

Mae Prifysgol Abertawe, ar y cyd â Phrifysgolion Birmingham a Rhydychen, wedi sicrhau cyllid i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial er mwyn deall aml-forbidrwydd yn well. Mae’r bartneriaeth ymysg 22 o brosiectau ymchwil deallusrwydd artiffisial ar gyfer iechyd sy’n rhannu £13 miliwn gan UKRI. Nod y prosiectau yw trawsnewid iechyd drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gynorthwyo a mireinio diagnosteg a gweithdrefnau.
Cyllid gan Gronfa Cenadaethau Technoleg UKRI
Bydd y prosiectau’n cynnwys prifysgolion o Gaeredin i Surrey. Cânt eu cefnogi gan Gronfa Cenadaethau Technoleg Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i gefnogi arloesedd deallusrwydd artiffisial i gyflymu ymchwil i iechyd.
Defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddeall yn well aml-forbidrwydd
Mae tîm y Labordy Data yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe ynghyd â Phrifysgolion Rhydychen a Birmingham, yn gweithio mewn partneriaeth ar y gwaith ymchwil newydd hwn i ddeall yn well aml-forbidrwydd. Aml-forbidrwydd yw bodolaeth dau neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor a dyma un o heriau mwyaf gofal iechyd.
Mae’r prosiect, a arweinir gan Brifysgol Rhydychen, wedi sicrhau £640,000 i gyflymu ymchwil i fodel deallusrwydd artiffisial sylfaenol ar gyfer rhagweld risgiau clinigol a allai bennu tebygolrwydd problemau iechyd yn y dyfodol ar sail cyflyrau presennol unigolyn.
Gwella diagnosteg a chanlyniadau iechyd
Meddai Dr Kedar Pandya, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni Traws-Gyngor UKRI: “Mae’r potensial i ddeallusrwydd artiffisial gyflymu a gwella pob agwedd ar ein hiechyd yn enfawr.
Mae’r DU mewn sefyllfa gref yn y maes hwn ond gydag ystod o heriau ar draws agweddau gwahanol cymdeithas, gan gynnwys y system gofal iechyd, mae angen atebion newydd. Dyma pam mae UKRI yn buddsoddi yn y prosiectau hyn er mwyn datblygu ein gwaith ymchwil a gwella diagnosteg a chanlyniadau iechyd”.
Meddai’r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: “Mae’r gwaith hwn yn cymryd ymagwedd arloesol newydd at ddeall clefydau a sut gall un cyflwr arwain at un arall ac un arall yn yr un person, felly mae angen ymagwedd newydd at fynd i’r afael ag amryw o glefydau cymhleth, ac rydyn ni yn y Labordy Data yn falch iawn o fod yn rhan o’r gwaith arloesol hwn gyda’r Athro Yau a’i dîm ym Mhrifysgol Rhydychen”.
Gallwch ddarllen mwy am y 22 o brosiectau a chyllid ar wefan UKRI
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn ganolfan Cymru gyfan yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.