

Mae ymchwilwyr yn canfod bod 36% yn llai o bobl wedi cael eu derbyn i’r ysbyty yn sgîl asthma yng Nghymru a’r Alban yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf.
Mae astudiaeth gan ymchwilwyr o’r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi canfod bod y cyfyngiadau symud cyntaf yn gysylltiedig â chwymp cyfun o 36% o ran derbyniadau brys yn sgîl asthma.
Potensial o risg fwy yn sgîl COVID-19
Yn gynnar yn y pandemig, nodwyd bod asthma yn ffactor risg posibl o ran cael eich derbyn i’r ysbyty a marw yn sgîl COVID-19, a chan fod y mwyafrif o waethygiadau asthma yn gysylltiedig â salwch firol resbiradol, disgwylid y byddai mwy o waethygiadau asthma.
Gallai negeseuon aros gartref gan lywodraethau, ac ofni’r feirws, fod wedi argyhoeddi cleifion a oedd yn wynebu gwaethygiadau asthma i beidio â cheisio cymorth gan y gwasanaethau iechyd.
Ar y llaw arall, canlyniad y cyfyngiadau teithio a chyswllt cymdeithasol oedd llai o lygredd aer a llai o drosglwyddo firysau resbiradol eraill, a allai fod wedi arwain at gwymp go-iawn o ran gwaethygiadau asthma yn ystod y cyfyngiadau symud. Yn y DU, dechreuodd y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ar 23 Mawrth 2020.
Canfyddiadau ymchwil
Defnyddiodd Athro Meddygaeth Resbiradol Prifysgol Abertawe, Gwyneth Davies a’i chydweithwyr, ddata swyddogol ynghylch derbyniadau brys a marwolaethau yn sgîl asthma gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban a Banc Data Sail yng Nghymru. Gwnaethant gymharu cyfraddau wythnosol yn ystod 18 wythnos gyntaf 2020 â’r cyfartaleddau cenedlaethol dros y cyfnod 2015-2019. Gwnaethant ystyried sut gwnaeth tueddiadau newid rhwng yr 13 wythnos gyntaf yn 2020 o’u cymharu â’r pum wythnos gyntaf ar ôl y cyfyngiadau symud.
Ar draws y ddwy wlad, gwnaeth nifer y gwaethygiadau asthma a arweiniodd at gael derbyn i’r ysbyty ar frys gwympo mwy na thraean (36%) ar ôl y cyfyngiadau symud, ac nid oedd newid sylweddol o ran marwolaethau yn sgîl asthma.
Dywed Davies a’i chydweithwyr,
“Nid ydym ni’n gwybod eto i ba raddau y mae’r niferoedd llai yn ein hastudiaeth sy’n cyflwyno’n frys yn sgîl asthma o ganlyniad i welliannau o ran rheoli asthma neu lai o gysylltiad â sbardunau yn ystod y pandemig, neu osgoi lleoliadau gofal iechyd.”
Rhwystrau
Mae’r ymchwilwyr yn nodi bod sbigyn mawr o ran presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth asthma gan Feddygon Teulu yng Nghymru yr wythnos cyn y cyfyngiadau symud – 121% yn fwy o bresgripsiynau corticosteroidau mewnanadledig a 133% yn fwy o gorticosteroidau geneuol o’u cymharu â’r cyfartaledd dros bum mlynedd. Astudiaeth arsylwi yw hon, ac felly ni all ganfod achos. Mae awduron yr erthygl hefyd yn nodi sawl rhwystr gan gynnwys na ddilyswyd diffiniadau achos a bod nifer fach y marwolaethau yn sgîl asthma yn y ddwy genedl yn cyfyngu ar y gallu i ganfod newidiadau bach o ran marwolaethau yn ystod y cyfyngiadau symud.
Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn partneriaeth â Chanolfan Asthma UK ar gyfer Ymchwil Gymhwysol (AUKCAR) ac fe’i hariannwyd gan BREATHE – yr Hwb Ymchwil i Ddata Iechyd ar gyfer Iechyd Resbiradol. Nododd astudiaeth sy’n wahanol ond yn gysylltiedig a gyhoeddwyd yn Thorax, hefyd gan ymchwilwyr AUKCAR mewn cydweithrediad â BREATHE, gwymp o 20% o ran gwaethygiadau asthma mewn meddygfeydd Meddygon Teulu yn Lloegr yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf.
Darllenwch yr erthygl
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael gan y cyfnodolyn Thorax
http://thorax.bmj.com/lookup/doi/10.1136/thoraxjnl-2020-216380