ôl addasu am oedran, rhyw, lleoliad gwledig, math o ysgol, cysylltiad ag achosion mewn aelwyd, a niferoedd staff/disgyblion ym mhob ysgol/aelwyd, canfuwyd bod cyfanswm achosion yn yr ysgol yn ystod y pythefnos blaenorol yn gysylltiedig â risg is o gael profion positif.
- Yr arwydd cryfaf yw’r data (ar gyfer staff a disgyblion) mewn perthynas ag achosion hysbys yn yr aelwyd. Gwelwyd hefyd gysylltiad arwyddocaol â’r clwstwr ehangach o achosion mewn unrhyw aelwyd â chysylltiad â’r ysgol.
- Roedd y risg o gael prawf positif am COVID-19 yn uwch i aelodau staff mewn ysgolion cynradd ac arbennig o’u cymharu â staff mewn ysgolion canol ac uwchradd, ac roedd gan staff risg uwch o ganlyniad positif o’i gymharu â lefel gyfeirio’r disgyblion.
- Ni welwyd cynnydd sylweddol yn y risg o brawf positif am haint Covid-19 yn y pythefnos ar ôl canfod achos yn yr ysgol.
- Ar ôl haenu ar sail disgyblion ac addasu am gyd-newidynnau (gan gynnwys achosion mewn aelwydydd), nid oedd cysylltiad rhwng cyfanswm yr achosion yn yr ysgol a risg uwch o brawf positif.
- Mewn gwrthgyferbyniad, roedd cysylltiad arwyddocaol rhwng nifer yr achosion ymhlith disgyblion yn yr un grŵp oedran a phrawf positif.
- Nid oedd cysylltiad rhwng ysgolion yn agor rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020 a chynnydd dilynol yn y risg i staff o gael prawf positif.
- Nid oedd cysylltiad rhwng cyfanswm yr achosion mewn ysgol a chynnydd dilynol yn y risg o gael prawf positif.
Awduron yr astudiaeth yw Daniel A Thompson, Hoda Abbasizanjani, Richard Fry, Ronan Lyons, Ashley Akbari, Gareth Davies, Mike B Gravenor, Lucy Griffiths, Joe Hollinghurst, Jane Lyons, Emily Marchant, Laura North a Fatemeh Torabi.
Mae’r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarperir gan gleifion ac a gasglwyd gan y GIG wrth ddarparu gofal a chymorth. Hoffai awduron yr astudiaeth gydnabod holl ddarparwyr y data sy’n sicrhau bod data dienw ar gael at ddibenion ymchwil a’r bartneriaeth gydweithredol a alluogodd yr awduron i gaffael a chael mynediad at y data dienw a arweiniodd at yr allbwn hwn.
Cafodd y cydweithrediad ei arwain gan dîm Ymchwil Data Iechyd y DU Prifysgol Abertawe dan gyfarwyddyd Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys y grwpiau a’r sefydliadau canlynol: y Banc Data Gwybodaeth Gysylltiedig Ddienw (SAIL); Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR); Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS); Iechyd Cyhoeddus Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae’r holl ymchwil a gynhaliwyd wedi cael ei chwblhau â chaniatâd a chymeradwyaeth Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP) annibynnol SAIL, rhif prosiect 0911.