TROSOLWG O’R GANOLFAN
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn cynnal gwaith ymchwil er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.
Mae gennym ddau brif faes ymchwil:
- Datblygiad iach – deall achosion a chanlyniadau salwch, afiechyd, anafiadau a llesiant, gan ganolbwyntio ar roi dechrau iach i fywydau plant a phobl ifanc a lleihau anghydraddoldebau.
- Heneiddio’n iach – gwella gweithgarwch corfforol a llesiant ymysg y boblogaeth gyffredinol, ac mae’r meysydd gwaith allweddol yn cynnwys arthritis, asthma, anhwylderau cardiofasgwlaidd, heintiau ac anafiadau.
Rydym yn dwyn ynghyd academia, y GIG, y trydydd sector, gwneuthurwyr polisi, ymarferwyr a’r cyhoedd er mwyn:
- datblygu capasiti ymchwil,
- cyd-gynhyrchu astudiaethau ymchwil,
- cynyddu incwm ymchwil yng Nghymru,
- creu tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer iechyd y boblogaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn cael ein hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae ein nod yn cyd-fynd â blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Gofal Iechyd Darbodus, iechyd y cyhoedd, blynyddoedd cynnar a strategaethau gofal cymdeithasol.
Dyfarnwyd cyfanswm o £1.5 miliwn i NCPHWR gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.