

Cyfnodolyn blaenllaw ar Wyddor Data’r Boblogaeth yn ymestyn ei enw da cynyddol yn sgil ei gyflwyno yn Scopus
Abertawe, Medi 2020 – Mae’r International Journal of Population Data Science (IJPDS) yn falch o gyhoeddi ei fod yn cael ei gynnwys yn Scopus, ‘Y gronfa ddata fwyaf o grynodebau a chyfeiriadau ar gyfer llenyddiaeth wedi’i hadolygu gan gymheiriaid’.
Dim ond 3 blynedd ers ei lansio, mae IJPDS wedi sicrhau ei bresenoldeb mewn rhai o brif fynegeion a chyfeiriaduron addysgol y byd, ac mae wedi ennill rhestr drawiadol o gyflawniadau. I barhau â’r duedd hon a sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel parhaus i’w awduron, mae’n bosibl chwilio pob erthygl a gyhoeddir yn IJPDS yn llawn erbyn hyn ac maent ar gael trwy fynediad agored ar Scopus.
Dywedodd yr Athro Kerina Jones, ei brif olygydd sefydlol,
“Nid yn unig y mae ei dderbyn i’w fynegeio yn Scopus yn gydnabyddiaeth gadarnhaol o hanes y cyfnodolyn o safonau cyhoeddi eithriadol, mae hefyd yn cydnabod gwerth maes Gwyddor Data’r Boblogaeth yn gyfan gwbl – maes sydd newydd ddod i’r amlwg. Rydym yn falch o allu ategu cyfraniadau ein hawduron, gyda’u gwaith i’w weld yn ehangach trwy Scopus, a chael cyfle i erthyglau IJPDS gyrraedd cynulleidfa ehangach o lawer o ddarllenwyr yn fyd-eang.”
Mae dros 5,000 o sefydliadau academaidd, y llywodraeth a chorfforaethol, gan gynnwys sefydliadau o’r radd flaenaf, yn defnyddio Scopus. Nod Scopus yw ateb anghenion gwybodaeth ymchwil ymchwilwyr, addysgwyr, gweinyddwyr, myfyrwyr a llyfrgellwyr ledled y gymuned academaidd gyfan.
Mae Dirprwy Olygydd IJPDS, yr Athro Kim McGrail, yn atseinio neges yr Athro Jones ac yn ychwanegu
“Rydym yn falch iawn bod IJPDS wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon. Bydd ei gynnwys yn Scopus yn cynyddu cyraeddiadau papurau a gyhoeddir yn IJPDS a bydd hefyd yn helpu i ddenu awduron newydd i’n cyfnodolyn. Diolch i gymuned gyfan gwyddor data’r boblogaeth am eich cefnogaeth ac am yr ysgolheictod rhagorol a gyflwynoch i IJPDS.”
IJPDS a Scopus
Mae IJPDS yn gyfnodolyn electronig, mynediad agored, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, sy’n canolbwyntio ar y wyddor yn ymwneud â data’r boblogaeth. Ac yntau wedi’i sefydlu yn 2017 yn Abertawe, mae’n cyhoeddi erthyglau ar bob agwedd ar ymchwil, datblygu a gwerthuso yn gysylltiedig â data am bobl a phoblogaethau.
Mae Scopus yn mynegeio cynnwys o 24,600 o deitlau gweithredol a 5,000 o gyhoeddwyr. Caiff y cynnwys hwn ei ddewis a’i ddilysu’n drylwyr gan fwrdd adolygu annibynnol, ac mae’n defnyddio metadata sylfaenol cyfoethog i gysylltu pobl, syniadau cyhoeddedig a sefydliadau. Trwy ddefnyddio offer a dulliau dadansoddi soffistigedig, mae Scopus yn cynhyrchu canlyniadau cyfeirio manwl gywir, proffiliau ymchwilwyr manwl a chipolygon sy’n llywio gwell penderfyniadau, gweithredoedd a chanlyniadau.