

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Dr Adam Chee o’r Sefydliad Gwyddor Systemau ym Mhrifysgol Genedlaethol Singapore (NUS-ISS) wedi cael ei benodi’n Athro Gwadd Anrhydeddus yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd Dr Adam Chee yn gweithio gyda thîm hyfforddiant ymchwil a meithrin gallu YDG (Ymchwil Data Gweinyddol) Cymru dan arweiniad Dr Pete Arnold yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe (a restrwyd yn y pedwerydd safle yn y DU am feddygaeth gan Times Higher Education 2022 a The Guardian 2022).
Dr Adam Chee yw Pennaeth Canolfan Arweinyddiaeth Iechyd Clyfar yr NUS-ISS. Yno, mae’n arwain ei dîm i drawsnewid profiadau iechyd yn y dyfodol a chael effaith drwy dechnoleg, data a dylunio, gan ddatblygu a chyfuno’r disgyblaethau, y sgiliau a’r technolegau drwy gyflwyno hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymarfer, ymgynghori sy’n seiliedig ar fentora, cydweithrediad ac ymchwil gymhwysol sy’n seiliedig ar ddiwydiant.
Mae Dr Chee yn wyddonydd cydgyfeirio sy’n enwog am ei arbenigedd ym maes gwybodeg iechyd, yn bennaf yn rhanbarthau Asia. Mae’n gyfarwydd ag iechyd a gofal, gwybodeg, gwyddor data, arloesi, technolegau ac agweddau busnes yr ecosystem. Cyn ymuno â Phrifysgol Genedlaethol Singapore, bu’n arwain ychydig o brosiectau rhyngwladol, gan gynnwys trawsnewid iechyd digidol ar gyfer Cyngor Iechyd Saudi yn Nheyrnas Saudi Arabia, dulliau teleiechyd ar gyfer LifeWatch AG yn y Swistir a fframwaith system cyfnewid gwybodaeth iechyd ar gyfer system gwybodaeth iechyd integredig (IHiS) yn Singapore.
Enillodd Dr Chee ei blwyf fel arloeswr yn y diwydiant, gan roi dulliau o ymdrin â gwybodaeth glinigol ar waith a’u rheoli yn ystod ei gyfnod gyda SingHealth (Gwasanaethau Iechyd Singapore). Ers hynny, mae wedi gweithio ar draws yr ecosystem gofal iechyd, gan gynnwys y sector gofal sylfaenol, ysbytai trydyddol preifat a chyhoeddus, sefydliadau ymchwil, asiantaethau iechyd llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol ledled y byd. Roedd hefyd wedi gweithio ym maes TG wrth reoli materion technegol, systemau a thechnoleg yn gynharach yn ei yrfa.
Cydnabyddir Dr Chee am ei wybodaeth am ei faes ac mae’n gweithio fel arbenigwr (iechyd digidol) gyda Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal â bod yn gymrawd HIMSS (Healthcare Information and Management Systems). Ef oedd y person cyntaf o Singapore i gael ei gyflwyno ymysg 50 o arweinwyr arloesi ar restr HIMSS Future50. Yn ogystal, ef yw Cadeirydd HL7 (Health Level Seven) yn Singapore a bu’n aelod sefydlu o Gyngor Gweithredol HL7 Asia. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Technegol Cyngor Safonau Singapore ar gyfer Gwybodeg Iechyd. Mae’n dal sawl swydd gyda chyfadrannau sefydliadau dysgu uwch ledled Asia.
Meddai’r Athro David Ford, Cyfarwyddwr YDG Cymru, Athro Gwybodeg a Chyd-gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Mae’n anrhydedd anferth bod arweinydd byd-eang arloesol o’r fath yn gweithio fel aelod o’n tîm. Bydd profiad, arbenigedd a chefndir unigryw Dr Chee yn amhrisiadwy wrth ein helpu i lunio ein darpariaeth newydd ar gyfer hyfforddiant arloesol a meithrin gallu, a fydd yn diwallu anghenion gwyddonwyr data dwys yn y DU ac yn Singapore.”
Meddai Dr Pete Arnold, Cyd-gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil a Meithrin Gallu YDG Cymru, Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Gwyddor Data Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Croeso cynnes i Dr Chee. Bydd Dr Chee yn rhoi cyngor ar gyflawni amcan strategol yr uned Gwyddor Data Poblogaethau i feithrin gallu gwyddonwyr wedi’u hyfforddi i ddadansoddi setiau data cymhleth, ac ar fathu rhaglen gydweithredol i feithrin gallu. Fe’i cyflwynir drwy ddysgu agored ac adnoddau Datacise – sef hyb hyfforddiant gwyddor data arloesol ar gyfer gwyddonwyr data poblogaethau ledled y byd.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at archwilio syniadau gyda Dr Chee a chael ei gymorth wrth ddatblygu a darparu cyfleoedd hyfforddiant sy’n benodol i gynulleidfa ehangach dysgwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.”
Meddai Mr Khoong Chan Meng, Prif Weithredwr yr NUS-ISS:
“Mae’r NUS-ISS yn cynnig ymagwedd fyd-eang at feithrin arweinyddiaeth, arferion gorau a datblygu gallu mewn meysydd megis iechyd clyfar. Rydym wrth ein boddau i gydweithredu ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn hyderus y bydd Dr Chee o’n Tîm Arweinyddiaeth Iechyd Clyfar yn cyflwyno dealltwriaeth a safbwyntiau newydd ynghylch maes cynyddol bwysig gwyddor data poblogaethau. Rwyf yn dymuno pob lwc i’r tîm wrth iddo barhau i arwain, arloesi a chael effeithiau cadarnhaol i lywio bywydau, iechyd a lles.”
Meddai Dr Chee, Pennaeth Canolfan Arweinyddiaeth Iechyd Clyfar yr NUS-ISS ac Athro Gwadd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Rwy’n edrych ymlaen at fawr at weithio gydag aelodau’r tîm Gwyddor Data Poblogaethau. Maen nhw’n gweithio mewn modd arloesol gyda data gweinyddol sy’n seiliedig ar boblogaethau at ddibenion ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n llwyddo i lywio polisïau a chael effaith arnynt ym maes gofal iechyd, yn ogystal â meysydd gwyddor gymdeithasol a rheoli busnes yn y DU, ac yn fyd-eang mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau tramor, er lles cymdeithasau.
“Maen nhw’n adeiladu ar hyfforddiant o’r radd flaenaf ar gyfer gwyddor data gyflawn, gydag ymagweddau dysgu addasadwy ac arloesol, er mwyn gwella gallu digidol ymchwilwyr neu unrhyw un sy’n defnyddio data gweinyddol neu sydd â diddordeb mewn data mawr, a fydd yn ategu’n effeithiol allu a sgiliau’r gweithlu a brwdfrydedd dros wyddor data dwys.
“Dyma adeg gyffrous i ymuno â’r tîm er mwyn datblygu syniadau ar gyfer gweledigaeth mor bwysig!”
Mae ADR UK (Administrative Data Research UK) yn ariannu Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil a Meithrin Gallu YDG Cymru yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Roedd ADR UK yn fuddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn y lle cyntaf o fis Gorffennaf 2018 tan fis Mawrth 2022. Ym mis Medi 2020, cymeradwywyd cyllid gwerth £15.3m gan UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU), yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Thrysorlys ei Mawrhydi ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, i dalu am flwyddyn gyntaf buddsoddiad tymor hir dros bum mlynedd. Ym mis Medi 2021, sicrhawyd gweddill y cyllid gwerth £90.12m gan Lywodraeth y DU i barhau i dyfu’r rhaglen am bedair blynedd arall, tan fis Mawrth 2026.
