TROSOLWG O’R GANOLFAN
Mae Banc Data SAIL yn fan diogel ar gyfer biliynau o gofnodion yn ymwneud ag unigolion, sy’n galluogi ymchwilwyr i ateb cwestiynau pwysig er budd cymdeithas. Gall ymchwilwyr gael mynediad i amrywiaeth eang o ddata a gesglir fel mater o drefn, sy’n cwmpasu hyd at 30 mlynedd o boblogaeth gyfan.
Rydym yn cyflawni hyn trwy weithio ar y cyd â gwarcheidwaid data, ysgolheigion, rheoleiddwyr, aelodau’r cyhoedd, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi o Gymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae gennym setiau data dienw ar ffurf cysylltadwy ac, yn dilyn camau diogelu pellach, rydym yn gwneud data penodol ar gael i’w ddadansoddi ar ffurf ddienw. Mae ymchwilwyr cymeradwy’n gallu mynd at y data o bell o unrhyw le yn y byd, gydag offer dadansoddi hefyd. Gan fod y data a ddefnyddir ar gyfer ymchwil ar ffurf ddienw, mae’r gwaith yn cael ei wneud heb i’r ymchwilwyr wybod pwy yw’r unigolion mae’r data’n eu cynrychioli.
Rydym yn ymrwymo i weithio gydag ymchwilwyr, y GIG a rhanddeiliaid eraill yn ymwneud ag iechyd i gynnal prosiectau a all arwain at wella gofal cleifion, buddion i’r cyhoedd a gwella iechyd a lles, a helpu i wneud polisïau ac ymarfer yn well a gwella lles dinasyddion.
Rydym yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ddisgyblaethau ymchwil, gan gynnwys:
-
- Astudiaethau ar raddfa fawr
- Astudiaethau carfan
- Astudiaethau rheoli achosion
- Astudiaethau bwriadus
- Gwerthuso polisïau
- Ymchwil fethodolegol
- Astudiaethau ailadrodd
Mae Banc Data SAIL yn cael cymorth ariannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU), ac mae wedi cefnogi ymchwil gwerth dros £50m. Mae SAIL hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu’r sector ymchwil yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y buddsoddiad uniongyrchol mewn isadeiledd a’r buddsoddiad anuniongyrchol mewn ymchwil a sicrhawyd gan SAIL, yn ogystal â’r swyddi a gaiff eu creu, yn ein hadroddiadau blynyddol yma

