TROSOLWG O’R GANOLFAN
Nid oes digon o wybodaeth ar gael am sut mae’r system cyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu, y plant a’r teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn a’u canlyniadau ehangach y tu hwnt i’w cysylltiad â’r llys teulu. Felly, sefydlwyd Partneriaeth Data Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (wedi’i ariannu gan Sefydliad Nuffield) sy’n cynnwys llwyfan data wedi’i deilwra – wedi’i lywyddu o fewn Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) – a thimau dadansoddi ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerhirfryn.
Nod y Bartneriaeth Data yw:
a) cynyddu capasiti a gallu ymchwilwyr a gwyddonwyr data gan ddefnyddio setiau data cyfiawnder teuluol a setiau data gweinyddol perthnasol eraill;
b) gwella dealltwriaeth pobl o’r system cyfiawnder teuluol gan ddefnyddio data o Wasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) yng Nghymru a Lloegr;
c) dangos gwerth cysylltu data; a
ch) cynorthwyo datblygiad polisi ac ymarfer yn y dyfodol.
Caiff data Cafcass ei gasglu fel rhan o gyflenwi gwasanaethau arferol a gweithrediadau cynllunio, ac mae’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag achosion llys teulu cyfreithiol preifat a chyhoeddus. Gall ymchwilwyr sy’n dymuno defnyddio data Cafcass a gedwir ym Manc Data SAIL gael eu cynorthwyo gan dîm Partneriaeth Data Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield yn Abertawe. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Darllen pellach: Dogfen Grynhoi Partneriaeth Data Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield.
Mewn gofal o’u geni: babanod newydd-anedig a phlant bach mewn achosion gofal yng Nghymr

