

Mae’r astudiaeth ymchwil gyntaf o boblogaeth gyfan y DU yn amlygu bylchau yng nghwmpas brechlyn COVID-19. Nid oedd rhwng traean a hanner poblogaeth pedair gwlad y DU wedi cael nifer y brechiadau COVID a’r pigiadau atgyfnerthu a argymhellir erbyn haf 2022.
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gallai mwy na 7,000 o farwolaethau a chyfnodau yn yr ysbyty fod wedi eu hosgoi yn ystod haf 2022 pe bai’r DU wedi bod â chwmpas brechlyn gwell, yn ôl y papur, a gyhoeddwyd yn The Lancet.
Mae’r ymchwil yn taflu goleuni ar y nifer sy’n derbyn brechlyn ac yn petruso a gallai hysbysu llunwyr polisi wrth i ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd ar gyfer COVID-19 a phigiadau ffliw barhau i gael eu cyflwyno dros y gaeaf.
Defnyddiwyd Banc Data SAIL, sydd wedi’i leoli ym maes Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe yng Nghymru, i ddarparu data anhysbys, a gyfunodd gofnodion iechyd Cymru â data o astudiaethau brechlyn COVID-19 lluosog, annibynnol. Gwnaed y setiau data hyn y gellid eu cysylltu â’i gilydd ar gael i’w defnyddio’n ddiogel o fewn SAIL i ymchwilwyr astudiaethau cymeradwy. Cyfunwyd y canlyniadau hyn â’r rhai o Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy eraill ledled y pedair gwlad er mwyn cynnal dadansoddiadau yn y DU gyfan.
Dywedodd yr Athro Ronan Lyons, Cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, “Mae’r astudiaethau hyn, ar raddfa fawr, o boblogaethau cyfan yn hynod ddefnyddiol wrth gynnal ymchwil i arwain rheolaeth wyddonol epidemigau a bygythiadau eraill i iechyd. Rydym yn hynod ddiolchgar i boblogaeth Cymru a’r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n sicrhau bod eu data, sy’n diogelu preifatrwydd, ar gael i ymgymryd â’r ymchwil hanfodol hon.”
Roedd yr astudiaeth, dan arweiniad Health Data Research UK (HDR UK) a Phrifysgol Caeredin, yn dibynnu ar fynediad diogel at ddata iechyd dienw i bawb ym mhob un o bedair gwlad y DU, datblygiad sydd ond wedi dod yn bosibl yn ystod y pandemig. Dywed yr ymchwilwyr y gallai’r dull hwn gael ei ymestyn i lawer o feysydd meddygaeth eraill sydd â photensial mawr ar gyfer darganfyddiadau newydd o ran deall a thrin clefydau.
Meddai’r Athro Syr Aziz Sheikh, Cyfarwyddwr Sefydliad Usher ym Mhrifysgol Caeredin, a chyd-arweinydd yr astudiaeth, “Mae astudiaethau data ar raddfa fawr wedi bod yn hanfodol i reoli’r pandemig, gan ganiatáu i wyddonwyr wneud canfyddiadau sy’n berthnasol i bolisïau yn gyflym. Mae brechlynnau COVID-19 yn achub bywydau. Wrth i amrywiadau newydd ddod i’r amlwg, bydd yr astudiaeth hon yn helpu i nodi grwpiau o’n cymdeithas ac ardaloedd o’r wlad lle dylai ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus gael eu canolbwyntio a’u teilwra ar gyfer y cymunedau hynny.”
Dechreuwyd cyflwyno brechlyn COVID-19 yn gynnar ac yn gryf yn y DU, gyda dros 90% o’r boblogaeth dros 12 oed wedi’u brechu ag o leiaf un dos erbyn Ionawr 2022. Fodd bynnag, nid oedd cyfraddau dosau atgyfnerthu dilynol ledled y DU yn hysbys tan nawr.
Astudiodd gwyddonwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ddata a gedwir yn ddiogel, a gesglir yn rheolaidd gan y GIG, gan bawb dros 5 oed rhwng 1 Mehefin a 30 Medi 2022.
Cafodd data o bob rhan o’r pedair gwlad wedyn ei gyfuno a’i gysoni – neu ei wneud yn fwy unffurf – camp nad oedd yn bosib tan nawr. Cafodd pobl eu grwpio yn ôl statws brechlyn, a’r diffiniad o dan-frechu oedd pobl nad oedd wedi cael pob dos o frechlyn yr oeddynt yn gymwys ar ei gyfer.
Mae’r canfyddiadau’n datgelu:
- Roedd cyfran y bobl a dan-frechwyd ar 1 Mehefin 2022 yn amrywio rhwng traean a hanner y boblogaeth – 45.8% ar gyfer Lloegr, 49.8% ar gyfer Gogledd Iwerddon, 34.2% ar gyfer Yr Alban a 32.8% Cymru.
- Mae gwaith modelu yn awgrymu y gallai 7,180 o gyfnodau yn yr ysbyty a marwolaethau o tua 40,400 o ganlyniadau COVID-19 difrifol yn ystod haf 2022 fod wedi eu hosgoi.
- Arweiniodd tan-frechu at fwy o gyfnodau mewn ysbyty a marwolaethau ar draws pob grŵp oedran a astudiwyd – roedd y rhai hynny dros 75 oed fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael canlyniad COVID-19 difrifol na’r rhai a gafodd eu diogelu’n llawn.
- Canfuwyd y cyfraddau uchaf o dan-frechu ymhlith pobl iau, dynion, pobl mewn ardaloedd o amddifadedd uwch, a phobl o ethnigrwydd nad ydynt yn wyn.
Dywed ymchwilwyr fod yr astudiaeth – y mwyaf erioed i’w chynnal yn y DU – hefyd yn sbarduno oes newydd i wyddoniaeth y DU drwy oresgyn heriau wrth uno data’r GIG sy’n cael ei gasglu a’i storio mewn gwahanol ffyrdd rhwng y gwledydd datganoledig.
Dywedodd yr Athro Cathie Sudlow, Prif Wyddonydd Ymchwil Data Iechyd y DU a Chyfarwyddwr Canolfan Gwyddor Data Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF), “Mae’r seilwaith bellach yn bodoli i wneud defnydd llawn o botensial data a gesglir yn rheolaidd yn y GIG ym mhedair gwlad y DU. Credwn y gallem ac y dylem ymestyn y dulliau hyn i lawer o feysydd meddygaeth eraill, megis canser, clefyd y galon a diabetes i chwilio am well dealltwriaeth, atal a thrin clefydau.”
Sefydlwyd yr astudiaeth – o’r enw COALESCE – i ddarparu cipolwg a ysgogir gan ddata i lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ar gwmpas brechiadau COVID-19 ac i sefydlu dulliau a seilwaith cronni data i baratoi ar gyfer astudiaethau ledled y DU yn y dyfodol. Fe’i harweinir gan HDR UK a Phrifysgol Caeredin, mewn cydweithrediad â thimau ymchwil o bob rhan o’r pedair gwlad.
Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma yn The Lancet


