

Mae’r cyfnodolyn Gwyddor Data Poblogaeth blaenllaw hwn yn ehangu ei fri wrth gael ei gynnwys yn PubMed Central.
Abertawe, Cymru, Medi 2020 – Mae’r International Journal of Population Data Science (IJPDS) yn falch i gyhoeddi ei fod yn cael ei gynnwys yn PubMed Central.
Mae 2020 yn flwyddyn fawr i IJPDS! Cafodd y cyfnodolyn ei fynegeio yn Scopus yn ddiweddar, a nawr rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod IJPDS wedi’i dderbyn i’w fynegeio yn PubMed Central® (PMC), a’i fod bellach yn fyw ar y platfform hwnnw. Mae tîm IJPDS wedi treulio dwy flynedd yn paratoi ar gyfer gofynion manwl PMC, a dilynwyd hyn gan broses werthuso a sefydlu 6 cham drwyadl iawn, cyn cael cymeradwyaeth gan PMC a sicrhau’r cyflawniad rhagorol hwn. Dyma ychwanegiad pwysig i’r rhestr sylweddol o gymwysterau’r cyfnodolyn, a cham cadarnhaol arall ymlaen yn natblygiad maes Gwyddor Data Poblogaeth.
Dywedodd y Prif Olygydd Sefydlol, yr Athro Kerina Jones,
“Dim ond 3 blynedd yn ôl y lansiwyd IJPDS ac rwy’n falch dros ben ein bod eisoes wedi cyrraedd y cam canolog hwn mor gynnar – mae’n gyflawniad rhyfeddol! Mae gan Wyddor Data Poblogaeth y potensial i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pob unigolyn ar y blaned hon, ac mae cael ein cynnwys â mynediad agored yn PubMed Central yn golygu bod yr ymchwil pwysig sy’n cael ei rannu trwy IJPDS bellach yn hygyrch i filiynau yn fwy o bobl ledled y byd. Rydym yn ddiolchgar dros ben i’n hawduron uchel eu parch am eu cyfraniadau parhaus i IJPDS ac i’r maes yn gyffredinol.”
Mae PMC yn archif o destunau llawn sydd ar gael am ddim o lenyddiaeth cyfnodolion biofeddygol a gwyddorau bywyd a gedwir gan Lyfrgell Meddygaeth Genedlaethol Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NIH/NLM) ac mae’n cynnwys dros 6 miliwn o gofnodion testun llawn, sy’n ymestyn dros sawl canrif o ymchwil biofeddygol a gwyddorau bywyd (o ddiwedd y 1700au hyd at heddiw).
Ychwanegodd Dirprwy Olygydd IJPDS, yr Athro Kim McGrail,
“Unwaith eto, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant IJPDS – o staff y cyfnodolyn i’n bwrdd golygyddol, y cyfranwyr a’r adolygwyr cymheiriaid. Rydym yn frwdfrydig dros barhau i ehangu ysgolheictod ym maes gwyddor data poblogaeth gyda phob un ohonoch chi.”
IJPDS a PubMed Central®
Mae IJPDS yn gyfnodolyn electronig â mynediad agored, a gaiff ei adolygu gan gymheiriaid, sy’n canolbwyntio ar y wyddoniaeth sy’n ymwneud â data poblogaeth. Fe’i sefydlwyd yn 2017 ac mae wedi’i leoli yn Abertawe, Cymru, y Deyrnas Unedig, ac mae’n cyhoeddi erthyglau ar bob agwedd ar ymchwil, datblygiadau a gwerthuso sy’n gysylltiedig â data am bobl a phoblogaethau.
Mae PubMed Central® yn gadwrfa ddigidol â mynediad am ddim, sy’n archifo ac yn rhoi mynediad agored i destunau llawn erthyglau ysgolheigaidd sydd wedi’u cyhoeddi mewn cyfnodolion biofeddygol a gwyddorau bywyd, ac mae’n un o’r prif gronfeydd data ymchwil a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Gwybodaeth Biotechnoleg (NCBI). Mae archif PMC yn cynnwys 6.4 miliwn o erthyglau.