

Heddiw, mae Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK) a’r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) wedi cyhoeddi hyb newydd i ddarparu adnoddau data arloesol ar gyfer ymchwil ac arloesi iechyd meddwl. Bydd yr Hyb yn gwella darganfod a defnyddio ffynonellau data amrywiol ar gyfer ymchwil i wella bywydau pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Wedi’i arwain gan yr Athro Ann John ym Mhrifysgol Abertawe a’r Athro Rob Stewart yng Ngholeg y Brenin Llundain, bydd yr Hyb – a elwir yn DATAMIND – yn gwella’r defnydd o ddata mawr ar gyfer ymchwil iechyd meddwl drwy ddarparu gwasanaethau data arbenigol, offer ac arbenigedd i ystod eang o ddefnyddwyr. Bydd DATAMIND yn gweithredu ar draws pob un o bedair cenedl y DU, gan ddod ag arbenigedd o’r GIG, prifysgolion, elusennau, sefydliadau ymchwil a diwydiant ynghyd.
Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bron pawb ar ryw bwynt yn eu bywydau ac i raddau gwahanol, a dyma’r prif achos o afiechyd i bobl sy’n byw yn y DU. Mae pobl sy’n byw gyda salwch meddwl yn llai tebygol o gymryd rhan neu barhau mewn mathau arferol o astudiaethau ymchwil ac efallai y byddant yn cael eu heithrio. Mae hyn yn golygu nad yw llawer o’r hyn rydym yn ei wybod am iechyd meddwl yn seiliedig ar y bobl hynny yr effeithir arnynt fwyaf; serch hynny, mae gan y DU beth o’r data gorau yn y byd, y gellir ei ddefnyddio mewn ymchwil i ddeall sut i atal salwch meddwl a chynnal a gwella bywydau pobl. Mae data go iawn yn cynnig cyfleoedd pwerus i oresgyn y materion hyn.
Bydd yr Hyb DATAMIND yn mwyafu gwerth y data hwn drwy ddod â ffynonellau amrywiol ynghyd mewn ffordd ddiogel, gan gynnwys cofnodion iechyd, data ysgolion a gweinyddol, data elusennau, treialon ymchwil, genomeg, astudiaethau hydredol a data carfan. Bydd DATAMIND yn gallu darganfod y data hwn drwy Borth Arloesedd Ymchwil Data Iechyd y DU a bydd yn helpu ymchwilwyr i ddefnyddio’r data i fynd i’r afael â chwestiynau cymhleth am iechyd meddwl, yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio orau i wella canlyniadau ar lefel bersonol ac o ran y boblogaeth. Mae gan hwn y potensial i wella diagnosis, triniaeth ac yn y pen draw, wella lles seicolegol.
Mae cynnwys y cyhoedd, cleifion a phobl sydd â phrofiad go iawn o broblemau iechyd meddwl yn rhan hanfodol o DATAMIND. Wedi’i gynnwys o’r dechrau a thrwy gydol gweithgareddau’r hyb, bydd y ddealltwriaeth hon yn hysbysu defnydd diogel a chyfrifol o ddata iechyd meddwl ac yn cyflymu cyfleoedd i gael effaith ar gleifion a’r cyhoedd.
Ariennir DATAMIND drwy fuddsoddiad gwerth £2M gan yr MRC. Mae’n ymuno â rhwydwaith sefydledig o Hybiau Ymchwil Data Iechyd, a arweinir gan Ymchwil Data Iechyd y DU ac a ariennir drwy Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol yr UKRI, sy’n ceisio mwyafu dealltwriaeth ac arloesedd o ddata iechyd. Mae’r hybiau hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar wella data ac maent wedi cefnogi ymateb ymchwil i COVID-19 mewn meysydd sy’n cynnwys cyfraddau heintiadau, yr amserlen frechu a deall effaith COVID-19 ar glefydau penodol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Ann John, Cyd-gyfarwyddwr DATAMIND:
“Rydym yn gyffrous iawn am DATAMIND.Drwy gydweithio gyda’r cyhoedd, cleifion, ymchwilwyr, diwydiant a’r GIG, byddwn yn trawsnewid ein dealltwriaeth o iechyd meddwl a bywydau pobl sy’n wynebu problemau iechyd meddwl.Byddwn yn creu Hyb lle gall ymchwilwyr ac eraill ddod o hyd i ddata iechyd meddwl a’i ddefnyddio er budd cleifion a’r cyhoedd ac er mwyn gwella gofal.
Gwyddom ba mor bwysig ydyw bod pobl yn deall sut caiff eu data ei ddefnyddio a theimlo’n gyfforddus, a dyna pam y byddwn yn gweithio’n agos gyda’r cyhoedd, cleifion a’r rhai â phrofiad personol i sicrhau ein bod yn cael y sgyrsiau agored hyn a bod y safonau uchaf o ran diogelwch data a phreifatrwydd yn cael eu bodloni.
Meddai’r Athro Rob Stewart, Cyd-gyfarwyddwr DATAMIND ac Arweinydd Gwybodeg Glinigol a Phoblogaeth yn NIHR Maudsley BRC:
Mae gan y DU gyfle go iawn i arwain y ffordd yn fyd-eang o ran gwyddor data iechyd meddwl, ac mae DATAMIND yn gam cyffrous ar hyd y ffordd.Rwy’n hynod falch fy mod i a chydweithwyr yng Ngholeg y Brenin Llundain a Chanolfan Ymchwil Biofeddygol NIHR Maudsley yn cael y cyfle i chwarae rôl flaenllaw yn y fenter hon, ar ôl treulio’r 15 mlynedd diwethaf yn datblygu Chwiliad Rhyngweithiol Cofnodion Clinigol (CRIS), CogStack ac adnoddau data cysylltiedig eraill sy’n helpu i drawsnewid gofal iechyd meddwl.Gyda chynifer o adnoddau cyfwerth eraill a grwpiau o arbenigwyr ledled y wlad, mae’n bleser cael y cyfle i ddod ynghyd a gwneud gwahaniaeth.”
Meddai Dr Sarah Markham, claf ac aelod cyhoeddus o Fwrdd Trosolwg Annibynnol DATAMIND:
“Mae gan DATAMIND y potensial i wella bywydau cleifion iechyd meddwl a’r gymuned ehangach yn y DU. Mae hwn yn arloesiad hynod gyffrous. Drwy gymryd rhan, rwy’n gobeithio gwreiddio egwyddorion cleifion a chynnwys y cyhoedd a chyd-greu wrth gysylltu, rhannu a defnyddio data a helpu i gefnogi a grymuso cleifion iechyd meddwl yng nghyd-destun ymchwil a arweinir gan ddata.”