

Mae perthnasoedd dibynadwy, wedi’u hadeiladau ar brosesau cryf, polisïau a dealltwriaeth gyffredin wedi bod wrth wraidd cyflenwi deallusrwydd ymchwil yn gyflym ar gyfer ymateb Un Gymru i COVID-19.
Mae’r arbenigedd a geir yng ngrŵp Gwyddoniaeth Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe wedi cael ei groesawu’n fwyfwy gan dimau Llywodraeth Cymru wrth iddynt chwilio am ddeallusrwydd a fyddai’n helpu i dywys a chyflawni’r uchelgeisiau a osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n enwog yn fyd-eang.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, meithrinwyd perthnasoedd a phartneriaethau diolch i gefnogaeth, buddsoddiad a diddordeb parhaus gan Lywodraeth Cymru ynghylch Banc Data SAILl, gan wireddu’n fwyfwy botensial data cysylltiedig i ddylanwadu ar bolisïau.Yn fwy diweddar, mae rhaglenni ymchwil yn y grŵp Gwyddoniaeth Data Poblogaethau wedi adeiladu ar hyn.Mae buddsoddiad gan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Wales) a Health Data Research UK (HDR UK) wedi dod â gwaith ein gwyddonwyr data a thimau technegol a llywodraethol at ei gilydd yn ffurfiol, ynghyd â’r rheiny yn Llywodraeth Cymru sydd wrth wraidd gwaith cyflawni ar bolisïau.
Wrth i COVID-19 ddod i’r amlwg yng Nghymru, roedd angen ymateb ar sail deallusrwydd, a oedd yn cynnwys partneriaid yn dod at ei gilydd i ddylanwadu ar ymateb Un Gymru i COVID-19.Canlyniad y bartneriaeth gydweithredol hon yw ymagwedd ymatebol ystwyth at gynhyrchu deallusrwydd sy’n berthnasol i bolisïau, yn seiliedig ar y blaenoriaethau digyfnewid a’r rhai sy’n datblygu o’r newydd ar gyfer mynd i’r afael â COVID-19 yng Nghymru.Mae’r ymagwedd gydweithredol hon wedi dylanwadu ar Grŵp Cynghori Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru, a grŵp SAGE y DU ar ôl hynny (sef y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau).
Mae Ashley Akbari, Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data gyda Banc Data SAIL, HDR UK ac Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn esbonio:
“Yng Nghymru, rydym ni wir wedi elwa ar ein perthnasoedd a’n rhwydweithiau sy’n bodoli, sydd wedi ein galluogi i ddefnyddio bron yn syth ddulliau data perthnasol, cysylltiadau a llwybrau a fyddai fel arall wedi cymryd cyfnod hir i’w sefydlu ac i weithredu ynddynt.
“Gwnaeth y perthnasoedd hyn sy’n bodoli gyda chydweithwyr a oedd yn cyfrannu’n uniongyrchol i drafodaethau a phenderfyniadau polisi sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir ar yr adegau cywir.Blaenoriaethau TAG sydd wedi gofyn am y deallusrwydd a gynhyrchwyd ac wedi dylanwadu arno’n uniongyrchol, ac rydym yn parhau i greu dealltwriaeth newydd gyda phobl Cymru wrth ei gwraidd.
“Mae defnyddio ein partneriaethau sy’n bodoli ag Ymchwil Data Gweinyddol Cymru a HDR UK wir wedi helpu, ac mae’n parhau i fod yn fuddiol wrth sicrhau bod pobl sydd â’r arbenigedd a’r profiad addas ar gyfer dylanwadu ar y blaenoriaethau hyn, cynhyrchu a chynllunio deallusrwydd, yn cymryd rhan yn yr ymdrech.”
Yn siarad am yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru a sut y defnyddir cysylltiadau data ar raddfa’r boblogaeth, mae Glyn Jones, Prif Ystadegydd Cymru a Chyd-gyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru:
“Mae’r gwaith sy’n defnyddio data gweinyddol ar gyfer ymchwil yma yng Nghymru wedi bod yn arwain y DU, a thrwy gydol y pandemig rydym wedi defnyddio’r sgiliau a’r arbenigedd hyn i gysylltu’n ddiogel ac yn foesol ddata sy’n ein helpu i ddeall canlyniadau ac effeithiau’r ymyriadau.Rydym wedi medru cynnal ymchwil yn gyflym er mwyn deall sut mae COVID-19 yn effeithio ar bobl yng Nghymru.
“Trwy gysylltu data dienw, rydym wedi medru symud yn gyflym i ddeall y sefyllfa yng Nghymru.Er enghraifft, rydym wedi medru deall drwy ddata dienw faint o blant sy’n byw mewn cartrefi sy’n ynysu, a faint o athrawon sy’n ynysu.
“Wrth inni symud ymlaen, rwyf am annog pobl eraill mewn adrannau ledled Cymru a’r DU i wireddu buddion cyrchu data mewn modd diogel, cadarn a moesol.Bydd hyn yn ein galluogi i gyd i gynhyrchu ymchwil o safon a fydd yn fuddiol i Gymru a gweddill y DU.”
I weld y rhestr o ffynonellau data sydd ar gael ar hyn o bryd a’u fframweithiau, ynghyd ag adroddiadau diweddaraf SAGE, gweler gwefan HDR UK sy’n cael ei diweddaru’n wythnosol: //://www.hdruk.ac.uk/covid-19/
BY CATHRINE RICHARDS, SWANSEA UNIVERSITY