

Mae astudiaeth arsylwi newydd gan Lwyfan Data Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (ADP), wedi’i chyhoeddi yng nghyfnodolyn y Lancet Psychiatry a dyma’r astudiaeth gyntaf i archwilio hunanladdiadau yn ystod cyfnod cynnar Pandemig Covid-19. Cafodd data o sawl gwlad ei ddadansoddi. Datgelodd yr awduron fod niferoedd hunanladdiadau wedi parhau heb fawr o newid neu wedi gostwng yn ystod misoedd cynnar y pandemig.
Er bod yr astudiaeth yn cynnig y dystiolaeth orau bosib ar effeithiau’r pandemig ar hunanladdiadau hyd yma, mae’r awduron yn nodi mai ciplun yn unig ydyw o fisoedd cynnar y pandemig, gan nodi na fydd effeithiau ar hunanladdiadau yn amlwg yn syth o reidrwydd.
Meddai’r Prif Awdur, yr Athro Jane Pirkis, Cyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia:
“Mae angen i ni barhau i fonitro’r data a bod yn effro i unrhyw gynnydd yn nifer yr hunanladdiadau, yn enwedig wrth i ganlyniadau economaidd llawn y pandemig ddod i’r amlwg. Dylai llunwyr polisi gydnabod pwysigrwydd y data amserol, o safon i gefnogi ymdrechion i atal hunanladdiadau, a dylid gweithio i liniaru’r ffactorau sy’n achosi risg o hunanladdiad sy’n gysylltiedig â COVID-19, megis lefelau uwch o straen ac anawsterau ariannol y gallai rhai pobl eu profi o ganlyniad i’r pandemig. Efallai y bydd cynyddu gwasanaethau iechyd meddwl a rhaglenni atal hunanladdiadau a chynnig rhwydi diogelwch ariannol yn helpu i atal effeithiau andwyol tymor hwy posib y pandemig ar hunanladdiad.”
“Rydym ni’n gwybod bod bywydau llawer o bobl wedi newid mewn ffordd sylweddol oherwydd y pandemig, ac mae’r daith i rai ohonynt yn un sy’n parhau. Mae angen i ni gydnabod nad hunanladdiad yw’r unig ddangosydd o effeithiau iechyd meddwl negyddol y pandemig – mae lefelau o drallod cymunedol yn uchel, ac mae angen i ni sicrhau y caiff pobl eu cefnogi.”
Disgwylir y bydd effeithiau iechyd meddwl y pandemig yn amrywio rhwng ac o fewn gwledydd a, thros amser, gan ddibynnu ar ffactorau megis helaethder y pandemig, y mesurau iechyd cyhoeddus sy’n cael eu defnyddio i’w reoli, gallu ymarferol gwasanaethau iechyd meddwl presennol a rhaglenni atal hunanladdiad, ynghyd â chryfder yr economi a mesurau cefnogi sy’n rhoi cymorth i fywoliaethau y mae’r pandemig yn effeithio arnynt.
Prin yw’r astudiaethau sydd wedi archwilio effeithiau lledaenu clefydau heintus eang ar hunanladdiad. Roedd yr astudiaeth newydd yn cynnwys tua 70 o awduron o 30 o wledydd sy’n aelodau o’r Cydweithrediad Ymchwil i Atal Hunanladdiad COVID-19 (ICSPRC), a grëwyd i rannu gwybodaeth am effaith y pandemig ar hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol a chyngor ar ffyrdd o liniaru risgiau.
Wedi’i storio yn SeRP (Llwyfan e-Ymchwil Diogel) yr ADP, defnyddiodd yr astudiaeth ddata am hunanladdiad amser real a gafwyd gan ffynonellau llywodraeth swyddogol, i nodi a newidiodd tueddiadau o niferoedd yr hunanladdiadau misol ar ôl dechrau’r pandemig. Cymharwyd niferoedd o hunanladdiadau misol cyn COVID-19 (a amcangyfrifwyd gan ddefnyddio modelu sydd ar gael o ddata o o leiaf 1 Ionawr 2019 hyd at 31 Mawrth 2020, ac mewn rhai achosion, gan amrywio o 1 Ionawr 2016) ac arsylwyd ar niferoedd ym misoedd cynnar y pandemig (o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Gorffennaf 2020) i nodi sut mae tueddiadau hunanladdiad wedi newid yn ystod y pandemig. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 21 o wledydd a rhanbarthau (16 ohonynt yn rhai incwm uchel, a 5 yn incwm canolog uwch), gan gynnwys data gwlad gyfan mewn 10 o wledydd a data ar gyfer 254 ardal benodol mewn 11 gwlad.
Ni chanfu’r awduron dystiolaeth o gynnydd mewn niferoedd o hunanladdiadau ym misoedd cynnar y pandemig yn unrhyw un o’r gwledydd a oedd wedi’u cynnwys. Mewn 12 ardal, roedd tystiolaeth o ostyngiad mewn hunanladdiadau, o’u cymharu â’r niferoedd disgwyliedig.
Nododd yr awduron y gellid esbonio eu canfyddiadau gyda rhai o’r camau a gymerwyd gan lywodraethau yn y gwledydd amrywiol, megis cynyddu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth caledi ariannol, magu ymdeimlad o undod a chymorth ychwanegol i bobl ddiamddiffyn.
Dywedodd yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe:
“Mae’r astudiaeth hon wedi bod yn waith cydweithredol rhyngwladol pwysig a digynsail ymhlith ymchwilwyr atal hunanladdiad ledled y byd. Mae’n amlygu pwysigrwydd data o safon, amserol i gefnogi ymdrechion i atal hunanladdiad. Er bod y canlyniadau cynnar hyn yn galonogol, mae’n hollbwysig ein bod ni’n aros yn effro i ganlyniadau economaidd y pandemig a’i ddatblygiad a’i effaith ar fywydau pobl. Mae angen i ni barhau i gymryd camau i liniaru’r risg cymaint â phosib, gan sicrhau y caiff pobl ei chefnogi’n ariannol, yn ystod cyfnodau o argyfwng neu mewn cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg.”
Nododd yr awduron nad oedd eu hastudiaeth yn cynnwys gwledydd incwm isel neu incwm canolog isel, sy’n cynrychioli 46% o hunanladdiadau’r byd ac sydd wedi bod yn destun y pandemig mewn ffordd sylweddol. Mae angen ymchwil yn y dyfodol i archwilio’r cysylltiad rhwng y pandemig a hunanladdiad mewn gwahanol grwpiau oedran, rhyw ac ethnigrwydd, a hefyd i archwilio effeithiau mesurau iechyd cyhoeddus gwahanol i gynnwys y pandemig neu becynnau cymorth economaidd ar batrymau hunanladdiad.
Gallwch ddarllen yr erthygl lawn yma – //://www.thelancet.com/journals/lanpsy/article/PIIS2215-0366(21)00091-2/fulltext