TROSOLWG O’R GANOLFAN
Mae gan Borth Data Llwyfan Dementia’r DU (Porth Data DPUK) wybodaeth fanwl am dros 2 filiwn o unigolion o dros 50 o astudiaethau iechyd tymor hir, a elwir yn astudiaethau carfan.
Trwy gyfuno data o’r holl astudiaethau carfan hyn, rydym yn darparu amgylchedd diogel, integredig a chydweithredol, lle gall gwyddonwyr o’r byd academaidd a diwydiant rannu gwybodaeth a chynnal rhaglenni ymchwil ar y cyd, yn amodol ar gyfuniadau llywodraethu llym.
Y porth yw canolfan dechnoleg Llwyfan Dementia’r DU – sef partneriaeth cyhoeddus-preifat a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol er mwyn hwyluso a chyflymu darganfod ffyrdd newydd o ddeall dementia a rhoi diagnosis a thriniaeth.
Mae’r porth wedi’i leoli yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ac mae’n dod â’r cofnodion ynghyd, yn sicrhau eu bod yn ddiogel, yn cynorthwyo astudiaethau cyswllt data gan ddefnyddio data ffenotypig, genomig a data delweddu, ac mae’n sicrhau eu bod ar gael yn hawdd er budd academia, diwydiant, rheoleiddwyr, darparwyr gofal iechyd, cleifion a’r cyhoedd.
Adran Seiciatreg Prifysgol Rhydychen sy’n arwain y rhaglen yn ei chyfanrwydd, sy’n ymchwilio i:
-
-
- Ddementia,
- Gwybyddiaeth,
- Heneiddio,
- Dysgu Peiriant,
- Genomeg,
- Delweddu.
-
Dyfarnwyd cyfanswm o £3.6 miliwn i Borth Data Llwyfan Dementia y DU yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.