

Mae Cymru’n arwain y ffordd yn ymladd yn erbyn gordewdra ymhlith plant nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol wrth i ymchwil ddarganfod ffyrdd gwell o alluogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau iach, gan gyfrannu at Gymru iachach, fwy egnïol.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru / Newyddion
5 Gorffennaf 2018
Eleni, bydd nifer y plant sy’n beryglus o ordew erbyn iddyn nhw adael ysgol gynradd ddeg gwaith yn fwy nag yn y 1990au, ac mae’r duedd hon yn edrych fel pe bai am barhau.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â hyn ymhell i’r saith deg mlynedd nesaf trwy gynnal ymchwil sy’n casglu data am iechyd a gweithgarwch oddi wrth ysgolion cynradd ac uwchradd, a threialon â’r nod o gynyddu gweithgarwch trwy roi mwy o ddewis i bobl ifanc.
Newid tirwedd ymchwil
Mae Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) Cymru ar flaen y gad ym maes ymchwil i ddarparu sail ar gyfer mentrau atal gordewdra. Mae’r Ganolfan, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi torri’i chwys ei hun o ran darganfod y dystiolaeth i ddatblygu dulliau newydd o weithredu.
Fel yr eglura’r Athro Sinead Brophy, dirprwy gyfarwyddwr NCPHWR: “Mae cymryd ymyriadau sydd wedi gweithio ar gyfer oedolion, a’u defnyddio’n uniongyrchol â phobl ifanc fel ateb sydyn i broblem wedi digwydd yn y gorffennol, ond does yna fawr ddim tystiolaeth bod hyn yn gweithio.
“Rydyn ni’n defnyddio dull hollol wahanol o fynd o’i chwmpas hi trwy ddeall y problemau o safbwynt pobl ifanc a thrwy ddatblygu atebion y mae pobl ifanc eu heisiau, ac sy’n gynaliadwy.”
Creu rhwydwaith iechyd cenedlaethol
Mae’n gallu bod yn anodd i ysgolion gefnogi iechyd a llesiant plant gan fod ganddyn nhw ffocws cadarn ar lythrennedd a rhifedd.
Mae Cymru wedi sefydlu Rhwydwaith Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd (HAPPEN), sydd wedi casglu data am iechyd a gweithgarwch mwy na 4000 o ddisgyblion o ysgolion ledled Abertawe, i ymladd yn erbyn hyn. Mae’r data’n helpu’r ysgolion hynny i sylwi ar anghydraddoldebau iechyd ymysg eu myfyrwyr ac i fynd i’r afael â nhw.
Yn ôl un dirprwy bennaeth, mae’r rhwydwaith HAPPEN eisoes yn helpu i “gynyddu’r cyfleoedd y mae plant yn eu cael”, ac mae tîm HAPPEN yn credu y gallai hwn, yn y 70 mlynedd nesaf, fod yn sail ar gyfer rhaglen iechyd ysgolion genedlaethol. “Fel rhwydwaith rydyn ni’n edrych ar ymestyn ledled Cymru a darparu Rhwydwaith Iechyd Ysgolion Cynradd cenedlaethol i Gymru,” yn ôl Emily Marchant, cydlynydd HAPPEN.
Gofyn y cwestiynau iawn
Y tu hwnt i’r ysgol gynradd, mae gordewdra ymhlith plant yn effeithio’n ddifrifol ar dyfiant a datblygiad pobl ifanc, ac ar eu hiechyd yn hwyrach yn eu bywydau. Gyda thystiolaeth yn dangos bod plant gordew yn aros yn ordew am hirach, mae’n bwysicach nag erioed bod ymchwilwyr yn gofyn y cwestiynau iawn er mwyn creu newid positif ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mewn ymateb, mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil a Llesiant y Boblogaeth wedi datblygu’r rhwydwaith mwyaf yn y byd o ymchwil i iechyd a gweithgarwch disgyblion oed ysgol uwchradd, â’r nod o greu dyfodol iach ar gyfer pobl ifanc.
Trwy gasglu data ddwywaith y flwyddyn oddi wrth fwy na 100,000 o fyfyrwyr mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn galluogi ysgolion i ddeall yr heriau sy’n eu hwynebu’n well, ac yn galluogi ymchwilwyr i nodi’r cwestiynau sydd angen eu hateb.
Meddai’r pen ymchwilydd, yr Athro Simon Murphy: “Rydyn ni’n gallu nodi’r problemau iechyd sydd angen sylw, dwyn sylw at ddulliau ar lawr y dosbarth sy’n gwneud gwahaniaeth a chydweithio i ddatblygu dulliau o weithredu wedi’u seilio ar dystiolaeth a fydd yn gwella’r rhagolygon i genedlaethau’r dyfodol.”
Dros y 70 mlynedd nesaf, fe ellid defnyddio data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion i ymchwilio ymhellach i’r pwnc pwysicaf a mwyaf argyfyngus ym maes iechyd plant, gan arwain at ddatblygiadau mewn polisi ac arfer.
Gadael i arddegwyr ddewis drostyn nhw eu hunain
Er bod y rheini sy’n llunio polisi’n edrych ar y dystiolaeth ac yn ceisio rhoi cynlluniau gweithgarwch corfforol ar waith ar gyfer pobl ifanc, mae plant a phobl ifanc Prydain yn dal i fod ymysg y rhai lleiaf egnïol yn y byd.
Mae ymchwilwyr blaenllaw yng Nghymru’n meddwl eu bod nhw wedi dod o hyd i’r ddolen goll – sef yr arddegwyr eu hunain, eu hanghenion nhw a’r hyn y maen nhw ei eisiau.
Dyna pam fod y Ganolfan Genedlaethol yn casglu data i ddarparu sail ar gyfer ysgolion, a hefyd yn treialu dulliau newydd o weithredu sy’n trin arddegwyr fel unigolion ac yn caniatáu iddyn nhw benderfynu drostyn nhw’u hunain ynglŷn ag ymarfer corff.
Roedd y prosiect ACTIVE (Asesu Ffitrwydd Plant trwy Dalebau Unigol) yn rhoi talebau gweithgarwch i ddisgyblion blwyddyn 9, rhwng 13-14 mlwydd oed, i’w gwario ar weithgareddau corfforol y maen nhw’n eu hoffi, gan rymuso pobl ifanc i ddewis pethau drostyn nhw’u hunain, newid agweddau a lleihau anweithgarwch.
Hefyd fe wnaeth arddegwyr a fu’n cymryd rhan argymhellion ynglŷn â beth fyddai’n gwneud iddyn nhw fod eisiau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gan gynnwys costau is, cael cyfleusterau lleol a gweithgareddau’n benodol ar gyfer arddegwyr.
Meddai Michaela James, rheolwr treial ACTIVE: “Rydyn ni’n bendant yn edrych am gynlluniau ariannu ar gyfer ACTIVE yn y dyfodol. Ein gobaith ydy y gallwn ni ateb rhai cwestiynau a gododd o’n darganfyddiadau er mwyn datblygu ymyriad gwell fyth i helpu arddegwyr i ddod yn fwy egnïol.”
Trwy ystyried argymhellion yr arddegwyr eu hunain o ran rhoi cynlluniau a pholisïau’r dyfodol ar waith, mae’n bosibl y byddwn ni’n gallu annog arddegwyr i fyw bywydau mwy egnïol.
Cael effaith ar Gymru gyfan
Pobl ifanc yw ein dyfodol ac felly mae eu hiechyd o’r pwys mwyaf i ni i gyd, ac mae’r ymchwil y mae’r Ganolfan yn ei chynnal yn diogelu iechyd plant nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Meddai Ronan Lyons, Cyfarwyddwr NCPHWR: “Gall y gwaith sy’n mynd rhagddo gael effaith bositif, nid yn unig ar bobl ifanc a’u cyflawniadau, eu hiechyd a’u llesiant yn y dyfodol, ond hefyd o bosibl ar ddyfodol iechyd a chynhyrchiant Cymru gyfan.”