Mae ein gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys y ffyrdd niferus y gellir rhannu gweithgarwch a manteision ymchwil y Brifysgol â’r cyhoedd. Proses ddwy-ffordd yw hon sy’n cynnwys rhyngweithio a gwrando, â’r nod o greu manteision i’r ddwy ochr.
Yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau, mae ymgysylltu’n rhan hanfodol o’n gwaith – rydym yn cynnwys aelodau’r cyhoedd o’r cychwyn cyntaf; o baratoi ceisiadau ymchwil, llywio cyfeiriad ymchwil sydd eisoes ar waith, lledaenu canlyniadau ac effaith ymchwil a gweithgarwch i waith ehangach, megis cynyddu ymwybyddiaeth o ddefnyddio data at ddibenion ymchwil.
