

Un o’r nodweddion sy’n arbennig am Fanc Data SAIL yw’r gallu i ymchwilwyr fod yn wir hyblyg o ran lle maent yn cyrchu eu data dienw. Drwy brosesau a datblygiadau technolegol wedi’u dyfeisio dros y 10 mlynedd diwethaf, mae SAIL wedi perffeithio mynediad at ymchwil ddiogel heb beryglu diogelwch, ansawdd data neu brofiad defnyddwyr.
Ond beth sy’n digwydd pan fydd y tîm technegol sy’n gefn i lwyddiant SAIL i gyd yn gweithio o bell eu hunain, a phan fydd data yn cyrraedd SAIL bob dydd yn hytrach na phob mis neu bob chwarter?
Cyflwynodd Covid-19 ei gyfres o heriau ei hun i’r tîm technegol sy’n gefn i SAIL a SeRP. Roedd yr un technolegau y gwnaeth cynifer o ymchwilwyr ddibynnu arnynt er mwyn gwneud eu gwaith ble bynnag yr oeddent, bellach yn wynebu eu cyfnod pwysicaf o bwysau. Yn ogystal â sicrhau y gallai’r cannoedd o ymchwilwyr a oedd eisoes yn cyrchu porth diogel SAIL barhau i wneud hynny heb fwlch yn y gwasanaeth, roedd tîm SAIL yn wynebu mwy o alw am fynediad brys newydd gan ymchwilwyr yng Nghymru a ledled y DU, wrth brosesu llawer mwy o ddiweddariadau data hefyd er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth wrth wraidd ymateb Cymru’n Un mor gyfredol ac mor gywir â phosibl.
Simon Thompson yw’r Prif Swyddog Technegol ar gyfer SeRP – yr isadeiledd sy’n rhannu’r data’n adrannau er mwyn i brosiectau ei gyrchu – ac mae ef wedi bod wrth wraidd ymdrech y tîm i gyflawni ymdrech ymchwil Cymru’n Un.
“Diolch i ymdrechion pawb sy’n rhan ohono, mae graddfa, cwmpas ac amlder y data sy’n llifo i SAIL wedi cynyddu, gyda ffynonellau data iechyd a gweinyddol yn elwa ar gael eu hadnewyddu’n ddyddiol, yn wythnosol ac yn fisol.
“Mae swm sylweddol y diweddariadau i’r setiau data bob dydd wedi bod yn her inni, ond yn ffodus mae’n rhywbeth yr ydym wedi’i groesawu ac adeiladu arno. Rydym wedi symud o dderbyn rhai setiau data ddwywaith y flwyddyn i’w derbyn bob dydd bellach, a chyda hynny mae amlder y diweddariadau wedi bod yn sylweddol. Oherwydd hyn, bu’n rhaid inni ystyried atebion technegol newydd er mwyn ymdrin â hyn.
Ac yntau’n gweithio’n agos gyda SAIL yn Drydydd Parti Dibynadwy iddo, mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wedi bod wrth wraidd ymdrech Cymru’n Un, drwy ddarparu a rheoli llif data newydd digynsail i SAIL y mae ei angen er mwyn helpu i ddadansoddi Covid.
Mae dwy ran i rôl NWIS; yn sefydliad sy’n gyfrifol am y broses ffeil ranedig sy’n sicrhau bod y data wedi’i anonymeiddio cyn iddo gyrraedd SAIL, a hefyd yn ddarparwr data ei hunan.
Mae Gareth John yn Rheolwr Gwybodaeth yn NWIS,
“Mae Covid wedi cyflwyno heriau heb eu tebyg o’r blaen i’r GIG yng Nghymru, ac mae NWIS wedi bod wrth wraidd yr ymateb i’r pandemig yng Nghymru. Heb ddata o safon sy’n brydlon ac yn hygyrch, byddai’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru wedi bod yn heriol dros ben.
“Oherwydd ein perthnasoedd cryf gyda Banc Data SAIL, Llywodraeth Cymru a llawer o bobl eraill sy’n rhan o ymateb Cymru’n Un, roeddem yn gallu ymateb yn effeithlon i’r ceisiadau cynyddol am ddata prydlon a chyfredol er mwyn llywio ymchwil a gwaith dadansoddi’n genedlaethol.”
Wrth siarad am y gwersi a ddysgwyd, meddai Simon Thompson,
“Yn sgîl Covid, rydym wedi dysgu am yr agweddau trefniadol ar dderbyn data. Os byddwch yn ei dderbyn ddwywaith y flwyddyn, gellir ei reoli, ond oherwydd y swm cynyddol roedd gofynion sylweddol ar y tîm o ran gwaith trefnu a rheoli prosiect, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni fel yr oeddem wedi ei wneud erioed gyda’r un ansawdd, ond yn unol â graddfeydd amser llawer mwy tynn a natur lawer mwy brys.
“Ond yn ein tyb ni, mae’r cyfnod hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran sut rydym yn gweithio, beth rydym wedi’i adeiladu a sut byddwn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Mae gennym atebion bellach er mwyn i ddefnyddwyr y tu allan i’r llywodraeth drosglwyddo data atom yn fwy diogel byth. Mae’r atebion hyn hefyd yn cefnogi gwaith mewnforio i SeRP yn awtomatig, ac maent yn galluogi’r sefydliadau sy’n anfon y data i awtomeiddio’r gwaith anfon data i SeRP, gan leihau’r tebygrwydd o wallau gan bobl.
“Mae’r cyfnod hwn – sef gweithio o bell wrth ddarparu gwasanaeth i sicrhau y caiff ein gwaith Cymru’n Un ei gyflawni ochr yn ochr â gofynion ein holl ddefnyddwyr presennol – wedi bod yn dda i’r tîm ar y cyfan. Mae wedi gwthio ein technoleg a’n prosesau ac rydym yn ail-lunio ein technoleg bellach ar sail y gwersi rydym wedi eu dysgu yng Nghymru – wedyn caiff y rhain eu rhoi ar waith yn safleoedd SeRP yng Nghanada ac Awstralia, er mwyn iddynt fynd i’r afael â’u heriau ymchwil eu hunain ynghylch Covid-19.”
Bydd tîm Cymru’n Un yn parhau i weithio ar y cyd i nodi bylchau yn yr wybodaeth a symleiddio ymdrechion i gyflwyno deallusrwydd hanfodol i helpu llunwyr polisi i ddeall COVID-19 yng Nghymru a ledled y DU a chynllunio ar sail hynny.