Mae’r amgylchedd gweithrediadol ar gyfer Gwyddor Data’r Boblogaeth yn cynnwys dwy ardal ‘lleoliad diogel’ lle mae defnyddwyr yn rhyngweithio â data yn ddiogel – un yn yr Adeilad Gwyddor Data ym Mhrifysgol Abertawe ac un ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r ‘lleoliadau diogel’ hyn yn swyddfeydd diogel lle gall defnyddwyr a gymeradwywyd o flaen llaw ryngweithio gyda’r data a gedwir o fewn ein rhaglen ymchwil. Mae gan yr ardaloedd hyn reolaethau llym er mwyn sicrhau y cynhelir cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd data mewn modd priodol ac yn unol â gofynion a disgwyliadau darparwr y data.
Rydym yn ymrwymo i:
-
-
- ddiogelu eich preifatrwydd a chydymffurfio ag egwyddorion y rheoliadau diogelu data perthnasol;
- sicrhau bod eich data’n cael ei drin yn iawn a bod unrhyw wybodaeth a gedwir gennym yn cael ei storio’n ddiogel a’i defnyddio mewn ffordd gyfreithlon a moesegol.
-
I gael gwybodaeth am ba ddata personol rydym yn ei gasglu, sut rydym yn sicrhau preifatrwydd a sut rydym yn parchu hawliau cyfreithiol unigolion yn ymwneud â data personol, darllenwch ein datganiad preifatrwydd llawn.
Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â chasglu, trin a storio’r data rydym yn ei gael gan unigolion sy’n gweithio gyda grŵp Gwyddor Data’r Boblogaeth, naill ai’r rheiny sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu’r rheiny sy’n gweithio gyda ni i gynnal prosiectau ymchwil.
Mae’r grŵp Gwyddor Data’r Boblogaeth yn gweithredu System sawl System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth ISO/IEC 27001:2013 a ardystiwyd yn allanol. Mae’r safon ISO/IEC 27001 yn fframwaith ddiogelwch gwybodaeth ‘arfer gorau’ sy’n cael ei gydnabod a’i barchu’n rhyngwladol.

