TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae HDR UK yn defnyddio data iechyd a biofeddygol yn y DU i ddatblygu a chymhwyso ymagweddau gwyddor data ar flaen y gad i fynd i’r afael â’r heriau iechyd mwyaf dybryd.
Crëwyd HDR UK fel rhaglen ymchwil gwyddor data genedlaethol ac mae’n arwain ymchwil y DU yn y maes, gan fanteisio ar gryfderau ymchwil unigryw ac asedau data’r DU yn y GIG.
Ein prif flaenoriaethau ymchwil yw:
-
- Moderneiddio Iechyd Cyhoeddus
- Meddygaeth Fanwl Gywir
Byddwn yn cefnogi ymchwil sydd ar flaen y gad i ddatblygu offer a methodolegau dadansoddol, a fydd yn galluogi ymchwilwyr iechyd I ddefnyddio data cymhleth ac amrywiol ar ddyfnder a graddfa ddigynsail.
Trwy adeiladu ar sylfeini cryf Sefydliad Ymchwil Gwybodeg Iechyd Farr, rydym wedi ennill mwy na £3 miliwn o fuddsoddiad newydd tuag at greu gwefan ymchwil HDR UK Cymru ac Iwerddon. Mae HDR UK yn fuddsoddiad ar y cyd a arweinir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, ynghyd â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (Lloegr), Swyddfa’r Prif Wyddonydd (Yr Alban), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus, Gogledd Iwerddon), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Sefydliad Prydeinig y Galon a Wellcome.
Mae Sefydliad Farr ac Ymchwil Data Iechyd yn y DU yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn cyfanswm o £7.8 miliwn gan Gyngor Ymchwil Meddygol ynghyd â chonsortiwm o wyth ariannwr.