

Yn yr erthygl a gyhoeddwyd ar newyddion y BMJ ar 20 Ebrill 2021, honnir na chafodd hyd at 800,000 o bobl bregus sydd wedi bod yn diogelu rhag COVID-19 gymorth digonol, megis parseli bwyd, oherwydd cofnodion iechyd anghyflawn. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd i awdurdodau lleol, a chanddynt y dasg o nodi’r rhai mwyaf agored i niwed, gysylltu â llawer o bobl ar y rhestr ddiogelu.
Mewn ymateb i’r erthygl, ar 28 Ebrill 2021 cyhoeddodd grŵp astudiaeth ‘EVITE Immunity’ lythyr sy’n amlygu beirniadaeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin o ran y meini prawf a ddefnyddir er mwyn nodi’r sawl sy’n fregus yn glinigol i’w cynnwys ar y rhestr diogelu rhag COVID-19, ac fe honnir bod y rhestr honno’n seiliedig ar ragdybiaethau’n bennaf.
Yn y llythyr, mae grŵp ‘EVITE Immunity’ hefyd yn cwestiynu effeithiolrwydd sylfaenol ‘diogelu’ fel dull atal heintiadau COVID-19. Mae’r awduron hefyd yn tynnu sylw at ganlyniadau anfwriadol posibl eraill, megis niwed yn sgîl bod yn unig a’r oedi wrth ddarparu gofal ar gyfer materion iechyd eraill.
Wedi’i arwain gan yr Athro Helen Snooks o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae prosiect ‘EVITE Immunity’ wedi cael ei gomisiynu gan Brifysgol Birmingham ac mae’n cynnwys cydweithrediadau â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Warwig, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yr astudiaeth yn defnyddio Banc Data SAIL er mwyn astudio costau gweithredu, nodweddion a deilliannau arferol gan ddefnyddio data arferol cysylltiedig dienw ar raddfa poblogaeth ar gyfer y 117,000 o bobl a nodwyd yng Nghymru ar gyfer diogelu.
Meddai’r Athro Snooks ynghynt,
“Ar hyn o bryd, nid ydym ni’n gwybod pa mor dda mae diogelu’n gweithio. Dyna’r hyn y bydd ein hastudiaeth yn ceisio ei ddysgu, gan ddefnyddio’r data dienw wedi’i storio yma ym Manc Data SAIL. A yw diogelu wedi lleihau heintiadau COVID-19, afiechyd difrifol, marwolaethau? A ydyw wedi effeithio ar imiwnedd neu niwed megis bod yn unig, gorbryder, iselder ysbryd neu oedi gofal ar gyfer problemau iechyd difrifol? Mae gwybod yr atebion i’r cwestiynau hyn yn hanfodol os ydym ni’n mynd i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol”.
Ariennir EVITE Immunity gan Raglen Imiwnedd Astudiaethau Cradd Cenedlaethol Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig (HDR UK).
Cyflwynwyd y llythyr hwn mewn ymateb i’r erthygl gan Grŵp Rheoli Ymchwil EVITE Immunity – Bridie Angela Evans; Ashley Akbari; Lesley Bethell; Andrew Carson-Stevens; Lucy Dixon; Ann John; Stephen Jolles; Ronan Lyons; Alison Porter; Bernie Sewell; Victoria Williams; Helen Snooks.