TROSOLWG O’R GANOLFAN
Mae YDG Cymru (Ymchwil Data Gweinyddol Cymru) yn dwyn ynghyd arbenigwyr gwyddorau data uchel eu parch, academyddion pwysig a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn cynhyrchu tystiolaeth sy’n llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth mewn sefyllfa ddelfrydol er mwyn gwella sut defnyddir data dienw a diogel er mwyn llywio’r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn gwella bywydau pobl yng Nghymru yn y pen draw.
Mae YDG Cymru’n uno arbenigwyr ym mhob maes o Wyddor Data Poblogaeth a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd gydag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru. Mae’r technegau dadansoddi data arloesol a’r rhagoriaeth ymchwil a ddatblygir, ynghyd â Banc Data SAIL, sy’n uchel ei barch yn fyd-eang, yn ein caniatáu i gyflenwi ymchwil trylwyr, diogel a llawn gwybodaeth.
Nod y data a gysylltir ac a ddadansoddir gan ADR Cymru yw mynd i’r afael â’r meysydd gweithredu â blaenoriaeth yng Nghymru, a nodir yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb. Bydd blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, sgiliau a chyflogaeth a blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg i’r llywodraeth, fel datgarboneiddio, yn rhan ganolog o waith y bartneriaeth.
Bydd gwaith YDG Cymru yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall llawer mwy am y berthynas rhwng gwahanol feysydd o ddarparu gwasanaethau – er enghraifft, y cysylltiad rhwng iechyd a thai – a chael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl wrth iddyn nhw symud trwy’r gwahanol wasanaethau. Bydd hyn, felly, yn cynorthwyo datblygiad polisïau sydd wedi’u hintegreiddio’n well er mwyn cefnogi llywodraethau’r dyfodol.
Mae YDG Cymru’n adeiladu ar hanes o ddefnyddio dulliau arloesol a seilwaith er mwyn cysylltu a dadansoddi data dienw yn ddiogel. Mae dadansoddi blaenorol wedi cyfrannu at waith datblygu, monitro a gwerthuso Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau canlynol: Tlodi Tanwydd, Cefnogi Pobl cymorth i bobl ddigartref a datblygiad y blynyddoedd cynnar, Dechrau’n Deg.