Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) yn canolbwyntio ar ddwy raglen ymchwil graidd: Datblygiad iach i Blant a Phobl Ifanc a Heneiddio’n Iach.
Cefnogir hyn gan dystiolaeth helaeth bod ymyrryd yn gynnar yn ystod plentyndod ac ieuenctid yn fwy tebygol o dorri’r cylch o anghydraddoldebau iechyd a’r costau iechyd, cymdeithasol ac economaidd cynyddol sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd hir dymor.
Datblygiad Iach – Plant a Phobl Ifanc
Mae ymchwilwyr NCPHWR yn defnyddio data er mwyn cael dealltwriaeth well o iechyd plant a phobl ifanc, ac effaith polisïau a gwasanaethau ar eu canlyniadau. Mae gwaith ymchwil blaenorol yn cynnwys:
Heneiddio’n Iach
Mae ymchwilwyr NCPHWR yn defnyddio data cysylltiedig er mwyn astudio’r ffactorau a all helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau hirach a mwy iach. Mae gwaith ymchwil blaenorol yn cynnwys:
Oes gennych chi gwestiwn yr hoffech i ymchwilwyr NCPHWR ei ateb, neu ydych chi eisiau gweithio gyda’r Ganolfan?
Mae tîm ymchwil y Ganolfan wrthi’n chwilio am gyfleoedd i weithio ar brosiectau cydweithredol newydd ar themâu Plant a Phobl Ifanc a bywyd gwaith estynedig iach. Maent yn awyddus i weithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, elusennau, ysgolion, llywodraeth leol a chenedlaethol a grwpiau cymunedol.
Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn ymchwil neu os hoffech drafod sut gall NCPHWR helpu i wella eich gwasanaeth gofal iechyd, gofal cymdeithasol, elusen neu ysgol.