

Mae ymchwil newydd wedi datgelu nad oes yr un achos o salwch gwaed prin wedi’i ddarganfod yn y boblogaeth sydd wedi cael brechiad COVID-19 yng Nghymru.
Cynhaliwyd gwerthusiad cyflym o ddata gofal iechyd Cymru i ymateb i gais brys am wybodaeth am dolchennu gwaed sy’n gysylltiedig â brechiad COVID. Ffocws y dadansoddiad oedd deall a oedd adroddiadau am nifer fach o achosion o glefyd tolchennu gwaed prin (venous sinus thromboembolism) y mae adroddiadau amdanynt yn Norwy a’r Almaen hefyd wedi cael eu harsylwi mewn unigolion sydd wedi cael y brechiad yng Nghymru.
Cynhaliodd gwyddonwyr yng Nghronfa Ddata SAIL (Data Diogel o Wybodaeth Gysylltiedig Ddienw) ym Mhrifysgol Abertawe ddadansoddiad gan ddefnyddio data cleifion dienw yn ei Hamgylchedd Ymchwil Ddibynadwy sydd wedi’i achredu i’r safon ryngwladol uchaf (ISO 27001) ar gyfer rheoli data.
Dadansoddwyd data ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2019 a 31 Ionawr 2021 i bennu a oedd cynnydd wedi bod yn nifer achosion y clefyd tolchennu gwaed prin, venous sinus thromboembolism, a gofnodwyd yn ystod cyfnod cyntaf cyflwyno’r brechiad. Yn y cyfnod 25 mis, cofnodwyd cyfanswm o 19 achos o’r clefyd. Ni chofnodwyd achosion newydd o venous sinus thromboembolism mewn unigolion a oedd wedi cael y brechiad yn ystod y cyfnod hwn. Roedd saith person â diagnosis blaenorol o’r cyflwr hwn wedi cael eu brechu erbyn 31 Ionawr 2021.
Rhwng 4 Rhagfyr 2020 a 31 Ionawr 2021, roedd 440,000 o bobl wedi cael o leiaf un dòs o’r brechiad, yn ôl cofnodion data Brechiadau COVID Cymru. O’r rhain, roedd 180,000 o bobl wedi cael brechiad Oxford Astra Zeneca a 260,000 ohonynt wedi cael brechiad Pfizer.
“Mae hyn yn ganfyddiad pwysig am ddiogelwch y brechiadau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru. Ni chanfuwyd unrhyw achosion o’r clefyd tolchennu gwaed prin hwn yn y 440,000 o bobl gyntaf i gael y brechiad hyd at ddiwedd mis Ionawr. Byddwn yn parhau i archwilio ymhellach wrth i ragor o ddata gael ei ryddhau a rhagor o bobl yn derbyn y brechiad. Mae hyn yn newyddion da iawn am ein hymdrechion ar y cyd i ddod allan o’r pandemig hwn ac achub rhagor o fywydau drwy’r rhaglen frechu.”
– Athro Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Cronfa Ddata SAIL, Ronan Lyons.
Mae venous sinus thromboembolism yn gyflwr sy’n cael ei ddiagnosio yn yr ysbyty. Mae oedi ym mhroses codio manwl cofnodion ysbytai, a dyna pam y cafodd y dadansoddiad ei gwblhau hyd at ddiwedd mis Ionawr 2021, ond caiff ei ddiweddaru o hyn allan.
Mae’r cyflwr hwn yn brin, ac mae llai nag un person y mis yn cael ei ddiagnosio ym mhoblogaeth Cymru, sy’n 3.2 miliwn.
Mae gwaith parhaus yng Nghymru i fonitro’r data o’r rhaglen frechu, gan ddefnyddio’r asedau data cysylltiedig sydd gennym yng Nghymru.
Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma ar dudalennau Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru: