TROSOLWG O’R GANOLFAN
Mae Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU yn helpu’r gwaith ymchwil a wneir i’r cyflwr hwn trwy gasglu data ynghyd i ateb cwestiynau sylfaenol a rhoi mynediad i ymchwilwyr i’n gwybodaeth.
Amcangyfrifir bod 100,000 o bobl yn y DU yn byw gyda sglerosis ymledol, ond nid ydym yn gwybod yr union nifer, nac ychwaith yr atebion i gwestiynau ynghylch y gwahaniaethau rhanbarthol o ran sut mae pobl yn cael triniaeth a sut mae’r gwahanol fathau o sglerosis ymledol yn effeithio ar wahanol bobl.
Lleolir Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a chaiff ei hariannu gan y Gymdeithas Sglerosis Ymledol. Mae’n cofnodi data bywyd go iawn hanfodol yn ymwneud â byw gyda sglerosis ymledol yn y DU.
Rydym yn gwneud hyn mewn dwy ffordd:
-
-
- Pobl gyda sglerosis ymledol yn rhoi gwybodaeth i ni yn uniongyrchol am eu sglerosis ymledol trwy ein gwefan mewn holiaduron syml;
- Cydweithio gydag ysbytai ledled y DU i gysylltu cofnodion meddygol y cyfranogwyr ar y wefan sy’n rhoi cydsyniad â’u hymatebion i’r holiadur.
-
Mae’r data rydym yn ei gasglu am yr effeithiau corfforol, amgylcheddol a chymdeithasol ar y bobl a’r gofalwyr a effeithir gan y cyflwr yn rhoi banc data cyfoethog dros ben i ni, a photensial anferth ar gyfer ymchwil.
Mae’r data’n cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr yn y brifysgol, ledled y DU ac yn Ewrop.
Dyfarnwyd cyfanswm o £2.5 miliwn i Gofrestr Sglerosis Ymledol y DU gan y Gymdeithas Sglerosis Ymledol.