

Date: 26th Mehefin 2018
Hoffai Doeth am Iechyd Cymru eich gwahodd i’n Gweithdy Ymchwilwyr i gwrdd â’n tîm a dysgu sut y gallwch ddefnyddio adnodd Doeth Am Iechyd Cymru ar gyfer eich ymchwil.
Fel y gwyddoch, mae Doeth am Iechyd Cymru yn llwyfan ymchwil am iechyd y boblogaeth, ac mae dros 19,000 o bobl yn cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd. Mae Doeth am Iechyd Cymru yn darparu cronfa ddata o gyfranogwyr y gellir cysylltu â nhw i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.
Rydym hefyd yn casglu data ymddygiadol a barn cyfranogwyr ac wedi cael caniatâd i weld eu data iechyd sy’n cael eu casglu’n rheolaidd. Gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan ateb holiaduron am eu ffordd o fyw a’u cefndir, yn ogystal ag ar faterion iechyd sy’n effeithio ar Gymru, megis sgrinio canser, costau meddyginiaethau i’r GIG ac ati.
Mae’r wybodaeth hon wedi’i chysylltu â data’r GIG drwy gronfa ddata SAIL ac mae ar gael (ar gais) i ymchwilwyr.
Gall Doeth am Iechyd Cymru gefnogi eich gwaith mewn tair prif ffordd:
- Gallwch wneud cais i weld y data a gasglwyd gennym drwy ein Porth.
- Gallwch wneud cais i gyflwyno holiadur i’w ychwanegu at wefan Doeth am Iechyd Cymru er mwyn casglu data am bwnc yr ydych chi’n ymchwilio iddo.
- Gallwch hysbysebu cyfleoedd astudio ymysg ein cyfranogwyr.
I gael gwybod rhagor am y prosiect, a’r ffyrdd y gallwn ni weithio gyda’n gilydd, ymunwch â ni yn ein gweithdy ddydd Mawrth 26 Mehefin.