

Date: 11th Gorffennaf 2018
Nod y prosiect, a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, oedd asesu a fyddai rhoi talebau i bobl ifanc eu gwario ar weithgareddau o’u dewis, yn lleihau’r amser y maent yn ei dreulio yn segur, yn gwella ffitrwydd, yn lleihau’r perygl o glefyd y galon ac yn gwella iechyd cyffredinol. Gweithiodd ACTIVE gyda mwy na 70 o bobl ifanc yn eu harddegau o saith ysgol uwchradd yn Abertawe dros y cyfnod astudio 12 mis, gan ddosbarthu 8,000 o dalebau misol gwerth £20 iddynt eu defnyddio ar bethau fel dawnsio, nofio, karate, sglefrfyrddio neu feicio BMX.
Yn y Gweithdy ACTIVE byddwn yn cyflwyno’n canlyniadau, codi ymwybyddiaeth a thrafod datblygiadau i’r dyfodol ar weithgarwch corfforol yn lleol. Nod y digwyddiad hwn yw creu trafodaethau a hyrwyddo gwaith cydweithredol er mwyn gyrru cyfleoedd mewn gweithgarwch corfforol yn eu blaenau i bobl ifanc.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu ewch i Eventbrite