

Cydnabuwyd YDG Cymru fel enghraifft o gydweithio ar ddata yn y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru.
Gwnaeth y Strategaeth, sy’n gosod cynllun ar gyfer gwasanaethau a chynhwysiant digidol yng Nghymru, amlygu’r rôl y mae partneriaeth YDG Cymru wedi’i chwarae sy’n dod â’r Llywodraeth a’r byd academaidd at ei gilydd er mwyn darparu gwaith dadansoddi ar sail data i feysydd polisi Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun yn nodi cyfres o feysydd blaenoriaeth sy’n rhan o chwe chenhadaeth sydd, ar y cyd, yn anelu at gyflymu manteision arloesi digidol ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a byd busnes. Ei fwriad yw ffocysu newid ledled Cymru ac mae’n dod ag ymdrechion cyfunol awdurdodau lleol, y byd academaidd, cynghorau cymunedol, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, y trydydd sector a phartneriaethau cymdeithasol at ei gilydd.
“Caiff gwasanaethau eu gwella drwy weithio ar y cyd, wrth i ddata a gwybodaeth gael eu defnyddio a’u rhannu”
Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn disgrifio sut bydd Cymru’n dylunio ac yn gweithredu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn datblygu’r economi ac yn lleihau anghydraddoldebau. Wedi’i gynnwys yn ei chynllun yw cenhadaeth defnyddio data’n well a chydweithredu:
“Mae data’n ategu popeth yr ydym yn ei wneud yn ddigidol. Mae’n rhaid i ran allweddol o’n huchelgais i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell gynnwys defnyddio data’n well. Mae’n galluogi gwelliant atebol a pharhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi gwasanaethau di-dor, yn galluogi arloesi ac awtomeiddio digidol, ac yn ategu’r gwaith o wneud penderfyniadau da.
“Rydym am wella’r gwasanaethau a ddarperir drwy weithio ar y cyd a sicrhau y caiff yr holl ddata eu defnyddio a’u rhannu’n effeithiol, bod safonau cyson ganddynt, y cânt eu diogelu a’u bod yn mynd lle bydd eu hangen.
Mae hyn yn gallu cynnwys defnyddio data a dadansoddeg data mewn modd arloesol er mwyn trawsnewid yn radicalaidd y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyflwyno craffter newydd. Mae Partneriaeth YDG Cymru eisoes wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio ar y cyd wrth ddefnyddio data ar gyfer ymchwil. Byddwn yn hybu defnyddio gwaith cysylltu data’n fwy, ac yn gwella gallu gwyddor ddata yn y sector cyhoeddus er mwyn trawsnewid sut y defnyddir ein gwybodaeth er budd y cyhoedd.”
Mae YDG Cymru’n uno arbenigwyr ym mhob maes o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd gydag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru.
Nod y data sydd wedi’i gysylltu a’i ddadansoddi gan YDG Cymru yw mynd i’r afael â’r meysydd gweithredu sy’n flaenoriaeth yng Nghymru, fel y nodir yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru sef Ffyniant i Bawb. Mae’r blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, lles, sgiliau a chyflogaeth, ac yn ddiweddaraf waith dadansoddi cyflym i roi cymorth i’r ymateb i Covid-19 yng Nghymru, wrth wraidd gwaith y bartneriaeth.
Mae gwaith YDG Cymru’n galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall llawer mwy am y berthynas rhwng meysydd darparu gwasanaethau gwahanol a deall yn well brofiadau pobl wrth iddynt symud drwy wasanaethau gwahanol. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i ddatblygu polisïau integredig gwell i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol. Mae YDG Cymru’n adeiladu ar hanes o ddefnyddio dulliau ac isadeiledd arloesol i gysylltu data dienw yn ddiogel a’i ddadansoddi. Mae gwaith dadansoddi blaenorol wedi cyfrannu at waith datblygu, monitro a gwerthuso ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru.