

Darllenwch y blog diweddaraf gan ymddiriedolaeth ffibrosis systig ar 31 awst 2021 sy’n rhoi manylion am ymchwil tîm cymru’n un –
“the uptake on the vaccine from people with cf is encouraging – and a step in the right direction”
Yn ystod pandemig COVID-19, mae hi wedi dod yn amlwg bod derbyn gwybodaeth gyfredol a chywir yn helpu pobl i wneud penderfyniadau.
Dyna pam rydym yn gweithio’n agos gyda’r tîm Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y prosiect hwn, rydym yn darparu i chi wybodaeth sydd bron amser go-iawn am y brechlyn ar gyfer COVID-19 ymhlith pobl sydd â Ffibrosis Cystig yng Nghymru.
Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio Banc Data SAIL (Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel), sy’n fan diogel o safon fyd-eang ar gyfer ymchwil, a enwir yn amgylchedd ymchwil dibynadwy (TRE), sy’n canolbwyntio ar bobl yng Nghymru yn bennaf.
Mae’r wybodaeth hon yn dangos inni fod lefel uchel o bobl sydd â Ffibrosis Systig wedi manteisio ar y brechlyn, sy’n newyddion gwych.
Meddai Mat, sydd â Ffibrosis Systig ac sy’n derbyn gofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’n galonogol darllen yr adroddiad. Rwy’n teimlo ei fod yn bositif iawn tuag at y gymuned Ffibrosis Systig, mae’r lefel uchel o bobl â Ffibrosis Systig sydd wedi derbyn y brechlyn yn galonogol, a gobeithio bod hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn dychwelyd at rywfaint o normalrwydd.”
BETH MAE’R ADRODDIAD YN EI DDANGOS?
Derbyn brechlyn ar gyfer COVID-19
Mae ychydig dros 350 o bobl sydd â Ffibrosis Cystig sy’n byw yng Nghymru, wedi’u cofrestru gyda Chofrestrfa Ffibrosis Cystig y DU, sydd â hawl i gael brechlyn COVID-19. Derbyniodd 91% o’r bobl hynny o leiaf un brechlyn erbyn 16 Gorffennaf 2021 ac mae 88% wedi derbyn eu hail ddos.
Mae hyn yn golygu bod 9% o’r rhai sydd â Ffibrosis Systig yng Nghymru heb gael brechlyn. Gallai hyn fod oherwydd ychydig o resymau gwahanol, megis dewis peidio â’i dderbyn, neu oherwydd nad oes modd iddynt gael y brechlyn am resymau meddygol.
Math o frechlyn
Yng Nghymru, cafodd 73% o’r bobl â Ffibrosis Systig frechlyn Oxford-AstraZeneca wrth dderbyn eu brechlyn ar gyfer COVID-19. Cafodd y 27% sy’n weddill frechlyn Pfizer-BioNTech.
Lleoliad brechu
Cafodd pobl eu brechlynnau cyntaf yn y mannau canlynol:
57.6% ym meddygfa eu meddyg teulu
36.7% mewn canolfan brechu torfol
5.7% yn rhywle arall, gan gynnwys eu canolfan Ffibrosis Systig neu rywle yn Lloegr
Cafodd y rhan fwyaf o bobl eu hail dos yn yr un lle â’r dos cyntaf, felly mae’r ffigurau o ran yr ail ddos yn debyg iawn.
Gwahaniaethau rhwng y rhywiau
O’r rhai sydd wedi cael o leiaf un brechlyn, mae 56.5% yn ddynion a 43.5% yn fenywod, sef yr un peth â’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau ar draws y boblogaeth sydd â Ffibrosis Systig yng Nghymru.
Gwahaniaethau rhwng oedrannau
O’r rhai sydd â Ffibrosis Systig sydd wedi cael o leiaf un brechlyn:
mae 48.5% rhwng 16 a 29 oed
mae 51.5% dros 30 oed
Yn fras, mae hyn yn cydweddu â’r boblogaeth sydd â Ffibrosis Systig yn gyffredinol.
Amddifadedd
Rydym yn gwybod bod byw mewn tlodi yn effeithio’n negyddol ar iechyd pobl sydd â Ffibrosis Systig.
Felly, mae’n bwysig gweld a allai mynediad at frechlyn COVID-19 gael ei effeithio gan ffactorau megis gwaith, addysg, tai a diogelwch cymunedol.
Ar sail y data sydd gennym, nid yw’n debyg bod cysylltiad rhwng amddifadedd a pheidio â chael brechlyn COVID-19.
BETH MAE HYN YN EI OLYGU?
Mae COVID-19 yn peri risg uwch i bobl sydd â Ffibrosis Systig. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysig iawn bod pawb sydd â Ffibrosis Systig, a’r bobl maent yn byw gyda nhw, yn cael y ddau frechlyn cyn gynted â phosibl.
Mae’n wych bod y data hyn yn dangos bod lefel uchel o’r gymuned Ffibrosis Systig wedi derbyn brechlyn.
Meddai Ashley Akhbari, o Brifysgol Abertawe, “Mae adeiladu ar ein perthnasoedd presennol gyda darparwyr data, megis yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig, yn bwysig iawn i ni er mwyn nodi cyfleoedd i gefnogi a chydweithio wrth ddefnyddio data, er mwyn cael effaith a darparu craffter gwerthfawr.
“Ein gobaith yw y bydd pobl eraill sydd eisoes yn cydweithio fel rhan o Cymru’n Un, yn ogystal ag eraill sydd am gael mynediad at y data hyn yn SAIL, yn gallu eu defnyddio yn y dyfodol er mwyn gwerthuso canlyniadau byrdymor a hirdymor sy’n ymwneud â COVID-19 ar gyfer pobl sydd â Ffibrosis Systig.”
Meddai Stuart Bedston o Brifysgol Abertawe: “Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi defnyddio data bron amser go-iawn, sy’n ein galluogi i ddarparu manylion am dderbyn brechlyn er mwyn dangos bod rhaglen dosbarthu’r brechlyn yng Nghymru wedi bod yn effeithiol yn bennaf, sy’n atseinio canfyddiadau astudiaethau eraill ynghylch rhaglen ehangach Cymru ar y cyfan.”
Meddai Jamie Duckers, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Mae cael mynediad at ddata mor gynhwysfawr, cywir a chyfredol yn hynod werthfawr i’r tîm gofal iechyd sy’n darparu gofal i’r bobl sydd byw â Ffibrosis Cystig ledled Cymru.”
BETH NESAF?
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag arbenigwyr ledled y Deyrnas Unedig er mwyn cael craffter gan ddata i gefnogi bywyd heb rwystrau i bobl sydd â Ffibrosis Systig.
Gwnaeth pawb a oedd yn rhan o’r astudiaeth roi eu cydsyniad i gymryd rhan yng Nghofrestrfa Ffibrosis Systig y DU drwy eu tîm Ffibrosis Systig. Hefyd, mae pobl â Ffibrosis Systig yn rhan o waith adolygu ceisiadau am gael defnyddio data’r Gofrestrfa. Mae hyn yn golygu bod cyfranogiad pobl yn y gymuned Ffibrosis Systig wedi bod wrth wraidd y prosiect hwn.
Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Phrifysgol Abertawe i fonitro’r hyn sy’n mynd ymlaen yng Nghymru er mwyn inni roi’r diweddaraf i’r gymuned Ffibrosis Systig. Hefyd, byddwn ni’n parhau i gaglu gwybodaeth fanwl am iechyd, canlyniadau COVID-19 a statws brechu COVID-19 pawb sydd â Ffibrosis Systig.
Mae Prifysgol Abertawe a’r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yn bartneriaid i Hyb Ymchwil Data Iechyd BREATHE ar gyfer Iechyd Anadlol. Rydym yn gweithio ar y cyd i gysylltu data Cofrestrfa Ffibrosis Systig y DU â gwybodaeth gan y GIG sy’n cwmpasu’r DU gyfan, er mwyn inni gael rhagor o graffter ar gyfer pawb sydd â Ffibrosis Systig.
Er mwyn darllen rhagor am waith yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig i fonitro heintiadau COVID-19 mewn pobl sydd â Ffibrosis Systig, cliciwch yma.