

Cawsom gyfle’n ddiweddar I gynnal ‘datathon DPUK’. Heriodd y digwyddiad hwn dimau I archwilio setiau data a gedwir ym mhorth data DPUK I nodi dangosyddion cynnar o ddementia.
Darparodd datathon Platfform Dementia’r DU (DPUK) le diogel i ymchwilwyr a gwyddonwyr data dementia gydweithredu ac ateb rhai o gwestiynau ymchwil pwysicaf ynghylch dementia.
Daeth cyfranogwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol ynghyd yn ystod y digwyddiad tri diwrnod i arloesi ynghylch un o’r problemau mwyaf anodd eu datrys i ymchwilwyr dementia heddiw – sef sut i nodi arwyddion cynharaf y clefyd.
Gwnaethom siarad â rhai o’r cyfranogwyr yn y datathon i gael gwybod beth oedd wedi’u hysbrydoli i gymryd rhan a beth y maent wedi’i ddysgu oherwydd y digwyddiad.
Amber John – COLEG PRIFYSGOL LLUNDAIN
Liam Mahedy – PRIFYSGOL BRYSTE
Fatemeh Torabi – Prifysgol Abertawe
Yizhou Yu – PRIFYSGOL RHYDYCHEN
Darllenwch ragor am ddatathon Abertawe yma | Ceir rhagor o wybodaeth am DPUK.