

Y mis diwethaf ac mewn partneriaeth â Sefydliad Alan Turning, cyhoeddodd Ymchwil Data Iechyd (HDR) y DU naw ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn galwad am gyllid gwerth £2 miliwn gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) i gefnogi rhaglen Astudiaeth Graidd Genedlaethol (NCS) Llywodraeth y DU.
Ariannwyd naw prosiect, ac roedd pump ohonynt wedi gwneud cais i ddefnyddio Amgylchedd Ymchwil y Gellir Ymddiried Ynddo (TRE) Data Diogel o Gronfa Ddata Gwybodaeth Gysylltiedig Ddienw (SAIL) i sicrhau mynediad diogel at ffynonellau data ar raddfa poblogaeth lefel unigol i gyflawni’r prosiectau ymchwil arfaethedig.
Mae HDR UK yn arwain NCS Data a Chysylltedd, sy’n cysylltu data sy’n hanfodol bwysig i gefnogi pum llif gwaith NCS arall sy’n canolbwyntio ar iechyd cyhoeddus, treialon clinigol, imiwnoleg, trosglwyddiad a ‘COVID hir’.
Estynnodd y fenter hon wahoddiad i gymuned gwyddor data’r DU i gynnig astudiaethau ymchwil a fyddai’n defnyddio’r isadeiledd ymchwil data iechyd drwy’r rhwydwaith TRE ar draws pedair cenedl y DU fel rhan o raglen NCS COVID-19.
Bydd y pum prosiect yn defnyddio Cronfa Data SAIL ac maent oll yn cynnwys cydweithio â phartneriaid o grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Maent yn cynnwys ymchwil i effeithiau’r brechlyn, gofalu am blant â COVID-19 a’r ffordd mae ethnigrwydd a gofnodwyd yn cael ei ddefnyddio mewn gwaith ymchwil.
Gofynnon ni i arweinwyr y pum prosiect ddweud mwy wrthym ni am eu hymchwil a fydd yn defnyddio Cronfa Ddata SAIL, a sut y caiff ei ddefnyddio fel un o’r TREau i gefnogi eu hymchwil.
Yr Athro Aziz Sheikh (Prifysgol Caeredin)
[llun]
Effaith brechlynnau COVID-19 ar fenywod beichiog, plant, pobl ifanc a grwpiau diamddiffyn.
Bydd yr ymchwil hon yn ateb cwestiynau sy’n ymwneud â dewis cael y brechlyn, diogelwch ac effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19 ymhlith plant, pobl ifanc a menywod beichiog. Bydd yr ymchwil yn defnyddio data cysylltiedig o bob rhan o’r DU. Bydd y rhain yn cynnwys meddyg teulu, brechu, profi, dilyniant firol, derbyniadau i’r ysbyty a data am farwolaeth. Bydd gan wyddonwyr data cymwys ac a gymeradwywyd fynediad at y data mewn lleoliadau diogel. Golyga hyn y gall pobl fod yn hyderus y cyrchir data iechyd yn ddiogel ac y caiff eu preifatrwydd ei ddiogelu.
“Rydym ni’n bwriadu astudio effeithiolrwydd y brechlyn a’i ddiogelwch ymhlith menywod beichiog a phlant yng Nghymru gan ddefnyddio Cronfa Ddata SAIL fel rhan o waith dadansoddi y DU gyfan. Dewison ni weithio gyda SAIL oherwydd argaeledd data rhagorol ar lefel genedlaethol, ein profiadau blaenorol o weithio gyda phartneriaid Prifysgol Abertawe, a’r partneriaethau cryf a dibynadwy a feithrinwyd drwy weithio gyda chydweithwyr yn Abertawe dros y blynyddoedd.”
Rhagor o wybodaeth: //://www.hdruk.ac.uk/projects/the-impact-of-covid-19-vaccines-in-pregnancy-children-and-young-people-and-vulnerable-groups/
Dr Olivia Swann (Prifysgol Caeredin)
[Llun]
A oes angen gofal dilynol ychwanegol ar blant a phobl ifanc ar ôl cael haint SARS-CoV-2?
Mae ymchwilwyr am ddatgelu gwir faich y defnydd o ofal iechyd ymhlith plant a phobl ifanc o ganlyniad i COVID-19. I ganfod atebion, bydd y tîm yn cyfuno data gan feddygon teulu ac ysbytai am yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Gan ddefnyddio ymagweddau cyfrifiadurol o’r radd flaenaf i fapio patrymau defnyddio gofal iechyd ymhlith plant a phobl ifanc cyn ac ar ôl mynd i’r ysbyty/cael eu heintio gyda COVID-19. Caiff y rhain eu cymharu â’r plant a’r bobl ifanc hynny nad ydynt wedi cael eu heintio.
“Nod ein prosiect yw canfod a oes angen gofal dilynol ychwanegol ar blant a phobl ifanc ar ôl cael haint SARS-CoV-2. Mae defnyddio data ar lefel poblogaeth yn allweddol i leihau tueddiad wrth ateb y cwestiwn hwn. Bydd gallu defnyddio data gofal sylfaenol ac eilaidd cysylltiedig o safon gan SAIL yn ein galluogi ni i gynnal yr astudiaeth hon ar draws tair cenedl (sef Cymru, yr Alban a Lloegr) i sicrhau ei bod hi mor gynrychiadol â phosib.
Rhagor o wybodaeth > //://www.hdruk.ac.uk/projects/do-children-and-young-people-need-extra-follow-up-care-after-having-sars-cov-2-infection/
Yr Athro Jennifer Quint (Coleg Imperialaidd Llundain)
[Llun]
A yw pobl â chlefydau ysgyfaint cronig â risg uwch o gymhlethdodau cardiofasgwlaidd ar ôl cael COVID-19 na phobl heb glefydau’r ysgyfaint?
Pan fydd pobl yn cael COVID-19, mae graddau’r salwch a pha fath o gymhlethdodau maent yn eu cael yn amrywio’n enfawr. Nod yr ymchwil hon yw archwilio a yw pobl â COVID-19 a chlefyd yr ysgyfaint eisoes (er enghraifft asthma neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint) â risg uwch o gael trawiadau ar y galon, strôc neu dolchenni gwaed yn yr ysgyfaint yn dilyn cael COVID-19 o’u cymharu â phobl â COVID-19 heb glefyd yr ysgyfaint eisoes.
“Bydd defnyddio SAIL yn ein galluogi ni i ateb ein cwestiwn ymchwil mewn perthynas â phoblogaeth Cymru yn ogystal â chynnwys poblogaethau Lloegr a’r Alban. Byddwn yn cyrchu’r data mae ei angen arnom drwy SAIL mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy’n deall y data llawer yn well na ni. Bydd hyn yn ein helpu ni i fwyafu ein defnydd o’r data. Byddwn yn defnyddio sawl ffynhonnell data sy’n gysylltiedig â COVID-19 o ran data gofal sylfaenol ac ysbyty, mewn cydweithrediad â thîm HDR UK yn Abertawe ac fel rhan o’r Consortiwm CVD-COVID-UK. Dewison ni ddefnyddio SAIL oherwydd safon uchel a natur ronynnog y data ac i’n helpu ni i ehangu natur gyffredinol ein canfyddiad.”
Rhagor o wybodaeth > //://www.hdruk.ac.uk/projects/are-people-with-chronic-lung-diseases-at-a-higher-risk-of-cardiovascular-complications-after-having-covid-19-than-people-who-dont-have-lung-diseases/
Dr Sara Khalid (Prifysgol Rhydychen)
[llun]
Gwella dulliau mewn technoleg iechyd i leihau anghydraddoldeb, yn enwedig tueddiadau ar sail ethnigrwydd, gan ddefnyddio COVID-19 fel enghraifft.
Mae anghydraddoldeb iechyd wedi gwaethygu yn sgîl pandemig COVID-19. Mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod yn sâl iawn neu farw o COVID-19. Os oes rhagfarn/gogwydd yn y data neu yn y model, mae’n bosib y gallai cleifion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig dderbyn y gofal anghywir neu ddim gofal o gwbl. Ein nod ni yw gwella technoleg bresennol ar gyfer darogan risg cyflyrau iechyd personol yn y dyfodol, yn enwedig y rhai hynny sy’n effeithio ar grwpiau o gleifion sy’n tueddu i gael eu hanwybyddu.
“Rydym ni’n gwybod bod anghydraddoldebau mewn gofal iechyd a chanlyniadau cleifion pan ddaw i grwpiau ethnig gwahanol, ac mae pandemig COVID-19 wedi amlygu’r broblem. Gall technoleg iechyd ddarogan risg iechyd person yn y dyfodol ond gallai unrhyw duedd yn y modelau arwain at gleifion yn derbyn y gofal anghywir neu ddim gofal o gwbl. Gan weithio gyda data a gesglir fel mater o drefn gan Gronfa Ddata SAIL, ac o leoedd eraill ledled y DU, a chan adeiladu modelau sy’n benodol i grwpiau ethnig penodol, ein gobaith ni yw mynd i’r afael â rhai o’r mathau sylfaenol o ragfarn/gogwydd. Drwy wneud hyn, rydym ni’n gobeithio symud tuag at fodelau realistig, sy’n gynrychioladol ac y gellir eu hail-greu sy’n addas ac yn deg i bobl o bob ethnigrwydd i lywio gofal gwell i gleifion COVID-19.”
Rhagor o wybodaeth > //://www.hdruk.ac.uk/projects/improving-methods-in-health-technology-to-reduce-inequalities-particularly-ethnicity-bias-using-covid-19-as-an-example/
Reecha Sofat (Prifysgol Coleg Llundain a Phrifysgol Lerpwl)
[llun]
Defnyddio data meddyginiaethau i ddeall effeithiau COVID-19 ar ofal clinigol.
Mae meddyginiaethau yn brif ymyriad iechyd cyhoeddus. Hynny yw, dyma’r ffordd fwyaf cyffredin o drin neu wella clefyd. Gallai deall data ar feddyginiaethau, yn enwedig pan fydd yn gysylltiedig â nodweddion unigol a’u problemau iechyd, ein helpu ni i ddeall pa mor effeithiol a diogel yw meddyginiaethau, ond gallai hefyd ein helpu i ddeall y tarfiad ar wasanaethau iechyd yn ystod COVID-19. Nod y prosiect hwn yw cysylltu data meddyginiaethau â data gwybodaeth iechyd i greu dangosfwrdd o sut y caiff meddyginiaethau eu defnyddio ledled y DU. Bydd dangosfyrddau tebyg yn galluogi asiantaethau iechyd allweddol i wella darparu gofal iechyd i gleifion. Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r dangosfwrdd i archwilio sut mae’r defnydd o feddyginiaethau wedi newid yn ystod COVID-19 ac ateb cwestiynau sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau a COVID-19.
“Bydd Cronfa Ddata SAIL yn gydran allweddol o’r gwaith dadansoddi hwn lle mae’r gwaith eisoes ar y gweill, a chan weithio ar y cyd â chenhedloedd eraill y DU byddwn yn gallu darparu gwybodaeth am feddyginiaethau nad ydym ni wedi’i chyflawni o’r blaen. Nod SAIL a’r setiau data eraill ar draws y DU fydd darparu buddion iechyd cyhoeddus, gan gynnwys monitro’r defnydd o feddyginiaethau, targedu triniaethau ar gyfer grwpiau risg uchel neu sy’n cael eu hesgeuluso, gan sicrhau cydraddoldeb mynediad. Os caiff ei wreiddio mewn gofal iechyd, gellir defnyddio SAIL a dangosfwrdd meddyginiaethau’r DU gyfan er budd iechyd y cyhoedd yn barhaus.”
Rhagor o wybodaeth > //://www.hdruk.ac.uk/projects/using-medicines-data-to-understand-the-effects-of-covid-19-on-clinical-care/
Dywedodd Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data yng Nghronfa Ddata SAIL, Ashley Akbari, am y newyddion: “Gan ddatblygu ein cydweithrediad Cymru’n Un presennol ymhellach, mae’n wych gweld y grŵp yn tyfu o ran arbenigedd ac aelodaeth gyda’r newyddion am y cwestiynau ymchwil diddorol hyn, sydd newydd eu hariannu, yn archwilio’r niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n gysylltiedig â phandemig COVID-19.”
[llun]“Gan weithio ar y cyd, mae rhannu a datblygu arbenigedd wedi bod wrth wraidd ein gwerthoedd craidd a’n cryfderau yng Nghymru am amser hir, ac un o brif nodau cydweithrediad Cymru’n Un. Drwy nodi cyfleoedd i gefnogi a chydweithio wrth ddefnyddio data ar raddfa poblogaeth sydd ar gael drwy Gronfa Ddata SAIL, ein nod ni yw cydweithio â phobl a grwpiau ledled y DU a’r tu hwnt. Drwy’r gwaith cydweithredol hwn, ein gobaith ni yw galluogi a chwblhau ymchwil a chyflwyno gwybodaeth sy’n effeithio’n gadarnhaol ar bobl y DU, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr am y gwasanaethau maent yn eu derbyn.”