

Mae Prifysgol Abertawe’n rhan o astudiaeth a fydd yn asesu iechyd 20,000 o staff gofal cartref y genedl.
Caiff yr astudiaeth gyntaf i asesu risg COVID-19 i weithwyr gofal cartref ar draws Cymru ei lansio heddiw.
Credir bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar iechyd yr 20,000 o weithwyr sy’n cynnig gofal a chymorth personol i’r henoed neu bobl a chanddynt gyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd yn eu cartrefi eu hunain.
Arweinir yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fe’i cefnogir gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac fe’i hariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Bydd yn asesu iechyd gweithwyr gofal cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys haint COVID-19 ei hun, yn ogystal ag iechyd meddwl a chlefydau eraill.
Bydd yr ymchwilwyr yn cyfuno data cofnodion iechyd electronig cyffredinol a chyfweliadau â gweithwyr gofal cartref i lunio darlun cyffredinol o iechyd y gweithwyr hyn yn ystod y pandemig.
Gobeithir y bydd hyn yn creu canlyniadau cyflym i hysbysu mentrau iechyd cyhoeddus ar gyfer arferion gwaith mwy diogel a chymorth ychwanegol ar gyfer staff yng Nghymru a chenhedloedd eraill y DU.
“Er y bu llawer o bobl yn gweithio gartref yn ystod y pandemig, mae gweithwyr gofal cartref wedi parhau i helpu a chefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas trwy gydol y cyfnod digynsail hwn.” meddai’r Athro Mike Robling, sy’n Gyfarwyddwr Treialon Iechyd y Boblogaeth yng Nghanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd ac yn brif ymchwilydd yr astudiaeth.
“Rydym eisoes yn gwybod o ddata cynnar am iechyd y cyhoedd y bu’r staff hyn yn wynebu mwy o risg o ran COVID-19 na gweithwyr gofal iechyd, a hynny’n rhannol oherwydd bod eu gwaith yn cynnwys cyswllt agos â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain.
“Dyma boblogaeth fawr o weithwyr sy’n eithaf agored i niwed. Maent yn fedrus iawn ac mae’r heriau y maent yn eu hwynebu yn hysbys iawn. Gobeithiwn y bydd ein gwaith yn helpu wrth wella diogelwch ac iechyd y gweithlu hanfodol hwn yn y DU er mwyn iddynt barhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn.”
Bydd yr astudiaeth 18-mis yn mesur achosion posib ac a gadarnhawyd o haint COVID-19 a’i effaith ar iechyd, gan gynnwys marwolaethau. Bydd hefyd yn cymharu tueddiadau mewn iechyd meddwl a chlefydau resbiradol cyn ac ar ôl y pandemig.
Hefyd cynhelir cyfweliadau â 30 o weithwyr gofal am eu profiadau, gan gynnwys am offer diogelu personol a phryderon ynghylch arferion gwaith neu’r hyn y gofynnir iddynt ei wneud.
“Bydd hyn yn ein helpu i lunio model o sut y gallai rhai unigolion wynebu mwy o risg nag eraill,” meddai’r Athro Robling.
“Gallai’r risg hon fod yn gysylltiedig ag oedran, ethnigrwydd, ffactorau iechyd isorweddol neu ffactorau economaidd-gymdeithasol a demograffig eraill.
“Yn hollbwysig, byddwn wedyn yn archwilio a oes modd cymhwyso ein canfyddiadau i rannau eraill o’r DU.
“Rydym yn gallu cynnal y gwaith hwn yma yng Nghymru oherwydd y modd rydym yn cofnodi data ar gyfer gweithwyr gofal – ni fyddai’n bosib cynnal yr astudiaeth hon mewn unrhyw wlad arall yn y DU.
“Wrth i’n canfyddiadau ddod i’r amlwg, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu nodi ffactorau risg cyffredin a allai fod yn berthnasol ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn i’r wybodaeth hon gael ei defnyddio i ddatblygu polisi iechyd cyhoeddus a chefnogaeth well i weithwyr gofal ar unwaith.”
Meddai’r Athro Ann John, cyd-ymchwilydd ar yr astudiaeth ac Athro mewn Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe:
“Bu gweithwyr gofal cartref yn hanfodol wrth gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ystod y pandemig. Yn ogystal â deall effaith yr haint ei hun arnynt, mae’n bwysig inni ddeall ei effeithiau ehangach megis y rhai hynny ar eu hiechyd meddwl, er mwyn inni allu cynllunio sut i fynd i’r afael â’r anghenion hyn yn well yn y dyfodol.”
Meddai Ashley Akbari, Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe a chyd-ymgeisydd ar yr astudiaeth:
“Mae’n bleser gennym y bydd Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) yn cael ei ddefnyddio i alluogi’r astudiaeth hon. Mae SAIL yn amgylchedd ymchwil o fri rhyngwladol sy’n diogelu preifatrwydd. Mae’n gwneud yr astudiaeth hon yn bosib drwy’r isadeiledd sefydledig, y prosesau cysylltu a llywodraethu a sefydlwyd ac a ddatblygwyd dros y deng mlynedd diwethaf yn ogystal â’r perthnasoedd a’r rhwydweithiau gwirioneddol wych a gafodd eu creu ledled Cymru rhwng darparwyr data a’r cyhoedd ehangach, sy’n un o’r cyfansoddion allweddol yn ein cydweithrediad a’n llwyddiant. Drwy weithio ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a’i randdeiliaid, rydym bellach yn edrych ymlaen at gysylltu data newydd a gwreiddiol yn SAIL. Dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei wneud er mwyn archwilio’r canlyniad ymchwil hanfodol ac amserol hwn yn ystod y pandemig COVID-19 presennol.”
Derbyniodd yr astudiaeth £332,000 mewn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, fel rhan o’i alwad am ymchwil i archwilio effaith COVID-19.
