

Chwe mis ar ôl ei lansio, profwyd bod rhaglen Data Astudiaethau Craidd a Chysylltedd Genedlaethol Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK) wedi bod yn gydran hollbwysig i ymateb Covid-19 y DU. Mewn llythyr diweddar gan Gyfarwyddwr HDR UK, Andrew Morris, a’r Prif Swyddog Gweithredol, Caroline Cake, diolchwyd i Fanc Data SAIL Prifysgol Abertawe am ei gyfraniad pwysig i chwe mis cyntaf nodedig y rhaglen.
Beth yw’r Astudiaethau Craidd Cenedlaethol?
Mae’r rhaglen Data a Chysylltedd yn gweithio er mwyn gwneud data hanfodol ar gael i gyflymu ymchwil ac fe’i harweinir gan HDR UK mewn partneriaeth â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fe’i sefydlwyd i fynd i’r afael â heriau Covid-19 ac mae llinyn Data a Chysylltedd yn un o’r chwe maes astudio, a elwir ar y cyd yn Astudiaethau Craidd Cenedlaethol. Mae llinynnau astudio eraill hefyd yn cynnwys Iechyd a Lles Hydredol, Trosglwyddo a’r Amgylchedd, Gwyliadwraeth ac Epidemioleg, Imiwnedd a Threialon Clinigol.
Sut mae Banc Data SAIL yn rhan o’r astudiaethau?
Yn y llinyn Data a Chysylltedd, mae Banc Data SAIL yn gweithio gyda phedwar partner arall i gyflawni mynediad diogel at amrywiaeth o ddata iechyd a gweinyddol drwy Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy (TRE) ar draws pedair cenedl y DU. Yn ogystal â Banc Data SAIL, mae’r bartneriaeth Data a Chysylltedd yn cynnwys Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gwasanaeth Prosesu Data Digidol y GIG, National Data Safe Haven yr Alban a Gwasanaeth Honest Broker Gogledd Iwerddon.
Sut mae’r gwaith hwn yn cefnogi ymdrechion ymchwil COVID-19?
Mae Data a Chysylltedd yn dod ag asedau allweddol isadeiledd data’r DU ynghyd drwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws pedair cenedl y DU i drefnu data meddygol, biolegol a gwyddor gymdeithasol ar raddfa digynsail. Ynghyd â’r isadeiledd technoleg sy’n sail iddo, SeRP (Platfform eYmchwil Diogel), mae systemau data aeddfed a llyfn Banc Data SAIL wedi cynyddu’n helaeth y setiau data sydd ar gael ar gyfer ymchwil yn gyflym ac ar raddfa, gan gynnwys setiau data diweddaraf am y brechlyn, ac mae wedi cefnogi gallu ffederaleiddio’r rhaglen.
Gan fynegi barn am y bartneriaeth Data a Chysylltedd, meddai Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU, Syr Patrick Valance: “Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud ar gysylltu data, llywodraethu a chynnwys ar draws y pedair cenedl yn hollbwysig ac yn nodedig…Mae eich gwaith wir yn gwneud gwahaniaeth’.