

Mae tîm o ymchwilwyr, o Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi lansio astudiaeth newydd a fydd yn casglu barn pobl ifanc rhwng 11 a 22 mlwydd oed i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn ystod y pandemig.
Mae’r astudiaeth yn rhan o’r Prosiect rheoli COVID19 drwy well ymyrraeth a gwyliadwriaeth (ConCOV), Galwad Ymateb Cyflym COVID-19 a ariennir gan UKRI, i helpu i ddeall a mynd i’r afael â heriau COVID-19. Bydd ConCOV yn rhedeg am 12 mis a bydd yn darparu llwyfan ar gyfer ymchwil i lywio strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i reoli’r feirws, diogelu’r boblogaeth gyffredinol a helpu i ddod â’r DU allan o’r cyfyngiadau symud.
Rhoi llais i bobl ifanc
Ers dechrau’r pandemig bu’n rhaid i bobl ifanc addasu i newidiadau enfawr mewn addysg, bywyd cymdeithasol a theuluol.
Er mwyn deall y sefyllfa bresennol i bobl ifanc, mae tîm ymchwil yr astudiaeth wedi datblygu arolwg ar-lein byr sy’n gofyn i bobl ifanc sut mae COVID yn effeithio arnyn nhw, eu modd o gyfathrebu, eu haddysg, eu cyfeillgarwch a’u bywyd teuluol.
Bydd y wybodaeth a gesglir o’r arolygon yn ddienw ac yn cael ei chyfuno â nifer o ffynonellau data eraill (gan gynnwys data iechyd, addysg a gofal cymdeithasol) a gedwir yn y Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel (SAIL) a ddefnyddir i greu astudiaeth boblogaeth COVID-19 fanwl.
Hysbysu llunwyr polisi
Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon yn cael eu bwydo i lunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd gan sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf – gan roi gwell dealltwriaeth iddynt o bobl ifanc yn ystod y pandemig sy’n esblygu. Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon yn cyfrannu at adroddiadau ConCOV i Grŵp Cyngor Technegol COVID19 Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth Prydain.
Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth ac ymchwilydd arweiniol yr astudiaeth:
“Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae’n bwysig ein bod yn casglu ac yn deall profiadau grwpiau agored i niwed a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r coronafeirws yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl ifanc. I helpu mae angen i ni gael golwg ar sut maen nhw’n teimlo a sut beth yw bywyd iddyn nhw. Nod yr astudiaeth hon yw rhoi llais i bobl ifanc. Ein nod yw sicrhau bod canfyddiadau ein hymchwil yn cael eu rhannu â llywodraethau yng Nghymru a’r DU – gan roi’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i ddeall a llywio’r broses o wneud penderfyniadau.”
Ychwanegodd Michaela James, ymchwilydd yr astudiaeth:
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud yn ystod cyfnod lle maen nhw’n cael eu heithrio o lawer o sgyrsiau a phenderfyniadau ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Nhw fydd rhai o’r unigolion a ddioddefodd waethaf yn ystod y pandemig hwn ac felly mae angen i ni glywed eu profiadau a’u teimladau.”
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae deall profiadau pobl ifanc o’r pandemig yn hanfodol wrth baratoi’r cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae prosiect ConCOV yn ymchwil bwysig a fydd yn rhoi golwg ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU.”