

Er bod cyfanswm nifer y bobl sydd wedi cael brechiad COVID-19 yn cael ei adrodd yn eang, mae llawer o gwestiynau pwysig am effeithiolrwydd y brechiadau yn y byd go iawn ac ymhlith grwpiau gwahanol o bobl, eu heffaith ar drosglwyddo’r clefyd a sut y bydd brechiadau’n effeithio ar drywydd y pandemig, sy’n gofyn am fynediad i ddata byd go iawn hanfodol ar gyflwyno brechiadau, heintiadau ac ymateb y gwasanaeth iechyd er mwyn caniatáu cynnal gwaith ymchwil.
O heddiw ymlaen, gall ymchwilwyr ddechrau gweithio ar ateb y cwestiynau hyn drwy ofyn am fynediad i ddwy set o ddata hanfodol drwy Borth Arloesi HDR – sef set ddata Brechiadau COVID-19 Lloegr a Set Ddata Brechiadau COVID-19 Cymru.
Mae set ddata Brechiadau COVID Lloegr bellach ar gael drwy Wasanaeth Ymchwil Ddiogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae’n cynnwys data ar lefel cofnodion, wedi’i anomeiddio gan bobl sydd wedi cael brechiad COVID-19, gan gynnwys manylion y math o frechiad a dyddiad y brechiad. Mae Set Ddata Brechiadau COVID Cymru yn cynnwys data tebyg i Gymru, gan ei gwneud hi’n bosib cysylltu data am frechiadau a setiau o ddata iechyd a gweinyddol allweddol eraill sydd ar gael drwy Gronfa Ddata SAIL. Caiff y setiau o ddata hyn eu diweddaru’n ddyddiol, gan roi mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf i ymchwilwyr. Bydd cymeradwyaeth i gyrchu’r setiau o ddata yn seiliedig ar y fframwaith “pum sêff” i sicrhau y caiff y data iechyd hwn ei ddefnyddio mewn ffordd ddibynadwy a chyfrifol.
Bydd cyrchu’r setiau o ddata hyn yn foesegol ac yn ddiogel yn ei gwneud hi’n bosib i gymuned ymchwil iechyd y DU ddeall effaith y rhaglen frechu yn ogystal â llywio camau nesaf y rhaglen frechu. Yn y pen draw, y bwriad yw defnyddio “data, nid dyddiadau” i helpu’r DU i ddychwelyd i fyd yn dilyn y pandemig yn gyflymach.
Rhoddwyd gwaith datblygu isadeiledd cyflym i gefnogi’r mynediad hwn ar waith gan Ymchwil Data Iechyd y DU, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer gwyddorau data iechyd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan weithio mewn partneriaeth i arwain rhaglen “Data a Chysylltedd”, sy’n rhan o Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer Astudiaethau Craidd Cenedlaethol Gwyddonol. Mae’r astudiaethau hyn yn cael eu llywio gan fewnbwn cleifion a’r cyhoedd i sicrhau mynediad at ddata sy’n cynnig budd cyhoeddus wedi’i ddiffinio a’r defnydd ohono.
Dywedodd yr Athro Syr Munir Pirmohamed, Arweinydd Grŵp Isadeiledd Data ar Ymchwil i Frechiadau:
“Mae gan y DU adnoddau data gwych, ond mae’r cysylltiadau yn allweddol i gefnogi ymchwilwyr i ddadansoddi’r data mewn ffordd brydlon. Felly mae hyn yn gam cyntaf rhagorol a phwysig ar y llwybr pwysig tuag at gynyddu ein dealltwriaeth o effaith rhaglen frechu COVID-19.
Dywedodd Alison Pritchard, Dirprwy Ystadegydd Cenedlaethol a Chyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gallu Data yn ONS:
“Mae’n newyddion gwych ein bod ni wedi gallu helpu ymchwilwyr i gyrchu’r data pwysig hwn. Mae ein Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel yn gweithio i sicrhau y gellir cyrchu data o bob rhan o’r Llywodraeth yn ddiogel gan ymchwilwyr achrededig ar draws llywodraeth, academia, y sectorau preifat a gwirfoddol i gryfhau ein dealltwriaeth a thorri tir newydd ar faterion ehangach. Mae’n rhan o’n gwaith ehangach gydag Ymchwil Data Iechyd y DU i symleiddio mynediad at ddata a’i ddadansoddi ac rydym ni’n parhau i archwilio sut y gallem ni wneud gwelliannau pellach yn y dyfodol.”
Meddai Andrew Morris, Cyfarwyddwr Ymchwil Data Iechyd y DU:
“Ni ddylid dibrisio’r gwaith a’r cydweithio a wnaed i sicrhau y gall ymchwilwyr iechyd y DU gyrchu’r data hanfodol hwn yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae hwn yn gyfiawnhad ar gyfer yr ymagwedd “Gwyddor Tîm” a fabwysiadwyd gan ein holl sefydliadau partner. Mae hefyd yn gweithredu fel enghraifft ddisglair o’r hyn y gellir ei gyflawni i alluogi darganfyddiad a mynediad at nid yn unig y data angenrheidiol i’n helpu ni i oresgyn y pandemig hwn, ond hefyd amrywiaeth gyfoethog o setiau data’r DU i ddatblygu gofal iechyd i bawb.”
Dywedodd yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr Cronfa Ddata SAIL:
Rydym ni’n falch ein bod wedi bod yn rhan o ymateb y DU gyfan hon at epidemig COVID, sydd wedi dangos ochr orau’r holl asiantaethau sy’n gweithio gyda data. Mae wedi bod yn fraint i Gronfa Ddata SAIL chwarae rôl genedlaethol lawn fel gwarcheidwad ac wrth rannu data o bob rhan o’r DU, gan gefnogi mwy na 100 o brosiectau dadansoddi ar wahân, yn ogystal â hwyluso’r defnydd o ddata COVID mewn perthynas â’r feirws a’r rhaglen frechu ar gyfer poblogaeth Cymru. Mae’r gwaith yng Nghymru wedi bod yn ganlyniad cydweithio digynsail rhwng asiantaethau GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac ymchwilwyr academaidd, gan ddangos y pethau gwych y gellir ei wneud pan fydd gan bawb un pwrpas.”