

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn BMC Medicine wedi darganfod bod y risg o blant yn datblygu iechyd meddwl gwael yn cynyddu’n sylweddol pan fyddant wedi byw gyda rhywun sydd hefyd ag anhwylder iechyd meddwl cyffredin.
Dangosodd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, fod plant a oedd wedi cael eu magu gyda rhywun ag anawsterau iechyd meddwl 63% yn fwy tebygol o brofi unrhyw broblem iechyd meddwl, sy’n cynnwys ond nad yw’n gyfyngedig i orbryder, iselder ysbryd, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhwylderau personoliaeth.
Defnyddiodd ymchwilwyr Fanc Data SAIL er mwyn dadansoddi’n ddiogel gofnodion dienw ynghylch derbyniadau i’r ysbyty a rhai gan feddygon teulu, a wnaeth olrhain 190,000 o blant a fu’n byw yng Nghymru ers cael eu geni tan iddynt fod yn 15 oed. Archwiliodd yr astudiaeth symptomau iechyd meddwl, diagnosis a thriniaethau, a materion iechyd meddwl ac anhwylderau datblygiadol cysylltiedig, megis anableddau dysgu neu ddiffyg canolbwyntio.
Meddai’r prif awdur Dr Emily Lowthian, a gynhaliodd yr ymchwil yng Nghanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Caerdydd (DECIPHer): “Mae ein canfyddiadau’n dangos bod iechyd meddwl gwael ac amrywiaeth eang o symptomau cysylltiedig yn brofiadau cyffredin i lawer o blant a phobl ifanc, hyd yn oed cyn y pandemig…”
“Dros y 18 mis diwethaf yn benodol sef cyfnod y pandemig, bydd cynifer o bobl wedi cael anawsterau o ganlyniad i ynysu, newidiadau i’w bywyd gwaith, a llawer o ffactorau eraill hefyd. Bydd plant a phobl ifanc sydd wedi colli ysgol a phrofiadau pwysig eraill ymhlith y rhai sydd wedi ei chael hi fwyaf anodd.”
Ychwanegodd Dr Lowthian, sydd bellach yn Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Rydym ni’n gwybod bod materion iechyd meddwl o’ch plentyndod yn parhau pan fyddwch yn oedolyn, felly mae’n hanfodol bod ymyriadau effeithiol ar waith er mwyn cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod ffurfiannol hwn yn eu bywydau. Hoffem ni weld llunwyr polisi yn defnyddio COVID-19 fel catalydd i ymateb i’n canfyddiadau a rhoi strategaethau cymorth ar waith ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghymru.”
Mae’r astudiaeth, sydd hefyd yn tynnu ar 14 blynedd o ddata rhwng 1998 a 2012, hefyd wedi sefydlu cysylltiadau rhwng aelodau’r aelwyd yr oedd iechyd meddwl gwael ganddynt a chyflyrau eraill gan y plant megis anhwylderau personoliaeth neu fwyta.
Gwnaethant ddarganfod bod iechyd meddwl gwael ymysg aelodau’r aelwyd yn gysylltiedig â chynnydd o 42% mewn anhwylderau datblygiadol, sy’n cynnwys anableddau dysgu neu anhwylderau diffyg canolbwyntio.
Ochr yn ochr ag iechyd meddwl, roedd plant a oedd wedi cael profiad o erledigaeth megis camdriniaeth neu ymosodiad 90% yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl yn ystod eu plentyndod ac roeddent 65% yn fwy tebygol o gael anhwylderau datblygiadol, mae’r astudiaeth yn eu datgelu.
Ychwanegodd Dr Rebecca Anthony, Ymchwilydd Cyswllt yn DECIPHer: “Mae’r cysylltiadau rhwng erledigaeth ac iechyd meddwl plant yn fwy dealladwy efallai oherwydd y trawma sy’n gysylltiedig â’r profiadau hyn. Ac er na wnaethom ddarganfod tystiolaeth i awgrymu bod profiadau’n waeth mewn lleoedd difreintiedig, mae angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn…”
“Yn y cyfamser, mae cymorth i gael mynediad at ofal iechyd da a chyfleoedd i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl ond yn gallu bod yn beth da. Gall hyn gynnwys mentrau cymunedol i feithrin gwytnwch, yn ogystal â rhaglenni yn yr ysgol neu i’r teulu.”
Cyhoeddir y papur, Adverse childhood experiences and child mental health: an electronic birth cohort study, yn BMC Medicine.
Gwaith ar y cyd oedd yr astudiaeth rhwng ymchwilwyr yn DECIPHer, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.