

Mae dadansoddiadau newydd mewn amser real sy’n dangos bod ymlediad Covid-19 yng Nghymru wedi cyfrannu’n uniongyrchol i ymateb Cymru’n Un i Covid-19 yn y wlad.
Mae’r gwaith modelu, a wnaed gan dîm Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, yn dangos gwerth llwyfan mapio casgliadol gofod-amser mewn amser real at ddibenion ymdrechion iechyd cyhoeddus pan fydd clefydau heintus yn ymddangos ac yn ymledu. Mae’r prosiect wedi creu prototeipiau ac wedi cyflwyno i bob lefel o lywodraeth seilweithiau data a chasgliadau dadansoddi sy’n gallu cynnig pecynnau dadansoddi amserol a chraff.
Enghraifft yw’r prosiect ymchwil o’r angen am gyfuniad o sgiliau (Gwybodeg Iechyd, Ystadegau a Daearyddiaeth) sy’n gallu cynnig goleuni ac yna hysbysu polisi llywodraeth leol a chenedlaethol yn ystod argyfwng COVID-19.
Mae gweinyddiaethau datganoledig wedi defnyddio’r ymchwil hon i gynllunio ar gyfer pandemig, er enghraifft wrth nodi mannau lleol problemus y gallai mapio rhanbarthol blaenorol fod wedi’u cuddio. Er mwyn helpu i ddeall sut mae COVID wedi ymledu’n lleol, mae’r prosiect hwn wedi addasu dulliau modelu geo-ofodol soffistigedig a fydd yn amcangyfrif mynychder yr heintiadau cymunedol mewn amser agos-i-real gan ddefnyddio data profi COVID-19. Mae’r mapiau sydd wedi’u creu yn rhoi’r asesiad cenedlaethol cyntaf ar raddfa fân o ddosraniad daearyddol heintiadau COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau mewn labordai.
Adran Gwyddor Data Poblogaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe sydd wedi arwain yr ymchwil, gyda chydweithrediad ar draws y DU gan gynnwys aelodau o Brifysgol Caerhirfryn, Ymchwil Data Iechyd y DU, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gyda chefnogaeth y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Secure E-Research Platform (SeRP). Mae’r prosiect yn defnyddio data patholeg sy’n cadarnhau canlyniad cadarnhaol ar gyfer COVID-19 yn seiliedig ar brawf a dyddiad y prawf. Mae’r data yn cael ei ddal yn ddienw ac yn ddiogel ac yn cael ei dynnu o Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Porth i gael mynediad i wybodaeth sensitif tra’n diogelu preifatrwydd yw Cronfa Ddata SAIL. Yna bydd data a dynnir o Gronfa Ddata SAIL yn cael ei brosesu i greu mewnbwn addas ar gyfer modelu geo-ofodol. Ymhlith yr allbynnau modeledig y mae cyfyngau hyder ystadegol a dangosyddion tebygolrwydd at ddibenion amcangyfrif mynychder – os ydych chi eisiau gweld trosolwg manwl o’r mewnbynnau yna dylech gyfeirio at y papur cyn-argraffu ar y dulliau modelu geo-ofodol
Mae rhagor o ymchwil ar y gweill i fireinio’r modelu ac i asesu’r manwl gywirdeb a bydd diweddariadau yn cael eu hanfon i Gell Cynghori Technegol COVID19 Llywodraeth Cymru yn wythnosol.
Dull ymateb cyflym sy’n cael ei lywio gan wybodaeth fanwl yw Cymru’n Un. Mae’n dod â nifer o bartneriaid ynghyd gan gynnwys, HDR UK, ADR Cymru, Cronfa Ddata SAIL, ADP, BREATHE, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), i lywio’r ymateb i COVID-19 yng Nghymru.
Mae’r cydweithredu hwn wedi arwain at ddull o ymateb ystwyth o ran mynd i’r afael â chreu gwybodaeth fanwl sy’n berthnasol i bolisi ac yn seiliedig ar y blaenoriaethau cyson a newydd er mwyn mynd i’r afael â COVID-19 yng Nghymru. Mae Cymru’n Un wedi hysbysu Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ac yna Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth y DU.
Cydnabyddiaeth
Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio data dienw sy’n cael ei dal yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Hoffem gydnabod pob un o’r darparwyr data a roddodd ddata dienw ar gyfer yr ymchwil.
Cafodd y gwaith hwn ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MR/V028367/1) a chan Health Data Research UK Cyfyngedig (HDR-9006). Ariennir HDR UK gan Gyngor Ymchwil Feddygol y DU, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr), Swyddfa Prif Wyddonydd Cyfarwyddiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth yr Alban, Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth Cymru), Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon), Sefydliad Prydeinig y Galon ac Ymddiriedolaeth Wellcome.Cafodd ymchwil sylfaen ei chynnal gan raglen waith ADR Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth. Mae rhaglen waith ADR yn gydnaws â themâu blaenoriaeth strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae ADR Cymru yn dod â’r timau canlynol ynghyd: arbenigwyr gwyddorau data yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) o Brifysgol Caerdydd a thimau arbenigol yn Llywodraeth Cymru gyda’r nod o ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi Ffyniant i Bawb drwy ddefnyddio Cronfa Ddata SAIL Prifysgol Abertawe, a hynny er mwyn cysylltu data dienw a’i ddadansoddi. Rhan o ADR UK (grant ES/S007393/1) a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU) yw ADR Cymru. Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Newyddion
//://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/vaughan-gething-coronavirus-press-conference-19051114
//://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/coronavirus-lockdown-mark-drakeford-boris-19062299
Related Twitter Post
Coronavirus is still circulating in our communities.
— Welsh Government (@WelshGovernment) October 5, 2020
This map shows just how quickly a few cases can escalate and spread right across Wales 👇
Please keep following guidance to protect yourself and others. Help us to #KeepWalesSafe.
📊: #SAILDatabank pic.twitter.com/7iiLNjc7iX