TROSOLWG O’R GANOLFAN
Mae’r Llwyfan Data’r Glasoed (ADP) ar gyfer Ymchwil Iechyd Meddwl yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang iawn o wybodaeth yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc 10-24 oed ledled y DU.
Gyda chyllid craidd gan yr elusen ymchwil iechyd meddwl, MQ, rydym yn darparu adnodd hollol newydd i alluogi ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi i wella eu dealltwriaeth o salwch meddwl ymysg pobl ifanc, mynd i’r afael â heriau hanesyddol i’r gwasanaeth, a thaclo anghydraddoldebau iechyd meddwl.
Mae’r llwyfan, a lansiwyd yn 2018, yn dwyn ynghyd data o leoedd fel ysbytai, practisau meddyg teulu ac ysgolion, yn ogystal â data carfan a data arolygon. Mae’n cynnwys cofnodion iechyd electronig, data genomig a data o fath arall, ac mae’r cyfan yn cael ei storio’n ddiogel yn UKSeRP ADP ac, ar gyfer data Cymru yn unig, ym Manc Data SAIL.
Mae’r astudiaethau cychwynnol yn cynnwys:
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEau) – Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn brofiadau sydd o bosibl wedi achosi straen neu drawma, fel cam-drin, esgeulustod neu gael eich magu gan riant sydd â’i broblemau iechyd meddwl ei hun. Rydym yn astudio effaith ACEau ar ddatblygiad iechyd meddwl plant a phobl ifanc, yn enwedig anhwylderau seicotig. Rydym yn gobeithio, trwy ddeall yr hyn sy’n achosi problemau iechyd meddwl yn well, y gallwn ddylanwadu ar y cymorth yn y dyfodol a all helpu atal plant a phobl ifanc rhag datblygu salwch meddwl.
Addysg – Rydym yn cysylltu data o fyd addysg â data iechyd sy’n bodoli eisoes er mwyn deall yn well p’un a oes cyfleoedd i amlygu’r plant sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl trwy eu lefelau cyrhaeddiad ar gerrig milltir addysg allweddol. Rydym yn gobeithio y gellir defnyddio’r ddealltwriaeth well o’r wybodaeth a gedwir yn y setiau data hyn er mwyn llywio’r cymorth sy’n cael ei deilwra i’r plant a’r bobl ifanc sydd mewn mwy o berygl yn y dyfodol.
Cysylltiadau ar draws gwasanaethau (gofal sylfaenol, adrannau brys ac ysbytai).
Mae Llwyfan Data’r Glasoed ar gyfer Ymchwil Iechyd Meddwl, dan arweiniad yr Athro Ann John, wedi denu cyfanswm o £1.6 miliwn gan gyllidwyr gan gynnwys MQ: Transforming Mental Health – sef sefydliad elusennol rhyngwladol sy’n ymchwilio i iechyd meddwl a’r Cyngor Ymchwil Feddygol.

