Arsyllfa Asthma Cymru Trosolwg o’r Ganolfan
Mae Arsyllfa Asthma Cymru (WAO) yn llwyfan ar gyfer ymchwil a goruchwyliaeth asthma.
Fe’i datblygwyd i archwilio’r hyn sy’n digwydd i gleifion ag asthma yng Nghymru ac ystyried hyn yn hydredol er mwyn cefnogi gwelliannau yn safon y driniaeth a’r gofal a ddarperir i gleifion a hefyd i lywio cynllunio gwasanaethau iechyd ac ymchwil glinigol.
Mae’r WAO yn cynnwys carfan gronnol o gleifion asthma sy’n cynnwys y rhan fwyaf o Gymru, gyda chyfanswm o 470,000 o bobl sydd wedi’u diagnosio a’u trin ar gyfer asthma.Mae’r gofrestr yn cynnwys cronfa ddata sy’n rhoi manylion am y gofal a dderbynnir gan gleifion asthma, y mynychder, y canlyniadau, digwyddiadau gofal iechyd a thriniaeth sy’n gysylltiedig ag asthma.
Mae’r WAO yn seiliedig ar ddata cofnodion iechyd electronig sydd wedi bod yn cael eu casglu’n rheolaidd ers 1990 ac sy’n cael eu trosi’n ddata di-enw a’u cysylltu â Chronfa Ddata SAIL. Mae data yn cynnwys newidion sy’n gysylltiedig ag asthma sy’n barod at ddibenion ymchwil, megis diffiniadau achos asthma, rhagnodion, gwaethygu, arosiadau yn yr ysbyty a chanlyniadau eraill sy’n ymwneud ag asthma. Gellir cysylltu’r WAO â charfanau eraill a data nad yw’n ymwneud ag iechyd, megis data amgylcheddol neu gyrhaeddiad addysgol yng Nghronfa Ddata SAIL. Gellir defnyddio WAO i ddeall epidemioleg asthma yng Nghymru, cefnogi mentrau gwella ansawdd a llywio cynllunio gwasanaethau iechyd ac ymchwil glinigol.
Mae WAO wedi’i gyllido gan Iechyd ac Ymchwil Gofal Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Rydym yn croesawu ymagweddau gan ymchwilwyr sy’n dymuno cyrchu data WAO mewn ffordd gydweithredol. Cysylltwch â Dr Mohammad Alsallakh, a greodd ac a ddatblygodd WAO, a’r Athro Gwyneth Davies, Cyfarwyddwr Sefydlu WAO. I gael mynediad at WAO, mae angen i ymchwilwyr gyflwyno cais am ganiatâd gan Gronfa Ddata SAIL.