

Yn ôl canfyddiadau astudiaeth ddiweddar, gallai yfed alcohol yn ystod plentyndod fod yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwael yn hwyrach mewn bywyd – megis camdrin alcohol, dibyniaeth ar alcohol a chanlyniadau negyddol eraill gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol gwael, marwolaeth, ac anabledd.
Yn yr astudiaeth hon, edrychodd tîm cydweithredol dan arweiniad ymchwilwyr o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ar y berthynas rhwng ffactorau iechyd plentyndod, amgylchedd y cartref a chanlyniadau mewn perthynas ag alcohol yn ystod glaslencyndod gan ddefnyddio ymagwedd dau gam.
Mae canfyddiadau’r astudiaeth, a gyhoeddwyd gan IJDPS, yn awgrymu y gall ffactorau megis gorfywiogrwydd a phroblemau ymddygiad plentyn, diffyg cefnogi teuluoedd, trafferthion teuluol, defnydd alcohol gan y rhieni, diffyg diddordeb y rhieni mewn defnydd alcohol eu plentyn a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (e.e., Cam-drin plant a rhwygiadau teuluol) ddarogan y defnydd cynnar o alcohol.
Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu y gallai fod yn bosibl adnabod ffactorau sy’n gallu cynyddu’r risg o ddefnyddio alcohol yn gynnar, ond nid oes ymchwiliad cyflawn yn seiliedig ar ddata i ffactorau iechyd ac amgylchedd y cartref wedi cael ei gwblhau hyd yn hyn.
Cam Un – adnabod y ffactorau risg
Yng ngham un yr astudiaeth, defnyddiodd y tîm ymchwil Arolwg Carfan y Mileniwm (MCS) i helpu i adnabod ffactorau risg posibl sy’n gysylltiedig â’r defnydd cynnar o alcohol.
Mae Carfan y Mileniwm yn garfan neu’n grŵp o blant a anwyd yng Nghymru rhwng 2000 a 2002. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda rhieni’r plant pan oedd y plant yn naw mis oed, ac wedyn pan oeddent yn dair, yn bump, yn saith ac yn un ar ddeg oed. Yna cysylltwyd yr wybodaeth hon â chofnodion iechyd electronig oedd yn cynnwys hanes meddygol dienw.
Cam Dau – cymhwyso ffactorau risg i boblogaeth gyfan Cymru
Nesaf, cymerodd y tîm ymchwil y ffactorau risg a nodwyd yng ngham un a’u cymhwyso i ddata dienw oedd ar gael am yr holl blant a anwyd yng Nghymru rhwng 1998 a 2002.
Trwy’r broses dau-gam hon roedd y tîm yn gallu creu proffil o nodweddion tebygol y plant sy’n mynd ymlaen i ddatblygu problem gydag alcohol yn ystod glaslencyndod.
Wrth edrych ar boblogaeth gyfan Cymru, mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu bod y prif ffactorau risg yn cynnwys:
- Iechyd meddwl a chorfforol gwael y fam.
- Byw gyda rhywun sydd â phroblem alcohol.
- Aelwyd oedolyn sengl
- Amddifadedd.
- Gorfywiogrwydd a phroblemau ymddygiad y plentyn.
Mae plant sy’n profi digwyddiad iechyd, sy’n derbyn cymorth ar gyfer eu hanghenion iechyd (e.e., yn gweld y meddyg teulu), yn wynebu llai o risg o ran defnyddio alcohol yn gynnar.
Meddai Amrita Bandyopadhyay, Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Genedlaethol Iechyd y Boblogaeth: “Mae canfyddiadau ein hastudiaeth yn awgrymu bod gan deuluoedd sydd â phroblemau alcohol amlwg, sy’n byw mewn amddifadedd, sy’n profi problemau ymddygiad plentyn, a’r rhai nad ydynt yn ymweld â meddyg teulu, risg uwch o ymddygiad yfed alcohol cynnar. Dylid blaenoriaethu’r grwpiau risg uchel hyn ar gyfer cymorth ac ymyrraeth blynyddoedd cynnar i dargedu problemau yfed ymhlith pobl ifanc.”
Darllenwch y papur yma – //://ijpds.org/article/view/1717
Cefnogwyd y gwaith hwn gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR)