Mae ein hymchwil yn cael effaith uniongyrchol trwy lywio polisïau a gwella iechyd a lles, felly mae ymgysylltu a chyfathrebu yn rhan greiddiol o’n gwaith. Rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd, gyda’r llywodraeth ar bob lefel, a gyda’n cymuned ymchwil a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol ac yn ddealladwy.
Ymchwil i ymarfer polisi
Mae llawer o’n hymchwil yn effeithio’n uniongyrchol ar bolisïau ac, felly, ar iechyd y cyhoedd.
Mae ein harbenigedd a’n technoleg yn ein galluogi i roi cipolwg i wneuthurwyr polisi a’u helpu i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar iechyd a lles miloedd o bobl.
Un enghraifft oedd ein prosiect Gwerthuso effeithiau cynlluniau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a ddyluniwyd er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm isel ar ganlyniadau iechyd trwy ddefnyddio data sy’n bodoli eisoes.
Defnyddiom ddata sy’n bodoli eisoes i werthuso cynlluniau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi incwm isel.
Gan adeiladu ar waith ymchwil blaenorol, ein nod oedd helpu ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddeall effaith tlodi tanwydd ar iechyd pobl a gwerthuso’r strategaeth ar gyfer lleihau nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, â’r nod o lywio polisïau yn y dyfodol.
Y canlyniadau:
-
-
- Dangosom fod y Rhaglen Cartrefi Clyd yn helpu atal problemau iechyd yn ymwneud ag oerfel, sydd felly’n lleihau’r defnydd o wasanaethau gofal iechyd. Mae hyn yn cyfrannu at nodau Llywodraeth Cymru o weld Cymru iachach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus.
- Defnyddiwyd ein canfyddiadau er mwyn datblygu’r cynllun Nyth Cartrefi Clyd newydd ac, yn sgil hynny, mae’r cymhwysedd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim yn y cartref wedi cael ei ymestyn i gartrefi incwm isel sy’n cynnwys pobl sy’n dioddef o gyflyrau anadlu a chylchrediad.
- Parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref ar gyfer cartrefi incwm isel, gyda £104 miliwn wedi’i ymrwymo dros bedair blynedd er mwyn gwella hyd at 25,000 o gartrefi ychwanegol trwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd.
-
Cyfoethogi’r gymuned ymchwil
Mae’r grŵp Gwyddor Data Poblogaeth bellach yn rhan o gymuned ymchwil cyswllt data ffyniannus yn y DU ac yn rhyngwladol, sy’n cydweithio’n agos gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i gynhyrchu ymchwil a gwybodaeth newydd y gellir eu troi yn bolisi ac ymarfer.
Mae ein hadnoddau arbenigedd ymchwil a thechnoleg cyswllt data o ansawdd uchel yn darparu seilwaith sy’n gallu helpu taclo rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw – creu ecosystem ymchwil gyda’r potensial i greu effaith addysgol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
Rydym o hyd yn ceisio gwella ein galluoedd ymchwil trwy ymestyn gallu unigolion, y sefydliad a systemau er mwyn cynnal a dosbarthu ymchwil o ansawdd uchel mewn modd effeithiol ac effeithlon. Rydym helpu datblygu sgiliau, talent ac arbenigedd mewn ymchwil cyswllt data, ac rydym yn darparu’r offer ar gyfer gweithio ar y cyd.
Mae gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn helpu pellhau effaith anacademaidd ein gwaith ymchwil – sef proses sy’n annog rhannu syniadau, canfyddiadau ac arbenigedd gyda phartneriaid allanol a’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector a sefydliadau academaidd eraill. Mae cyfnewid gwybodaeth yn ein helpu i fodloni anghenion y llywodraeth, gwneuthurwyr polisi, cyrff cyllido, cynghorau ymchwil a’r cyhoedd.
Hefyd, rydym yn rheoli partneriaethau a chydweithrediadau gyda chyrff cyllido, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau academaidd – yn y DU ac yn fyd-eang – gan ehangu ein cyrhaeddiad a’n henw da yn rhyngwladol.
The International Journal of Population Data Science
Mae The International Journal of Population Data Science (IJPDS) yn gyfnodolyn digidol a adolygir gan gymheiriaid sy’n canolbwyntio ar y wyddoniaeth yn ymwneud â data’r boblogaeth.
IJPDS yw’r unig gyfnodolyn sy’n benodol ar gyfer yr holl agweddau ar ymchwil, datblygu a gwerthuso gwyddor data’r boblogaeth, ac mae’n dod ag ymchwil i’r maes o wahanol ddisgyblaethau y byddai fel arall yn gweithredu’n annibynnol.
Mae gan IJPDS fwrdd golygyddol o arbenigwyr byd-arweiniol dan arweiniad y Prif Olygydd a’r Sefydlydd, yr Athro Kerina Jones a’r Dirprwy Olygydd, yr Athro Kim McGrail. Mae ein partner strategol, sef The International Population Data Linkage Network (IPDLN), yn rhoi mwy o hygrededd a chyrhaeddiad byd-eang i’r cylchgrawn.
Mae’r holl erthyglau ar gael trwy Open Access gan ein bod yn gwbl gefnogol o rannu gwybodaeth heb gyfyngiadau er budd pawb, ac rydym o’r farn mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o ledaenu ein canfyddiadau ac ysgogi ymchwil newydd.
Mae’r cyfnodolyn yn croesawu’r ffaith fod ymchwil gwerthfawr yn bodoli ar sawl ffurf, ac rydym yn derbyn amrywiaeth eang o fathau o gopïau fyddai tu hwnt i weithredaeth cyfnodolion academaidd eraill yn aml.
Ar ben hynny, mae IJPDS yn dod â dimensiwn newydd arall i fformat traddodiadol y cyfnodolyn academaidd trwy helpu awduron i roi gwybod i’r cyhoedd am ymchwil newydd cyffrous wrth iddo ddod i’r amlwg. Rydym yn cynnig gwasanaeth trwy The Conversation, sef sianel ddylanwadol ac annibynnol sy’n cynnwys barn pobl a newyddion am ymchwil, er mwyn cyflenwi gwaith ymchwil yn uniongyrchol i’r cyhoedd.