

Bydd hyb delweddu arloesol, a ddatblygwyd gan dîm Porth Data Dementias Platform UK (DPUK) yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yn galluogi ymchwilwyr i gael mynediad unigryw at sganiau sy’n delweddu’r ymennydd, ynghyd â data ffenotypig a genomig sy’n hwyluso gwaith dadansoddi o ymchwil fwy cymhleth i ddementia.
Mae Porth Data DPUK yn dod â chofnodion mwy na thair miliwn o bobl ynghyd mewn adnodd sydd ar gael am ddim. Gall ymchwilwyr nodi pa garfanau sy’n berthnasol iddynt, cyflwyno cais am fynediad at y data ac yna eu dadansoddi mewn amgylchedd diogel o bell sy’n cynnwys pecynnau cysylltu a dadansoddi data.
Hyb Delweddu sy’n hwyluso ymchwil gymhleth
Mae’r Hyb Delweddu newydd yn dod â data delweddu craidd ynghyd o 20 o setiau data. Mae’n cynnwys amrywiaeth o sganiau delweddu, megis sganiau delweddu atseiniol magnetig (MRI) adeileddol, gweithredol a thryledol, ac yn eu safoni yn unol â BIDS (Strwythur Data Delweddu’r Ymennydd). Gellir cysylltu’r data hyn â’r data ffenotypig a genomig sy’n gysylltiedig â hwy, gan roi cyfle i ddadansoddi ymchwil gymhleth amlfoddol.
Adnodd darganfod data delweddu
Mae DPUK wedi creu adnodd darganfod data delweddu sy’n galluogi ymchwilwyr i gael cipolwg cyflym ar y data delweddu a’r mathau o sganiau sydd ar gael. Mae DPUK hefyd yn datblygu adroddiadau sy’n cynnig dealltwriaeth o ddata er mwyn rhoi golwg fanwl ar y setiau data, gan gynnwys gwybodaeth am is-fathau clefydau a dulliau casglu. Gellir cael mynediad at yr adnodd hwn yn //://portal.dementiasplatform.uk/AnalyseData/ImagingMatrix
Porth i ddadansoddiadau datblygedig a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol
Bydd yr Hyb Delweddu’n galluogi ymchwilwyr i gael mynediad at nifer mawr o sganiau sy’n delweddu’r ymennydd, ochr yn ochr â chyfoeth o ddata ffenomig a genomig a gesglir gan garfanau, gan hwyluso dadansoddiadau datblygedig megis y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd mawr yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol ym maes ymchwil i ddementia, yn bennaf gan fod swm cynyddol o ddata y gellir eu defnyddio i hyfforddi modelau. Mae Hwb Delweddu Porth Data DPUK yn rhoi cyfle i ymchwilwyr gael mynediad at ddata delweddu mwy na 6,000 o gyfranogwyr, wedi’u safoni yn unol â fformat BIDS, gan hwyluso sgriptiau awtomataidd haws ar draws setiau data. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr i wneud gwaith dadansoddi ar raddfa fawr yn y Porth er mwyn ateb amrywiaeth eang o gwestiynau ymchwil.
Mae’r Porth Data hefyd yn cefnogi gwaith dadansoddi datblygedig ar ddata delweddu drwy ddarparu meddalwedd ddelweddu arbenigol ag amgylchedd rhithwir diogel o bell. Gwneir yr holl waith dadansoddi yn y porth data a dim ond canlyniadau sy’n cael eu rhyddhau. Mae DPUK hefyd wedi integreiddio clwstwr cyfrifiadura perfformiad uchel i hwyluso dadansoddiadau mwy cyfrifiadol eu naws.
Storio data gyda Hyb Delweddu Porth Data DPUK
Yn ogystal â chael mynediad at ddata yn yr Hyb Delweddu, gall ymchwilwyr hefyd gyflwyno cais i storio setiau data mawr yn y cyfrwng delweddu, gan roi cyfle i ddadansoddi, masgio a thagio eu data er mwyn gwella’r hyn a ddarperir a pharatoi’r data at ddibenion ymchwil.
Meddai’r Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cysylltiol DPUK ac Arweinydd Porth Data DPUK: “Mae’r Hyb Delweddu’n agor byd newydd llawn posibiliadau i ymchwilwyr – gan eu galluogi i gael mynediad hawdd at gyfoeth o ddata – a all helpu i drawsnewid ein dealltwriaeth o ddementia.”
I gael rhagor o wybodaeth am Hyb Delweddu Porth Data DPUK, gan gynnwys sut i gyflwyno cais i ddefnyddio, cyrchu neu storio data, ewch i //://portal.dementiasplatform.uk