

Astudiaeth wedi’i harwain gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yw’r dadansoddiad cyntaf ar lefel genedlaethol o effaith cyfyngiadau symud COVID-19 ar byliau COPD (Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint) a marwolaethau.
Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn partneriaeth ag ymchwilwyr yn Sefydliad Usher Prifysgol Caeredin, a chydweithwyr yn yr astudiaeth EAVE II; prosiect monitro amser go-iawn o COVID-19 yn yr Alban.
Wrth gymharu â data o’r 5 mlynedd diwethaf, darganfu’r astudiaeth gwymp o 39% mewn ymgynghoriadau â Meddygon Teulu a chwymp o 48% o ran cael derbyn i’r ysbyty oherwydd COPD, ar ôl cyflwyno’r cyfnod cyfyngiadau symud cyntaf yn genedlaethol. Hefyd, darganfu’r astudiaeth nad oedd tystiolaeth bod marwolaethau oherwydd COPD wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod defnyddio llai o ofal iechyd ar y raddfa hon ar gyfer cyflyrau eraill wedi cyfateb i fwy o farwolaethau.
Mae COPD yn gyflwr cyffredin sy’n effeithio ar ysmygwyr a chyn-ysmygwyr yn bennaf, ond nid y rheini’n unig, wrth iddynt heneiddio, gan arwain at fod allan o wynt a phroblemau anadlu eraill.1 Mae COPD yn gyflwr na ellir ei wella sy’n gallu cyfyngu lefelau gweithgarwch ac ansawdd bywyd dioddefwr yn ddifrifol, ac nid yw llawer o bobl yn gwybod ei fod ganddynt.1 Amcangyfrifir bod 1.2 miliwn o bobl yn byw gyda COPD ar ôl cael diagnosis; tua 2% o boblogaeth y Deyrnas Unedig.2
Wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol â chymorth BREATHE – yr Hyb Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol – defnyddiodd awduron yr astudiaeth ddata ar sail poblogaeth gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban a Banc Data SAIL yng Nghymru, gyda chwmpas daearyddol bron yn gyflawn ledled yr Alban a Chymru.
Mae’r awduron yn cynghori archwilio yn y dyfodol er mwyn deall yn llwyr y rhesymau ategol sydd wrth wraidd y canlyniadau hyn.
Meddai’r awdur cyntaf a’r Gwyddonydd Data Clinigol, Dr Mohammad Alsallakh, “Roedd y cyfyngiadau symud yn gysylltiedig â’r gostyngiadau mwyaf mewn pyliau COPD rydym ni erioed wedi’u gweld yn yr Alban ac yng Nghymru. Rydym yn meddwl bod hyn oherwydd cyfuniad o ffactorau gan gynnwys llai o heintiau anadlol nad ydynt yn rhai COVID-19 yn cylchredeg, ac ansawdd aer gwell yn yr awyr agored yn ystod y cyfyngiadau symud, a gwelliannau wrth hunan-reoli COPD drwy ysmygu’n llai neu drwy’r rhai sydd mewn perygl yn gwneud newidiadau ymddygiadol eraill.”
Meddai’r Athro Gwyneth Davies, Athro Meddygaeth Anadlol ym Mhrifysgol Abertawe, “Mae’n debyg bod mesurau’r cyfyngiadau symud hefyd wedi arwain at gwymp dramatig mewn pyliau COPD ac mae angen inni ddeall yn well y rhesymau wrth wraidd hyn. Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau pwysig o ran atal pyliau COPD. Mae angen i strategaethau iechyd cyhoeddus ddal yr elfennau cadarnhaol yma a allai leihau pyliau COPD yn y dyfodol. Mae’n debygol y bydd y rhain yn cynnwys mesurau hylendid, hunan-reoli effeithiol ac ansawdd aer gwell.”
Meddai’r Athro Aziz Sheikh, Cyfarwyddwr Sefydliad Usher, Prifysgol Caeredin, a BREATHE, “Ymhlith yr holl lanast mae COVID-19 wedi’i greu yn ein bywydau a’r GIG, mae’n galonogol gweld bod mesurau’r cyfyngiadau symud wedi bod yn gysylltiedig â gwelliannau pwysig mewn rhai canlyniadau iechyd. Darganfu ein hastudiaeth, gan ddefnyddio data o ledled yr Alban a Chymru, bod y cyfyngiadau symud yn gysylltiedig â gostyngiad gwerth bron 50% o ran cael derbyn i’r ysbyty ar gyfer gwaethygiad aciwt Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD). Dyma’r gostyngiadau mwyaf sylweddol mewn COPD a welwyd erioed ledled y Deyrnas Unedig ac mae’n debygol eu bod yn ganlyniad i fesurau hylendid gwell a chyfyngu ar gymysgu’n gymdeithasol, gan arwain at gwymp yn y firysau ymledol sy’n sbarduno llawer o waethygiadau COPD.”
“Mae’r canfyddiadau hyn yn adeiladu ar ein gwaith yn gynharach eleni, sydd hefyd yn dangos gostyngiadau sylweddol mewn gwaethygiadau asthma difrifol. Bellach mae ein ffocws ar nodi’r gwersi trosglwyddadwy gan y gwaith hwn, a gobeithio y bydd modd mynd â hyn ymlaen i’r cyfnod ar ôl COVID er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y miliynau o bobl sy’n byw ag anhwylderau anadlu cronig yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.”
Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau pellgyrhaeddol oherwydd bod gostyngiad mewn presenoldeb yn sgîl COPD yn cynyddu capasiti ac adnoddau gofal iechyd i drin pobl â COVID-19. Gallai archwiliad pellach ar sail y canlyniadau hyn gefnogi’r ymdrech i leihau lefelau llygredd hefyd.
Hefyd, y gobaith yw y bydd y canfyddiadau hyn yn helpu i fanteisio ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu gan gyfyngiadau symud COVID-19 er mwyn cefnogi neges iechyd cyhoeddus well y hwnt i’r pandemig. Er enghraifft, er mwyn hwyluso hunan-reoli effeithiol a lleihau trosglwyddo heintiau anadlol drwy hylendid gwell a mesurau rhagofalus eraill.
Darllenwch y papur llawn yma: //://bmcmedicine.biomedcentral.com/articles/10.1186/s12916-021-02000-w
Cyfeirnodau.
1 //://www.nhs.uk/conditions/chronic-obstructive-pulmonary-disease-copd/