TROSOLWG O’R GANOLFAN
Partneriaeth DU-gyfan yw DATA-CAN sydd â’r nod o ddatgloi pŵer data iechyd er mwyn gwella gofal canser.
Bydd un ym mhob dau berson yn dioddef o ganser yn ystod eu bywydau. Bob blwyddyn, caiff bron 400,000 o achosion newydd eu diagnosio yn y DU, ac mae canser yn costio £7 biliwn yn flynyddol i’r GIG. Fodd bynnag, dengys ymchwil fod defnyddio data iechyd yn fwy effeithiol yn gallu rhoi hwb i’r datblygiad o driniaethau, therapïau a gwasanaethau diagnosteg newydd ym maes canser a gwella’r cyfraddau goroesi canser.
Nid yw data iechyd a gesglir gan y GIG a sefydliadau eraill bob amser yn hawdd i ymchwilwyr ei ganfod, ei ddefnyddio na’i ddadansoddi. Mae DATA-CAN yn gweithio mewn partneriaeth â cheidwaid data mewn prifysgolion, elusennau, diwydiant a sefydliadau’r GIG i wneud data iechyd ansawdd uchel yn fwy hygyrch i ymchwilwyr, clinigwyr, a staff proffesiynol eraill ym maes canser. Y nod yw gwneud hi’n haws cynnal ymchwil i driniaethau newydd, canfod cyfleoedd am ddiagnosis cynt, rhoi mynediad cyflymach i gleifion i dreialon clinigol a chreu buddsoddiad newydd mewn gofal iechyd yn y DU.
DATA-CAN is a UK-wide partnership that aims to unlock the power of health data to improve cancer care.
One in two people will get cancer during their lifetime. Every year, almost 400,000 new cases are diagnosed in the UK, and cancer costs the NHS £7 billion annually. However, research has shown that using health data more effectively can help drive the development of new cancer treatments, therapies and diagnostic services and improve cancer survival rates.
Health data collected by the NHS and other organisations are not always quick and easy for researchers to find, access and analyse. DATA-CAN works in partnership with data custodians in universities, charities, industry and NHS organisations to make high-quality health data more accessible for cancer researchers, clinicians and other health professionals. The aim is to make it easier to conduct research into new treatments, identify opportunities for earlier diagnosis, give patients faster access to clinical trials and create new investment in UK healthcare.
Gweledigaeth DATA-CAN yw datgloi pŵer data iechyd er mwyn gwella gofal canser drwy:
- Wneud data iechyd o ansawdd uchel yn fwy hygyrch i ymchwilwyr, clinigwyr a staff proffesiynol eraill ym maes canser trwy Borth Arloesedd Ymchwil Data Iechyd
- Cysylltu data ledled y Deyrnas Unedig a’i wneud yn haws i’w ganfod a’i ddefnyddio, gan hwyluso ymchwil i ddiagnosteg newydd, triniaethau a gwelliannau mewn gofal a rhoi mynediad cyflymach i’r claf i dreialon clinigol
- Casglu a defnyddio data canser amser-real er mwyn ymateb i effeithiau pandemig COVID-19 a datblygu atebion gwybodus i helpu i achub bywydau yn y tymor hir
- Gweithio gyda chleifion, y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol i sicrhau y defnyddir data mewn ffordd dryloyw a chyfrifol a bod y GIG a chymuned ehangach y DU yn elwa o’r manteision.