

Bu dros 25 o wyddonwyr data, ystadegwyr, ymchwilwyr a myfyrwyr yn cydweithio mewn digwyddiad ‘hacathon’ tri diwrnod a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Abertawe. Nod digwyddiad Datathon DPUK oedd herio timau i archwilio setiau data a gedwir ym Mhorth Data DPUK i nodi dangosyddion cynnar o ddementia.
Disgwylir i achosion dementia dreblu erbyn 2050
Disgwylir i achosion dementia dreblu erbyn 2050, felly mae gwyddonwyr yn chwilio am ffyrdd o gyflymu ymchwil dementia a’i wneud yn fwy arloesol, fel y gellir canfod y clefyd yn gynharach o lawer a’i atal rhag gwaethygu.
Mae digwyddiadau datathon yn darparu fforwm cydweithredol a diogel, lle gall ymchwilwyr dementia a gwyddonwyr data weithio i ateb rhai o’r cwestiynau ymchwil pwysicaf ym maes dementia.
Arbrofodd y timau â modelu ystadegol aml-lefel a dysgu peirianyddol
Yn ystod datathon Dementias Platform UK (DPUK) yn Abertawe, daeth cyfranogwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd ynghyd i arloesi ynghylch un o’r problemau mwyaf dyrys ar gyfer ymchwilwyr dementia heddiw – sef sut i adnabod arwyddion cynharaf y clefyd.
Defnyddiodd y timau dechnegau dysgu peirianyddol a dulliau ystadegol traddodiadol eraill i ddatgelu patrymau cudd mewn data carfannau a allai nodi’r rhai y mae perygl iddynt ddatblygu dementia, neu nodi meysydd ymchwil addawol i driniaethau.

Er gwaethaf degawdau o ymchwil ers darganfod clefyd Alzheimer ym 1900, nid yw ffyrdd o drin y clefyd wedi datblygu’n sylweddol ers hynny. I lawer o bobl sy’n byw gyda dementia, mae ymagweddau hollol ffres at ymchwil yn cynnig gobaith – mae’r ymagwedd arloesol yn nigwyddiad datathon Abertawe’n hynod gyffrous.
Ymagwedd ar sail ymchwil at wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia
I ysbrydoli syniadau, clywodd y timau yn nigwyddiad datathon DPUK gan Nigel Hullah. Mae Nigel eisoes yn ymgyrchydd adnabyddus dros hawliau pobl fel ef sy’n byw gyda dementia. Fel Cadeirydd Gweithgor y tair cenedl ar gyfer Dementia, mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ar lefel strategol uchel. Fodd bynnag, mae gweithio gydag ymchwilwyr dementia yn brofiad newydd iddo ef. Yn y digwyddiad yn Abertawe, aeth yr ymchwilwyr i’r afael â mater sy’n fan cychwyn pwysig wrth wella bywydau pobl â dementia ym marn Nigel, sef diagnosis.

Meddai Nigel: “Mae angen ymagwedd gyson ar sail ymchwil at wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a diagnosis a thriniaeth cynnar yw’r man cychwyn. Os oes diagnosis cynnar, os gallwn ddeall y therapïau mwyaf effeithiol yn gynt, gallwn roi mwy o bobl ar y trywydd iawn i fyw’n iach yn hirach.
Mae ymchwil yn mynd law yn llaw â gobaith. Hoffwn weld ymagweddau newydd a thechnegau newydd fel hyn am fy mod i’n gwybod yn bersonol, a thrwy fy holl waith ers cael fy niagnosis fy hun, nad oes amser i’w golli. Mae angen ymagweddau creadigol ac arloesol at ymchwil, i wella cyfraddau diagnostig a dealltwriaeth o’r triniaethau gorau.”
Llwyddiant y Datathon
Meddai John Gallacher, Cyfarwyddwr Dementias Platform UK yn y digwyddiad: “Mae digwyddiadau datathon DPUK yn ffordd newydd o fynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf ar gyfer triniaeth dementia heddiw – sylwi ar yr arwyddion cynnar sy’n anodd eu gweld. Yma yn Abertawe, mae gwyddonwyr data yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau ar waith i ddatrys yr her. Maent yn gweithio ym Mhorth Data DPUK gyda rhai o’r setiau data mwyaf gwerthfawr sydd gennym. Mae ymagweddau arloesol y gwyddonwyr data hyn yn cynrychioli’r math o feddylfryd newydd sydd ei angen arnom ym maes ymchwil dementia heddiw.”
Ychwanegodd Chris Orton, Rheolwr Prosiect DPUK: “Roedd y datathon yn llwyddiant mawr; ar ôl dros 16 awr o archwilio a dadansoddi dros dri diwrnod, daeth y digwyddiad i ben gyda’r pedwar tîm yn rhannu eu cyflwyniadau terfynol.
Roedd setiau data helaeth iawn ar gael i’r timau, gan gynnwys data delweddu a genetig a gasglwyd gan filoedd o gyfranogwyr, a chan ddefnyddio eu hystod eang o sgiliau, roeddent yn gallu ateb cwestiynau cychwynnol ynghylch sawl cydafiachedd dementia. Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau datathon wedi hwyluso ymchwil a dadansoddi ar raddfa nad oedd yn bosib o’r blaen ar gyfer astudiaethau dementia, yn enwedig mewn amgylchedd lle’r oedd cynifer o ymchwilwyr yn cydweithio. Drwy barhau â’n cyfres o ddigwyddiadau datahon, ein gobaith yw y byddwn yn denu rhwydwaith mawr o ymchwilwyr i barhau i archwilio ffyrdd o ddeall dementia a mynd i’r afael ag ef, gan feithrin datblygiad parhaus dulliau ac allbynnau gwyddonol yn y maes hwn.”