

ARCHWILIODD THE HIDDEN COSTS OF COVID-19 GANLYNIADAU PANDEMIG Y CORONAFEIRWS AR AMSEROEDD AROS Y GIG A THRINIAETHAU AR GYFER CYFLYRAU NAD YDYNT YN COVID AC OEDI MEWN LLAWDRINIAETH DDEWISOL. ROEDD RHAGLEN BBC CYMRU, A DDARLLEDWYD AR NOS LUN (9 TACHWEDD 2020), YN CYNNWYS CYFWELIADAU AG ARBENIGWYR O FEYSYDD CANSER, IECHYD MEDDWL, IECHYD CYHOEDDUS A PHOLISI’R LLYWODRAETH.
Cyfwelodd gwneuthurwyr y rhaglen â’r Athro Ronan Lyons, o Brifysgol Abertawe, sy’n Gyfarwyddwr Cronfa Ddata SAIL, a wnaeth grynhoi’r mewnwelediadau a gafwyd o ddata iechyd cyfoethog yn SAIL o frig cyntaf y feirws.
“O ran graddau’r newidiadau, nid ydym ni erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg.”
“Mae arwyddion bod y sefyllfa wedi bod yn gwella, ond yr hyn sy’n ein poeni ni ar hyn o bryd, wrth i’r feirws gynyddu, yw y bydd yn cael effaith gynyddol enfawr ar ysbytai a’u gallu i ddarparu’r gwasanaethau hynny.”
Yr Athro Ronan Lyons
Mae Cronfa Ddata SAIL yn adnodd data poblogaethau cyfoethog a dibynadwy sy’n cynnwys biliynau o gofnodion sy’n seiliedig ar bobl. Mae’n gwella bywydau drwy ddarparu data diogel, cysylltadwy a dienw i ymchwilwyr y gellir eu cyrchu a’u dadansoddi o bedwar ban byd.
Gellir defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth yn SAIL at ddiben monitro effaith amrywiaeth eang iawn o ffyrdd o fod yn agored i’r feirws a’r canlyniadau ar y boblogaeth gyfan, gan ddefnyddio data sydd wedi’i anomeiddio’n gadarn. Gall SAIL fonitro datblygiad ac ymlediad clefydau, gan werthuso effaith dod i gysylltiad â nhw ac effeithiau triniaethau ar ganlyniadau.
Mae Cronfa Ddata SAIL wedi bod yn hanfodol i ymateb ‘Cymru’n Un’ i’r coronafeirws, sef tîm aml-asiantaeth o gyrff academaidd, iechyd, gweinyddol a llywodraethol i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddatblygiadau COVID-19. Rôl SAIL wrth helpu i lywio a darparu gwybodaeth i Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, gan fwydo i SAGE y DU (sef Grŵp Cyngor Gwyddonol ar gyfer Argyfyngiadau).
Darllenwch ragor yma – //://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-54808693